1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, afraid dweud bod 2022 wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd i fusnesau Cymru. Gwyddom fod busnesau’n wynebu heriau parhaus o ran pwysau costau, cyfraddau llog uchel, a gwendidau economaidd byd-eang. Mae busnesau wedi nodi'n glir fod materion fel ardrethi busnes, datblygu sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith yn parhau i fod yn bryderon mawr. Ac er fy mod yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi busnes i rai busnesau yn ei chyllideb, mae angen gwneud mwy o hyd i sicrhau bod busnesau yn y sefyllfa orau bosibl i helpu i godi'r economi allan o'r dirwasgiad drwy dwf economaidd. Weinidog, dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ddiweddar fod un rhan o dair o fusnesau'n dweud mai mynediad at sgiliau, a helpu twf sgiliau, oedd eu rhwystr mwyaf rhag twf. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â’r mater hwn, a sicrhau y gall busnesau recriwtio a chadw staff yn y dyfodol agos iawn?
Wel, mae a wnelo hyn â'r her rydym yn ei hwynebu, ac yn wir, y camau rydym yn eu cymryd. A bydd yr Aelod yn gwybod mai’r her sy’n ein hwynebu, gan ein bod wedi'i thrafod a'i bod yn realiti, yw bod yr heriau o ran arian yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd yn broblem sylweddol yn y dirwedd sgiliau. Fe wnaethom ariannu ystod gyfan o’n hymyriadau sgiliau drwy arian blaenorol yr UE. Mae’r ffaith bod yr arian newydd yn golygu toriad sylweddol yn nhermau arian parod i Gymru, o dros £1 biliwn dros dair blynedd, yn broblem wirioneddol i ni. Ac mewn gwirionedd, mae'r dirwedd o ran yr ymyriadau gan Lywodraeth y DU sy'n ein hanwybyddu ni yn ei gwneud yn anos hefyd. Rwy’n parhau i geisio cael sgyrsiau adeiladol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallem ddatrys rhywfaint o’r heriau hynny. Yr hyn rydym yn ei wneud, serch hynny, gyda'r ysgogiadau sydd gennym, yw, byddwch wedi gweld fy mod wedi gwneud dewis cyffredinol yn y gyllideb ddrafft yn fy adran ynglŷn â'r hyn rydym yn mynd i geisio'i wneud i ddiogelu effaith rhywfaint o'n gwariant ar brentisiaethau a sgiliau. Mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant ar ddechrau gyrfa rhywun, ar wahanol adegau yn eu gyrfa, ac yn wir, cyfrifon dysgu personol. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda’r Gweinidog Addysg yn enwedig, i edrych ar barhau â'r cynnydd rydym wedi’i wneud ar gyfrifon dysgu personol, ac yn wir, y buddsoddiad mewn sgiliau rydym yn bwriadu ei wneud, nid yn unig ar draws sectorau, ond gan fynd yn ôl yn fras at gwestiwn 2, y pwyntiau ynghylch sut mae gennym y math cywir o sgiliau gwyrdd ar gael yn yr economi. Felly, mae amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud ym maes sgiliau, ond bydd yn her anodd yn y flwyddyn i ddod. Ond fe fyddwch yn parhau i weld cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar yr union fater hwn.
Wel, Weinidog, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud bod eu harolwg tueddiadau cyflogaeth diweddar wedi dod i'r casgliad fod llai na hanner y busnesau yn disgwyl tyfu eu gweithlu yn y 12 mis nesaf, ac maent yn nodi mai mynediad at lafur a sgiliau, ac yna costau byw, yw eu tair prif flaenoriaeth. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu polisïau economaidd sy'n hybu twf, a lle bo angen, yn gwrthdroi polisïau lle ceir tystiolaeth y gallant niweidio busnesau. Er enghraifft, mae busnesau ledled Cymru wedi dweud y bydd y dreth dwristiaeth arfaethedig yn cael effaith aruthrol ar eu busnesau. Maent hefyd wedi dweud yn glir y bydd newidiadau i'r meini prawf ar gyfer llety gwyliau i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn cael effaith andwyol arnynt hefyd. Weinidog, pan fydd busnesau’n dweud wrthych y bydd polisi eich Llywodraeth yn cael effaith andwyol ar yr economi, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando. Weinidog, pam nad ydych wedi gwrando a rhoi'r gorau i gynigion ar gyfer treth dwristiaeth, a’r rheol llety gwyliau 182 diwrnod, yn wyneb y gwrthwynebiad chwyrn i’r polisïau gan fusnesau Cymru, a pha neges sydd gennych fel Gweinidog yr economi ar gyfer busnesau yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio gan gynlluniau Llywodraeth Cymru?
