Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Weinidog, fel y gwyddom, mae chwyddiant yn cael effaith andwyol ar bob cyllideb, ac nid yw arian a ddyrennir i helpu i leihau effaith llifogydd ac erydu arfordirol yn eithriad. O ystyried bod cost deunyddiau a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi codi'n sylweddol, mae cyllidebau'n mynd i fod dan bwysau, ac mae'n bwysicach nag erioed bellach fod arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. A gaf fi ofyn, felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig i sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal i ganfod a yw'r cyllidebau a ddyrennir i helpu i atal llifogydd ac erydu arfordirol nid yn unig yn darparu gwerth am arian ac yn cael eu defnyddio'n effeithlon, ond eu bod hefyd yn diwallu anghenion y rheini sydd eu hangen?