Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau cyn-filwyr ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd a thai, er enghraifft. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw beth penodol am y grŵp o bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond yn sicr fe wnaf ofyn a oes unrhyw beth penodol y byddai modd ei wneud, ac, os felly, bydd datganiad.