Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch, Weinidog. Cwestiwn penodol ydy hwn o ran yswiriant, oherwydd, ar gyfer tai preswyl, mae'r cynllun yswiriant ar gael trwy ardoll ar gwmnïau yswiriant, sef Flood Re. Nid oes cynllun cyfatebol ar gael ar gyfer busnesau, sy'n golygu bod nifer gydag yswiriant costus dros ben neu sy'n methu bellach â chael yswiriant i'w gwarchod rhag llifogydd. Gyda'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod llifogydd yn fwyfwy tebygol, mae nifer o fusnesau yn fy rhanbarth yn hynod o bryderus ac wedi dweud yn glir na fyddant yn medru fforddio ailagor os byddant yn dioddef llifogydd unwaith eto. Felly, eisiau holi oeddwn i os oedd yna unrhyw drafodaethau wedi bod o ran creu cynllun cyfatebol i Flood Re ar gyfer busnesau, ac, os nad oes yna drafodaethau eto, a fyddai'r Gweinidog yn ymrwymo i ymchwilio mewn i hynny?