Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft sy’n ymwneud â rhyddhad ardrethi busnes wedi’i groesawu’n gyffredinol gan fusnesau ledled Cymru, yn enwedig yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, y bydd y mesurau'n mynd rywfaint o ffordd tuag at leddfu'r pwysau y mae cwmnïau bach yn ei wynebu. Fodd bynnag, rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol o sylwadau a wnaed gan Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddywedodd y gellir dadlau ei fod yn offeryn di-awch i’w ddefnyddio wrth ymdrin â dirwasgiad, ac wrth gwrs, yn ôl eu dadansoddiad hwy, byddai busnesau mwy yn elwa mwy na rhai llai o faint o'r cymorth hwn nad yw wedi'i dargedu. Sut y byddai’r Gweinidog yn ymateb i hynny?