Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf fe welwyd blwyddyn gyfan ers lansio'r warant i bobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r rhaglen allweddol hon ar gyfer ymrwymiad oddi wrth y llywodraeth yn rhoi cynnig o gefnogaeth i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, cefnogaeth i ddod o hyd i swydd, neu gefnogaeth i fynd yn hunangyflogedig. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwaith i'n pobl ifanc ni, ac rwy'n awyddus i bob unigolyn ifanc yng Nghymru allu manteisio ar yr hyn sy'n dod yn sgil gwaith da—nid yn unig y gwobrau ariannol, ond yr ymdeimlad o bwrpas a balchder sy'n dod yn sgil bod â swydd. Mae swm y dystiolaeth yn dweud wrthym ni hefyd y bydd yr ymyriadau yr ydym ni'n eu gwneud nawr yn helpu pobl ifanc i gadw swyddi sy'n talu yn well dros gyfnod eu hoes waith nhw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi golygu bod llawer o bobl ifanc ar eu colled o ran profiad gwaith gwerthfawr a chyfleoedd am hyfforddiant yn gynnar iawn yn eu gyrfaoedd nhw. Mae cyflogwyr ar eu colled o ran recriwtio darpar weithwyr ac ar gyfleoedd i greu gweithlu newydd, sy'n fwy deinamig. Mae effaith y pandemig ar ein marchnad lafur ni'n parhau i ddatblygu, ond rydym ni'n eglur o ran yr angen i ddysgu gwersi wrth i ni symud ymlaen.
Yn sgil cyllideb 'fechan' drychinebus gyntaf Llywodraeth y DU, rhagolygon economaidd llwm gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr, a cholli cyllid disodli cyllid yr UE, rwy'n poeni mwy nag erioed am ragolygon cyflogaeth ein pobl ifanc ni. Ac mae'r dirwasgiad yn debygol o achosi mwy o ddiweithdra. Mae colli dros £1 biliwn o gyllid disodli cyllid yr UE yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru lai o allu i atal colli swyddi neu ddarparu'r un gyfradd o gefnogaeth i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae llawer o fusnesau yn parhau i wynebu amodau masnachu heriol a achosir gan broblemau sylweddol gyda'r cytundeb masnach a chydweithredu â'r Undeb Ewropeaidd. Yn erbyn y cefndir hwn, a'r gyllideb sy'n llai mewn termau real sydd gan Lywodraeth Cymru, rwyf i wedi gweithio i flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc cyn belled â phosibl i helpu i sicrhau rhagolygon y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl yn y cyfnod ansicr hwn yr ydym ni'n ei wynebu. Mae'r warant i bobl ifanc yn tynnu ar bob rhaglen a darpariaeth ar draws y sector hyfforddiant, addysg a chyflogadwyedd i gyd-fynd ag anghenion cymhleth ac amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Ers i ni lansio'r warant i bobl ifanc, rydym ni wedi gweld dros 20,000 o ymyriadau yn cael eu darparu drwy ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn unig, ac mae 11,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Erbyn mis Ebrill eleni, roedd dros 18,600 o brentisiaethau pob oed wedi cychwyn eisoes ers dechrau tymor y Senedd hon.
Mae pobl ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol ac ansicrwydd mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae defodau newid byd y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol wedi diflannu. Fe ddylem ni roi teyrnged i'r ffordd y mae cymaint o bobl ifanc wedi addasu i gynllunio ar gyfer eu dyfodol nhw, a chefnogi eu cyfoedion nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau nhw. Mae'r profiad bywyd hwnnw'n rhywbeth y byddai llawer ohonom ni'n ei chael hi'n anodd ei amgyffred. Mae hyn yn ategu pam mae'n rhaid i ni wrando ar leisiau pobl ifanc i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn cefnogi eu camau nesaf nhw. Fe fydd y profiadau hynny a'u camau nesaf nhw'n llywio ein gweithgarwch ni o ran busnes, diwylliant, iechyd, addysg ac yn ein cymdeithas yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi dweud bod dros 60 y cant o bobl rhwng 16 a 25 oed yn mynegi eu pryderon am ddyfodol eu cenhedlaeth nhw, gydag un o bob tri yn poeni na fydd eu rhagolygon gwaith nhw fyth yn gwella wedi'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ar gyfer helpu i oresgyn y pryderon hyn, rydym ni'n parhau i redeg ein hymgyrch ni, sef Bydd Bositif, sy'n ceisio rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth gadarnhaol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i ddechrau ar stori eu bywydau nhw, neu ei newid hi. Roedd yr ymgyrch yn ymateb i effaith pandemig COVID ac fe'i bwriadwyd hi i wrthsefyll digalondid y mae'r cefndir economaidd yn ei achosi yn rhan o'r trafodaethau ynghylch rhagolygon gwaith a'r heriau o ran iechyd meddwl y mae pobl ifanc yn agored iddyn nhw. Yn rhan o'r ymgyrch honno, cynhaliwyd digwyddiad gan Sgiliau Cymru ym mis Hydref a noddwyd gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf ers y pandemig. Fe gefais i'r pleser o weld â fy llygaid fy hun yr ymateb cadarnhaol a oedd gan bobl ifanc wrth gyfarfod â chyflogwyr lleol a chenedlaethol a darparwyr addysg o ansawdd uchel wyneb yn wyneb, ar gyfer cael cyngor arbenigol am yrfaoedd a chael cymorth wrth gynllunio eu gyrfaoedd nhw. Eleni, cymerodd dros 5,000 o bobl ifanc a 45 o arddangoswyr ran yn ystod digwyddiad mwyaf Cymru ynghylch gyrfaoedd, hyfforddiant a phrentisiaeth.
Dirprwy Lywydd, mae'r sgwrs genedlaethol wedi bod wrth wraidd y warant i bobl ifanc, gan ddatblygu ein gallu ni i fod â dealltwriaeth well o'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Ar ddechrau'r flwyddyn y llynedd, fe wnaethom ni ein herio ein hunain i fynd i'r afael â'r dull o gyrraedd at bobl ifanc yn well, a sut i gyfathrebu mewn ffordd sy'n ennill ac yn cadw eu hymddiriedaeth nhw.
Rydym ni wedi canfod bod cenhedlaeth Z, fel y'i gelwir hi gan rai, yn fwy darbodus, difrifol ac ymwybodol o hinsawdd na'u rhagflaenwyr nhw, a bod addysg, cyflogaeth a'u rhagolygon yn y dyfodol yn flaenoriaethau pennaf iddyn nhw. Maen nhw'n fwy tebygol o ddathlu amrywiaeth, a chydbwyso eu hawydd nhw am gysylltiad cyson a'r dechnoleg ddiweddaraf gyda phryderon o ran preifatrwydd a diogelwch. Yn anffodus, mae hon yn genhedlaeth sy'n wynebu rhwystrau sylweddol hefyd o ran iechyd meddwl a hyder. Rydym ni'n gweld mwy o bobl ifanc nag erioed sy'n segur yn economaidd am resymau iechyd, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Yr hyn y gallwn ni fod yn sicr ohono yw bod ôl-effeithiau'r pandemig yn dechrau dod i'r amlwg. Dyna pam rydym ni'n canolbwyntio yn barhaus ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae canolbwyntio ar y rhai nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn hanfodol os ydym ni am fynd i'r afael â bygythiad o gynffon hir o ddiweithdra neu anweithgarwch economaidd mewn blynyddoedd i ddod. Rydym ni eisoes wedi gweithredu yn gadarn ar ffyrdd o wella ein hymwybyddiaeth ni o'r bobl ifanc hynny a allai fod â'r angen mwyaf o gefnogaeth ychwanegol. Fe fydd y fframwaith ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid a gafodd ei hadnewyddu, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Jeremy Miles, Lynne Neagle, Julie Morgan a minnau ym mis Medi â rhan allweddol wrth roi cefnogaeth neu ddarpariaeth briodol ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu nodi a'u cefnogi cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa o gyfyng gyngor.
Mae Twf Swyddi Cymru yn cefnogi dros 3,000 o bobl ifanc yng Nghymru—Twf Swyddi Cymru+, fe ddylwn ddweud, Dirprwy Lywydd—gan roi cymorth i'w pontio nhw i'r farchnad lafur a chyflwyno gweithgareddau dal i fyny i ddysgwyr o ganlyniad i effaith COVID. Rydym ni wedi cysylltu ffyrdd o gael gafael ar y cynllun treialu incwm sylfaenol hefyd ac rydym ni'n ystyried cydweithio pellach i gynyddu'r pecyn o gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu anfanteision cymhleth. Mae dros 2,700 o bobl ifanc wedi cael cefnogaeth gan ein gwasanaeth rheng flaen ni sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol, Cymunedau am Waith+. Mae hynny i fyny o 1,700 ers fy natganiad diwethaf. Mae hi'n galonogol gweld mwy o bobl ifanc yn ymgyflwyno i gael cymorth a hyfforddiant gwaith dwys personol yn eu cymunedau lleol.
I'r rhai sydd ag uchelgeisiau entrepreneuraidd, mewn ychydig dros dri mis mae'r grant cychwyn sydd gennym ni i bobl ifanc â 120 o gyfranogwyr yn barod, sy'n gweithio gyda chynghorwyr busnes i adolygu eu syniadau nhw ynglŷn â busnesau a'u helpu i ddatblygu eu cynlluniau busnes nhw i wneud cais am y grant. Ers hynny mae 75 o bobl ifanc, yn y cyfnod byr y mae'r grant wedi bod ar gael, a oedd yn ddi-waith o'r blaen, wedi cael grant i helpu i gychwyn eu busnesau nhw. Erbyn hyn, mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru fiwro penodol o ran cyflogaeth a menter. Fe fyddan nhw ag enwau gwahanol mewn gwahanol golegau, ond maen nhw'n darparu ehangder o gymorth cyflogaeth a chyfleoedd i symleiddio'r broses o bontio o ddysgu i weithio.
Fe fyddwn ni'n parhau i ddathlu ein llwyddiant ni a hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Dyna pam roeddwn i mor falch o weld llwyddiannau Cymru yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU yng Nghaerdydd fis diwethaf, lle, unwaith eto, Cymru oedd ar frig y bwrdd o arweinwyr o fewn y DU, gyda chyfanswm o 59 o unigolion wedi ennill gwobrau. Fel mae'r gyllideb ddrafft yn dangos heddiw, fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sefyll gyda, a sefyll dros, ein pobl ifanc ni. Yn wyneb y rhagolygon ariannol gwaethaf ers datganoli, rwy'n galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i wneud yr un peth. Mae cryfder ein heconomi ni'n dibynnu ar weithredu gyda'r gefnogaeth gywir nawr. Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.