– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Item 7 sydd nesaf, y Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022, a dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i wneud y cynnig. Lynne Neagle.
Cynnig NDM8162 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw yn gwneud gwelliannau i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n berthnasol i Gymru ar ddiogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid. Mae'r diwygiadau hyn yn ofynnol er mwyn gwella eglurder a hygyrchedd deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd domestig a bwyd anifeiliaid Cymru yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, ac i gywiro cyfeiriadau sy'n diffinio awdurdodau gorfodi o ran bwyd anifeiliaid.
Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cynnal y safonau uchel o ddiogelwch bwyd a diogelwch defnyddwyr yr ydym wedi eu sefydlu. Felly, nid yw'r offeryn hwn yn cyflwyno unrhyw lacio ar y drefn gyfreithiol gadarn sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw'r offeryn hwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar weithrediad busnesau bwyd o ddydd i ddydd, ac nid yw'n cyflwyno unrhyw faich rheoleiddio newydd. Nid yw hanfod y ddeddfwriaeth wedi newid.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiad manwl ar yr offeryn arfaethedig. Rwy'n cydnabod ac yn derbyn y pum pwynt craffu technegol sydd wedi'u nodi. Byddaf yn ceisio sicrhau bod y rhain yn cael eu cywiro ar y cyfle cyntaf. O'r pwyntiau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, byddwn yn ceisio sicrhau bod dau yn cael eu cywiro fel slipiau cywiro, a'r tri arall yn cael eu cywiro o fewn offeryn statudol arall sydd i fod i gael ei osod yn ystod hanner cyntaf 2023.
Gan nad yw'r pwyntiau craffu yn cael effaith sylweddol ar y gallu i weithredu'r offeryn hwn, byddwn i felly'n gofyn i'r diwygiadau arfaethedig yn yr offeryn hwn gael eu cefnogi, er mwyn osgoi colli'r pwerau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 sydd eu hangen i wneud y mwyafrif o'r diwygiadau. Bydd y pwerau hyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Mae pwerau amgen ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o ddarpariaethau, ac eithrio nad oes pwerau amgen ar gael i wneud rheoliad 4(8). Mae'r ddarpariaeth hon yn bŵer newydd i Weinidogion Cymru ddiwygio'r rhestrau o sylweddau annymunol o ran bwyd anifeiliaid. Byddai peidio â bwrw ymlaen â'r newidiadau arfaethedig hyn yn creu cyfnod o ymwahanu o ran hygyrchedd ar gyfer y ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr a'r Alban tan yr adeg y gallai fod yn bosibl sicrhau bod rheoliadau Cymru'n cyd-fynd â rheoliadau eraill Prydain Fawr. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr offeryn hwn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2022. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd.
Wrth agor ein sylwadau, nodaf fod dwy o'r dadleuon a gyflwynwyd gan y Dirprwy Weinidog a hefyd y Gweinidog, o ran yr offeryn blaenorol ger ein bron, yn debyg iawn, os nad yn union yr un fath. Un yw, wrth basio'r offerynnau hyn heddiw, hyd yn oed gyda'r agweddau diffygiol yr ydym wedi'u nodi, na fyddai'n cael effaith ar y gallu i weithredu'r offeryn hwn ar lawr gwlad, i bob pwrpas, ond yn ail y byddai methu â gwneud hynny yn arwain at gyfnod o ymwahanu o weddill y DU yn hwn a'r un blaenorol.
Fodd bynnag, fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn ar 5 Rhagfyr ac rydym wedi cael cyfle i adolygu ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad ddoe. Diolchwn i'r Dirprwy Weinidog a'i swyddogion am ddarparu eich ymateb iddo. Felly, mae ein hadroddiad ni ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael drwy agenda Cyfarfod Llawn heddiw.
Felly, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth ym meysydd diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid. Roedd pum pwynt adrodd technegol yn ein hadroddiad, dau ohonyn nhw'n ymwneud â drafftio diffygiol a thri ohonyn nhw'n amlygu anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Ac fel mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r pum pwynt yr ydym ni wedi'u codi, ac rydym ni'n cydnabod hynny, ac mae hynny, yn ein barn ni, yn ffordd dda ymlaen. Ond mae hyn yn golygu y bydd angen cywiro'r rheoliadau yr ydym ni nawr yn pleidleisio arnyn nhw y prynhawn yma yn y dyfodol.
Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau wrth fy mhwyllgor y bydd angen mynd i'r afael â thri o'r pwyntiau yr ydym ni wedi'u codi drwy offeryn statudol arall yn y flwyddyn newydd, a, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gyffwrdd â hynny.
Llywydd, yn y ddadl flaenorol soniais ein bod wedi ysgrifennu at y Gweinidog materion gwledig mewn modd eithaf cyflym a gyda brys yn dilyn ein cyfarfod ddoe mewn cysylltiad â'r rheoliadau yr ydym ni dim ond newydd eu trafod. Cafodd y llythyr hwnnw hefyd ei gyfeirio at y Dirprwy Weinidog, oherwydd bod materion tebyg, er nad ydynt ar yr un raddfa, yn bodoli o fewn y rheoliadau hyn. Nawr, soniais fod y llythyr a gawsom mewn ymateb dim ond wedi cyrraedd yn hwyr y prynhawn yma, felly nid ydym yn gallu asesu yn llawn yr hyn a ddywedwyd wrthym a'i archwilio.