Wel, mewn perthynas â mesurau gwrth-dwf, digwyddodd yr ymyrraeth wrth-dwf fwyaf arwyddocaol, wrth gwrs, yn ystod y chwe wythnos y bu Liz Truss yn Brif Weinidog y DU. Roedd honno’n ymyrraeth sylweddol a wnaeth yr holl heriau sy’n bodoli o fewn yr economi yn waeth o lawer. Ac roedd yn ddoniol clywed y sôn am gynghrair wrth-dwf ac yna gweld y smonach a wnaeth Kwasi Kwarteng a Liz Truss. Felly, nid oes angen unrhyw bregethau gan unrhyw Dori yn y Siambr hon, nac unrhyw le arall, ar y mater hwn.
O ran yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn cyflawni'r maniffesto y cawsom ein hethol i'w gyflawni. Mae hynny'n cynnwys y mesurau rydym yn eu rhoi ar waith mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr. Mae'n cynnwys sgwrs a gefais y bore yma gyda fforwm yr economi ymwelwyr, lle maent yn bwriadu gweithio gyda ni ar lunio ardoll sy'n ceisio gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud, ac mewn ardaloedd o'r wlad lle mae awdurdodau lleol yn awyddus i leihau’r ardoll, i ddeall wedyn sut y gellid gwneud hynny mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r diwydiant rydym am ei weld yn parhau i dyfu. Ac mewn gwirionedd, nid yr ardoll ymwelwyr yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r sector hwnnw ac eraill, nac unrhyw safbwynt polisi gan Lywodraeth Cymru; ond yr her o beidio â gweld digon o dwf yn economi’r DU gyfan, her yr argyfwng costau byw, yr her yn ein gallu i fasnachu â rhannau eraill o’r byd, a’r hyn y mae hynny wedi'i wneud i bwysau chwyddiant yn yr economi y tu hwnt i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
O ran sgiliau a llafur, rydym yn cydnabod y materion a’r heriau hynny, a dyna pam y gallai ac y dylai ein hymyriadau wneud gwahaniaeth. Mae gennym heriau yn y cyflenwad llafur rydym yn bwriadu mynd i'r afael â hwy yn gynharach ym mywydau pobl, yn ogystal â'r hyn rydym yn ei wneud ar fuddsoddi mewn sgiliau. Mae angen sgwrs lawer mwy aeddfed arnom ynglŷn â mudo a’i werth i ddyfodol yr economi. Mae arnom angen llawer mwy o gydnabyddiaeth i heriau costau byw, a fydd, os nad eir i'r afael â hwy, yn golygu na fydd busnesau’n para i’r dyfodol mwy hirdymor. A dyna pam fod y cynllun rhyddhad ar filiau ynni i fusnesau mor bwysig. A'r anhawster yw—ac roedd hwn yn fater a gododd heddiw, ac mewn cyfarfodydd busnes eraill rwyf wedi'u cael—os na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, ni fydd gostyngiadau'n cael eu trosglwyddo i fusnesau. Felly, efallai y bydd gennych fusnesau na allant aros tan y daw'r adolygiad i ben, ac sy'n deall beth fydd yn digwydd yn y dyfodol mwy hirdymor, na fyddant yma, o bosibl, i wynebu’r dyfodol hwnnw.
Felly, ar yr heriau uniongyrchol sy'n wynebu busnesau, rheini yw'r sgyrsiau uniongyrchol rwy'n eu cael gyda hwy, ac rwy'n gobeithio eu cael gyda Llywodraeth y DU yn wir, lle dylai'r ffocws fod ar weithredu nawr.
Weinidog, y gwir amdani yw eich bod, gydag un llaw, yn ceisio estyn llaw i rai busnesau drwy ryddhad ardrethi ychwanegol, a gyda’r llaw arall, rydych yn gweithredu polisïau a allai fod yn angheuol i gannoedd o fusnesau yng Nghymru. Mae'n debyg fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn iawn pan ddywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod beth mae'n ei wneud o ran yr economi. Felly, gadewch imi roi cynnig ar un arall. Mae mynegai hyder busnesau diweddaraf Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr yn dangos bod hyder busnesau wedi gostwng am y pumed chwarter yn olynol, ac maent yn iawn i ddweud ei bod yn hanfodol mai 2023 yw’r flwyddyn i ddatblygu twf economaidd hirdymor sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Mae cyfleoedd sylweddol ynghlwm wrth yr ymdrech i ddatgarboneiddio’r economi, a gwn fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gan Fanc Datblygu Cymru i roi cynllun buddsoddi i arbed newydd ar lwybr carlam er mwyn cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio, ond yn anffodus, mae busnesau’n parhau i oedi cyn buddsoddi mewn atebion gwyrdd oherwydd costau cynyddol. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddatgarboneiddio’r banc datblygu? A gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ateb cynharach i Sioned Williams, a deallaf y byddwch yn gwneud cyhoeddiadau pellach y flwyddyn nesaf, ond a allwch ddweud wrthym pryd y byddwch yn gwneud y cyhoeddiadau pellach hynny?
Gadewch inni ymdrin â rhai o'r heriau a ddaw yma. A dywedaf hyn mor dyner ond mor onest ag y gallaf, wrth yr Aelod: pan ddaw'n fater o siarad am bolisïau gwrth-dwf, pan ddaw'n fater o ofyn a ydych yn gwybod beth rydych yn ei wneud, nid oes ond angen ichi edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y chwe wythnos drychinebus a'r hyn y gwnaeth hynny i chwalu'r economi ledled y DU. Gyda llawer o’ch aelodau eich hun nid yn unig wedi dathlu'r ffaith bod Liz Truss wedi'i hethol, ond wedi dathlu’r cynllun a gyflwynodd, mae angen i'ch plaid edrych yn ofalus arnynt eu hunain nawr, ar yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Ac nid yn unig hynny. Os edrychwch ar yr hyn y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn ei ddweud, maent yn dweud nad oes gan Lywodraeth y DU gynllun ar gyfer twf. Ac mewn gwirionedd, heb gynllun ar gyfer twf ledled y DU, bydd hynny'n gwneud ein her yn llawer iawn anos.
Pan edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud, byddaf yn cyhoeddi cynllun yn gynnar yn y flwyddyn newydd, gyda Banc Datblygu Cymru, i gefnogi busnesau i dyfu, cynllun i gefnogi busnesau i ddatgarboneiddio a gwella eu helw net. Edrychaf ymlaen yn fawr at y cyhoeddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac edrychaf ymlaen wedyn at ymateb adeiladol gan Aelodau yn y Siambr hon a thu hwnt. Rwy'n glir iawn fod y Llywodraeth hon yn credu, yn y flwyddyn anodd iawn sydd o'n blaenau, y bydd cyfleoedd i helpu i ddiogelu busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru, ond hefyd, mewn ystod o sectorau, i weld twf gwirioneddol, lle mae gennym gyfleoedd. Rwy'n benderfynol o wneud hynny, gan dynnu sylw at anallu Llywodraeth y DU ar bob cyfle.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft sy’n ymwneud â rhyddhad ardrethi busnes wedi’i groesawu’n gyffredinol gan fusnesau ledled Cymru, yn enwedig yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, y bydd y mesurau'n mynd rywfaint o ffordd tuag at leddfu'r pwysau y mae cwmnïau bach yn ei wynebu. Fodd bynnag, rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol o sylwadau a wnaed gan Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddywedodd y gellir dadlau ei fod yn offeryn di-awch i’w ddefnyddio wrth ymdrin â dirwasgiad, ac wrth gwrs, yn ôl eu dadansoddiad hwy, byddai busnesau mwy yn elwa mwy na rhai llai o faint o'r cymorth hwn nad yw wedi'i dargedu. Sut y byddai’r Gweinidog yn ymateb i hynny?
