Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf am y warant i bobl ifanc y prynhawn yma? Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc, naill ai drwy addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu hunangyflogaeth, ac mae'r Gweinidog wedi amlygu rhai o'r arferion da sydd wedi ymsefydlu ers lansio'r cynllun fis Tachwedd y llynedd. Pan roddodd y Gweinidog ddatganiad ddiwethaf am y warant i bobl ifanc, bu ef yn onest iawn o ran rhai o'r rhwystrau ymarferol ynglŷn â chael pobl i gymryd rhan yn y gwasanaeth, ac mae datganiad heddiw yn dweud ychydig mwy wrthym ni am waith Twf Swyddi Cymru+ yn y maes hwn. Mae'r Gweinidog yn sôn hefyd am gydweithio pellach i gynyddu'r pecyn cymorth ar gyfer y rhai sy'n wynebu anfantais gymhleth, felly efallai y gwnaiff ef ymhelaethu ar y datganiad a dweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud yn hyn o beth. Wrth gwrs, wrth i'r warant i bobl ifanc barhau i gyflawni mwy, mae hi'n hanfodol fod barn pobl ifanc ledled Cymru yn cael ei chlywed er mwyn i Lywodraeth Cymru gael cipolwg gwerthfawr ar ddarpariaeth y cynllun a gweld sut gefnogaeth sydd i bobl ifanc yn ymarferol.
Nawr, mae datganiad heddiw yn dweud bod Llywodraeth Cymru, ar ddechrau'r llynedd, wedi ei herio ei hun i fynd i'r afael â dulliau gwell o fynd at bobl ifanc a chyfathrebu mewn ffordd sy'n ennill ac yn cadw eu hymddiriedaeth nhw. Serch hynny, nid yw'r datganiad yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am fynd i'r afael â'r her honno, ac felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd at y bobl ifanc mewn ffordd well a chyfathrebu â nhw fel gall y warant i bobl ifanc addasu, dysgu gwersi a chyflwyno arfer da. Yn gynharach eleni, dywedodd y Gweinidog wrthym ni nad yw'r warant i bobl ifanc yn gynnig disymud, ac rwy'n falch o weld, o'r datganiad heddiw, ei fod yn esblygu ac yn archwilio ffyrdd newydd o gynnig cyfleoedd i bobl ifanc. Mae'r cynnig o ran addysg, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'r warant i bobl ifanc, ac mae datganiad heddiw yn dweud wrthym ni fod gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru fiwro penodol ar gyfer cyflogaeth a menter erbyn hyn. Er fy mod i'n croesawu'r gweithredu o ran y colegau addysg bellach a darparwyr dysgu rwy'n parhau i bryderu am gyllid yn y dyfodol, yn enwedig gan fod llawer yn wynebu costau uwch o ran y ddarpariaeth. O ystyried pwysigrwydd y sector i lwyddiant y warant i bobl ifanc, efallai y gwnaiff roi ychydig mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â maint arfaethedig yr adnoddau o ran cyllid a fydd ar gael i'r sector AB oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae gweithio gyda busnesau yn rhan hanfodol o'r rhaglen, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gweld rhagor eto o gyflogwyr yn cyfranogi o'r cynllun, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw nifer y busnesau sydd wedi ymgysylltu wedi cynyddu ers lansio'r warant i bobl ifanc y llynedd.
Nawr, mae'r grant dechrau busnes bobl ifanc yn cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain, ac rwy'n falch o weld y buddsoddiad hwn yn cael ei wneud, oherwydd fel gŵyr y Gweinidog, mae materion fel cael gafael ar gyllid a datblygu gwybodaeth a hyder mewn busnes yn aml yn rhwystrau i bobl ifanc sy'n dechrau busnesau. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog y rhoi ychydig mwy o wybodaeth i ni am faint sydd wedi cael y grant hwnnw, ac a yw'r grant ar gael ac yn mynd i bobl ledled Cymru. Er enghraifft, a oes mwy y gellir ei wneud i gyrraedd entrepreneuriaid ifanc yng ngefn gwlad, er enghraifft? A sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod ysgolion a darparwyr addysg yn hyrwyddo'r grant fel bydd pobl ifanc yn ymwybodol ohono?
Nawr, fe ellir mesur llwyddiant y warant i bobl ifanc nid yn unig yn ôl niferoedd y bobl ifanc sydd mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant erbyn hyn, ond o ran ei hamrywiaeth a'i chwmpawd hefyd, a chyda hynny mewn golwg, mae hi'n bwysig bod cyfleoedd ar gael i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft. Felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nad yw oedolion ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn cael eu gadael ar ôl.
Dirprwy Lywydd, mae hi'n hanfodol bod yr adnoddau sy'n cefnogi'r warant i bobl ifanc yn rhai digonol, ac mae datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur fod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r warant i bobl ifanc cyn belled ag y gellir gwneud felly, ond nid ydym ni'n cael gwybod ym mha fodd. Felly efallai y gwnaiff y Gweinidog egluro sut yn union y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r warant i bobl ifanc. A yw hyn yn golygu, felly, fod y gyllideb ar gyfer y warant i bobl ifanc yn cael ei chynyddu mewn gwirionedd?
Yn olaf, fe hoffwn i ddim ond cyffwrdd â datblygiad sgiliau gwyrdd a'r angen i sicrhau datblygiad fframweithiau a llwybrau prentisiaethau fel gall pobl ifanc fanteisio ar economi sgiliau gwyrdd y dyfodol. Mae datblygu perthynas gyda busnesau peirianneg, y sector ynni a'r diwydiant yn hanfodol ar gyfer datblygu piblinell o dalent i'r dyfodol, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sgiliau gwyrdd dan adain y warant i bobl ifanc fel y cawn ni ddysgu mwy ynglŷn â dulliau Llywodraeth Cymru o estyn cyfleoedd i bobl ifanc yn y maes hwn.
Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddiweddariad? Mae hi'n amlwg bod y warant i bobl ifanc yn estyn cyfleoedd y mae eu hangen nhw'n fawr ar bobl ifanc, ac mae hi'n hanfodol bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn effeithiol ac yn cefnogi cymaint o bobl â phosibl. Diolch.