Dirprwy Weinidog, un o'r pethau y gwnaethom ni ofyn i chi eu cadarnhau oedd pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gael iddi i wneud yr offerynnau statudol cywiro priodol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn yr ymateb a gawsom i'n hadroddiad. Rydych chi wedi dweud wrthym y gallwch ddefnyddio pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Amaethyddiaeth 1970, felly rydych chi wedi nodi ffordd ymlaen i wneud y cywiriad. Ond, Dirprwy Weinidog, byddwch yn deall, i'n pwyllgor ni, ei bod yn destun pryder eich bod yn annhebygol o wneud y cywiriadau hyn tan chwarter cyntaf neu ail chwarter 2023.
Dirprwy Weinidog, nodaf hefyd eich bod wedi cadarnhau mai dim ond un ddarpariaeth sydd yn y rheoliadau na ellid ei gwneud gan ddefnyddio pwerau amgen, pe byddai'r offeryn hwn yn cael ei dynnu'n ôl. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny yn eich sylwadau cau, a hefyd pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ddefnyddio pwerau sydd wedi'u cynnwys—a soniais am hyn o'r blaen, y prynhawn yma—yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i ganiatáu defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed ar frys fel modd o gywiro'r pum pwynt a amlygwyd gan y pwyllgor.
Llywydd, bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ceisio gwneud yr addasiadau y mae eu hangen i fynd i'r afael â'r ddau bwynt arall yn ein hadroddiad drwy slipiau cywiro. Byddwn yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, ond, i roi rhywfaint o rybudd ymlaen llaw, mae sawl ymateb gan y Llywodraeth i'n hadroddiadau yn ystod y misoedd diwethaf wedi datgan y gofynnir am slipiau cywiro gan y cofrestrydd i fynd i'r afael â gwallau wrth reoleiddio. Felly, byddwn yn gofyn pa ganllawiau sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru a'r cofrestrydd i benderfynu beth all a beth na ellir neu na ddylid ei ddatrys fel hyn.
Felly, fel y dywedais i yn y ddadl flaenorol, pe bai Aelodau'r Senedd yn derbyn dadleuon Llywodraeth Cymru, y ffaith o hyd yw y gofynnir i'r Senedd basio offeryn diffygiol, er bod y raddfa rywfaint yn wahanol. Felly, Dirprwy Weinidog, byddwn i hefyd yn croesawu unrhyw sicrwydd gennych chi y byddwch chi, hefyd, ynghyd â'r Gweinidog yn y ddadl flaenorol, yn gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau na fydd cais i basio offeryn diffygiol yn cael ei roi ger bron y Senedd eto. Diolch.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ofyn i'r Dirprwy Weinidog, pan fyddwch chi'n adolygu'r ddeddfwriaeth hon yn unol â'r cais gan y pwyllgor deddfwriaethol a chyfansoddiadol, i gael golwg ar y labelu ar fwyd babanod, oherwydd mae hyn wedi bod yn rhywbeth sy'n fy mhryderu ers amser maith, oherwydd yn y gorffennol mae'n sicr wedi cael ei godi gyda mi bod siwgr yn cael ei roi mewn bwyd babanod, a halen. Dylai'r ddwy eitem hyn fod yn absennol o fwyd babi, oherwydd nid oes angen yr un ohonyn nhw os yw'r bwyd sy'n cael ei gyflwyno'n addas i fabanod yn fwyd gweddus nad oes angen ychwanegu naill ai siwgr neu halen. Ni ddylai plant bach iawn fwyta'r naill na'r llall. Felly, tybed a allech chi edrych ar hynny fel rhywbeth penodol, o ran a oes angen i ni dynhau'r ddeddfwriaeth ar fwyd babanod, (a) fel ein bod yn ymdrechu i sicrhau nad yw'r diwydiant yn ychwanegu'r naill na'r llall o'r eitemau niweidiol hyn i gynhyrchion y maen nhw'n eu marchnata fel rhai addas ar gyfer babanod, pan fyddan nhw'n barod i symud ymlaen o laeth—gobeithio, llaeth y fron. Dyma gyfle i wneud hynny, felly mi fyddwn yn ddiolchgar iawn petaech chi'n gallu cadarnhau hynny yn eich ymateb.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb. Lynne Neagle.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad a hefyd Jenny Rathbone am ei chyfraniad i'r ddadl heddiw? Rwyf hefyd yn hapus iawn i roi'r sicrwydd y byddaf yn nodi'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud ac yn gwneud beth bynnag a allaf i sicrhau nad ydym yn y sefyllfa hon eto. Felly, mae gennych chi fy ymrwymiad cadarn iawn ar hynny. Fel yr wyf eisoes wedi'i amlygu, nid yw'r offeryn yn gwneud unrhyw newidiadau i bolisi na sut mae busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael eu rheoleiddio, ond rwy'n derbyn nad yw'n ddelfrydol eich bod yn gorfod tynnu sylw at y pwyntiau hyn yn y ffordd y gwnaethoch chi, a byddaf i'n sicr yn gwneud hynny yn y dyfodol.
Jenny, o ran eich pwyntiau chi, byddai'n rhaid i mi ymdrin â'r rheini gyda chi drwy lythyr ynghylch a fyddai hwn yn gyfrwng priodol i ymdrin â'r materion yr ydych chi wedi'u codi, ond rwy'n hapus iawn i wneud hynny. A gaf i ailadrodd fy niolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr adroddiad ac ailadrodd fy ymrwymiad i unioni'r pum pwynt craffu technegol ar y cyfle cyntaf? Gan fod y gwallau yn rhai mân ac nid ydynt yn effeithio'n sylweddol ar allu'r rheoliad arfaethedig na gallu'r ddeddfwriaeth fel y'i diwygiwyd i weithredu, byddwn felly'n gofyn i'r diwygiadau arfaethedig yn yr offeryn hwn gael eu cefnogi. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i'r cynnig yma, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yna o dan eitem 7 hefyd i'r cyfnod pleidleisio.