4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:55, 13 Rhagfyr 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n colli fy llais, dwi'n meddwl. Allwn ni ddim gorbwysleisio arwyddocâd y datganiad yma. Mae cyhoeddi’r gyllideb yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn seneddol bob amser, wrth reswm, ond mae’r arwyddocâd yn fwy fyth eleni, wrth i Lywodraeth Cymru orfod cyllido yng nghyd-destun sefyllfa economaidd enbyd o anodd. Dwi’n cyd-fynd efo’r Gweinidog cyllid yn ei beirniadaeth hi o’r llanast economaidd sydd wedi bod yn gymaint o nodwedd o Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae wedi ein gadael ni’n dlotach, onid ydy hi, mewn cymaint o ffyrdd, efo’r tlotaf yn cario’r mwyaf o’r baich, ac mae wedi gadael coffrau cyhoeddus yn llawer gwacach nag y dylen nhw fod.

Ond er y cyfrifoldeb amlwg hwnnw ar Whitehall, all Llywodraeth Cymru ddim cuddio y tu ôl i hynny yn llwyr, chwaith. Dyma’r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi, y cardiau wedi cael eu delio i ni fel hyn, a gwaith Llywodraeth sydd heb ei Thrysorlys sofran ei hun, yn anffodus, ydy blaenoriaethu o fewn y ffiniau gwariant sydd ganddi hi. Pan fo’r ffiniau hynny wedi cael eu gosod mor afresymol o dynn, mae’r gwaith o gyllido yn mynd yn anoddach. Dwi’n cydnabod hynny, wrth gwrs, ond dyna ydy’r her.

Mi allwn i dreulio amser yn peintio senario arall lle byddai gan Gymru annibynnol ei gallu cyllidol a ffisgal ei hun, ond at ddiwrnod arall mae hynny. Beth ydyn ni’n gorfod dibynnu arno fo rŵan ydy arloesi, meddwl ffres, gwneud pethau'n wahanol. Pan ydyn ni’n wynebu streic gan nyrsys, streic gan weithwyr ambiwlans, ill dau wedi cyrraedd pen eu tennyn—nid rŵan, ond ar ôl blynyddoedd o ddiffyg cefnogaeth ariannol a fel arall—mae'n rhaid gwthio ffiniau beth sydd yn bosib. Mae'n rhaid edrych ar y bil yna o £133 miliwn am nyrsys asiantaeth, a meddwl sut mae tynnu hwnnw i lawr fel bod y gyllideb yma heddiw ond yn gorfod dod o hyd i ychydig ddegau o filiynau i wneud cynnig cyflog gwell i nyrsys er mwyn, ie, osgoi streic, rhywbeth yr ydym ni i gyd a bob nyrs eisiau ei osgoi, ond yn fwy na hynny, dangos y gwerthfawrogiad sydd ei angen ei ddangos i nyrsys ac sy’n buddsoddi ym morâl y gweithlu.

Mae’r diffyg morâl yna, y niferoedd sy’n gadael nyrsio yn llawer, llawer rhy gynnar, yn rhan fawr iawn o beth sy’n gwneud yr NHS yn anghynaliadwy, ac anghynaladwy fydd o hefyd os ydyn ni’n parhau i weld y lefelau o afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd rydyn ni’n eu profi yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn, degawd ar ôl degawd. Ydy, mae cyd-destun y gyllideb yma yn hynod, hynod o anodd, ond dydy hi ddim wastad wedi bod felly. Mae’r Gweinidog yn peintio darlun o hon yn benodol eleni fel cyllideb ddigynsail, cyllideb argyfwng, bron, lle gwarchod gwasanaethau rheng flaen ydy’r flaenoriaeth. Wrth gwrs bod yna elfen anochel i hynny, ond dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â newid cyfeiriad, wedi methu ag arloesi, yn benodol—rhywbeth sy'n golygu llawer iawn i mi—methu â buddsoddi mewn trawsnewid gwasanaethau, buddsoddiad go-iawn—go iawn rŵan—yn yr agenda ataliol, yn cadw ni'n iach, taclo anghydraddoldebau o ddifrif. A heb wneud hynny, yn ôl yn fan hyn fyddwn ni, yn ôl yn y sefyllfa yma dro ar ôl tro, a phan fo'r sefyllfa ariannol yn dynn, fel ag y mae hi rŵan, mae'r gost yna o fethu â thrawsnewid iechyd y wlad yn mynd yn fwy a mwy o fwrn, fel mae hi rŵan.

Wrth gwrs bod ysbytai'n llawn, wrth gwrs bod rhesi o ambiwlansys yn aros y tu allan i'r ysbytai hynny. Wrth gwrs bod gwasanaethau cymdeithasol yn gwegian. Efallai rhyw ddiwrnod y cawn ni gyllideb sydd yn trio torri'r cylch dieflig yna yn hytrach na gorfod delio efo'r aciwt. Nid hon ydy'r gyllideb honno, dwi’n ofni. Oes, mae yna lanast economaidd, ac ydy, mae'r llanast hwnnw gan y Ceidwadwyr yn sail i'r cyd-destun anodd a'r sefyllfa fyd-eang ehangach. Ond dyna pam bod arloesi gan Lywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed.