Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw yn gwneud gwelliannau i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n berthnasol i Gymru ar ddiogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid. Mae'r diwygiadau hyn yn ofynnol er mwyn gwella eglurder a hygyrchedd deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd domestig a bwyd anifeiliaid Cymru yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, ac i gywiro cyfeiriadau sy'n diffinio awdurdodau gorfodi o ran bwyd anifeiliaid.
Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cynnal y safonau uchel o ddiogelwch bwyd a diogelwch defnyddwyr yr ydym wedi eu sefydlu. Felly, nid yw'r offeryn hwn yn cyflwyno unrhyw lacio ar y drefn gyfreithiol gadarn sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw'r offeryn hwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar weithrediad busnesau bwyd o ddydd i ddydd, ac nid yw'n cyflwyno unrhyw faich rheoleiddio newydd. Nid yw hanfod y ddeddfwriaeth wedi newid.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiad manwl ar yr offeryn arfaethedig. Rwy'n cydnabod ac yn derbyn y pum pwynt craffu technegol sydd wedi'u nodi. Byddaf yn ceisio sicrhau bod y rhain yn cael eu cywiro ar y cyfle cyntaf. O'r pwyntiau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, byddwn yn ceisio sicrhau bod dau yn cael eu cywiro fel slipiau cywiro, a'r tri arall yn cael eu cywiro o fewn offeryn statudol arall sydd i fod i gael ei osod yn ystod hanner cyntaf 2023.
Gan nad yw'r pwyntiau craffu yn cael effaith sylweddol ar y gallu i weithredu'r offeryn hwn, byddwn i felly'n gofyn i'r diwygiadau arfaethedig yn yr offeryn hwn gael eu cefnogi, er mwyn osgoi colli'r pwerau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 sydd eu hangen i wneud y mwyafrif o'r diwygiadau. Bydd y pwerau hyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Mae pwerau amgen ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o ddarpariaethau, ac eithrio nad oes pwerau amgen ar gael i wneud rheoliad 4(8). Mae'r ddarpariaeth hon yn bŵer newydd i Weinidogion Cymru ddiwygio'r rhestrau o sylweddau annymunol o ran bwyd anifeiliaid. Byddai peidio â bwrw ymlaen â'r newidiadau arfaethedig hyn yn creu cyfnod o ymwahanu o ran hygyrchedd ar gyfer y ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr a'r Alban tan yr adeg y gallai fod yn bosibl sicrhau bod rheoliadau Cymru'n cyd-fynd â rheoliadau eraill Prydain Fawr. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr offeryn hwn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2022. Diolch.