Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ynghylch yswiriant i fusnesau, gan y deallaf hefyd fod Flood Re, a ddatblygwyd ar y cyd â Chymdeithas Yswirwyr Prydain, yn berthnasol i eiddo domestig yn unig; nid yw’n cynnwys busnesau. Felly, rwy’n fwy na pharod i wneud fel yr awgryma'r Aelod, ynglŷn â'r sgyrsiau parhaus a lle rhagwelir cynllun i helpu i gynnig yswiriant i fusnesau yn hytrach nag aelwydydd. Felly, byddaf yn mynd ar drywydd hynny fy hun gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ac yn adrodd yn ôl.