Wel, fel bob amser, rydym yn defnyddio'r offer sydd ar gael i ni, a'r ddealltwriaeth o gynllun y mae pobl yn ei ddeall, oherwydd y ffordd rydym wedi cefnogi busnesau yn y maes hwn o'r blaen, ac wrth gwrs, mae gennym eisoes ystod o ryddhad wedi'i ymgorffori yn ein system ar gyfer busnesau llai beth bynnag, ac mae gennym gap ar y swm y gall busnesau elwa ohono hefyd. Golyga hynny na fydd swm hyd yn oed yn fwy o arian yn cael ei ddarparu i'r busnesau mwyaf. Golyga’r cap y gallwn wedyn ailgylchu mwy o’r arian hwnnw a fyddai fel arall yn mynd i fusnesau mwy a'i roi i’n cwmnïau llai a chanolig eu maint. Fel erioed, mae gennym ddiddordeb bob amser yn sut y gallwn gael arfau gwell sydd wedi'u targedu'n well. Fodd bynnag, mae mantais neu gyfaddawd ynghlwm wrth bob un o'r rhain. Gall cynllun sy'n syml ac yn hawdd ei ddeall a'i weinyddu, a all ddarparu arian yn gyflym, fod â rhai ymylon mwy aneglur o'i gwmpas. Os edrychwch am gynllun sydd wedi’i dargedu i raddau mwy, bydd yn ei wneud yn fwy cymhleth, a bydd yn rhaid ichi fuddsoddi mwy o amser, egni ac ymdrech yn y gwaith o’i lunio a’i gyflwyno, a pho fwyaf y caiff cynllun ei dargedu a pho fwyaf cymhleth yw'r cynllun hwnnw, y mwyaf tebygol ydych chi o weld busnesau’n cwympo drwy’r bylchau ynddo. Felly, mae dewis i'w wneud yma bob amser. Rwy'n dawel fy meddwl ein bod wedi gwneud y dewis ymarferol cywir o ran ble rydym arni ar hyn o bryd, a bydd angen inni barhau i fod yn ystwyth, wrth inni fynd drwy'r flwyddyn anodd nesaf sydd o'n blaenau, gyda dirwasgiad y mae hyd yn oed Canghellor y Trysorlys yn cydnabod ein bod ar ei ddechrau, ac fel y dywedaf, bydd yn flwyddyn anodd o'n blaenau i lawer o fusnesau yn y sector, a dyna pam ein bod wedi cyhoeddi'r cymorth hwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, un o’r pethau a grybwyllwyd ganddynt oedd y byddai busnesau llai o faint yn methu cael y cymorth hwnnw. Felly, onid yw'n wir fod angen cymorth wedi'i dargedu arnom? Ceir cydnabyddiaeth fod angen cymorth mewn mannau eraill. Rydym wedi clywed am ynni heddiw, a bod angen diwygio'r ardrethi busnes eu hunain, wrth gwrs. Dyna oedd barn cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a ddywedodd y dylem ddefnyddio’r seibiant yng Nghymru i weld sut y gallwn ddiwygio ardrethi busnes. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod barn y Gweinidog ar hynny. Wrth gwrs, rydym ar yr adeg o'r flwyddyn lle mae lletygarwch yn arbennig yn dibynnu ar y refeniw a wneir ar hyn o bryd er mwyn goroesi'r ychydig fisoedd llawer tawelach hynny yn y flwyddyn newydd. Mae'n wir, wrth gwrs, yn gyffredinol, ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ond mae gwariant y pen i lawr, ac mae newyddion heddiw ynghylch chwyddiant yn cynnig darlun llwm iawn ar gyfer y sector lletygarwch yn gyffredinol.
Rwyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr—ac rydym wedi ei glywed eto heddiw gan Sioned Williams a Paul Davies—am yr angen i helpu busnesau bach i fod yn wyrdd. Ond yr hyn y mae'r sector hefyd yn ei wynebu yw argyfwng recriwtio. Beth yw rôl Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio hwn ym marn y Gweinidog? Roedd yr argyfwng hwn yn broblem yn ystod y pandemig, mae wedi parhau hyd heddiw, ond ychydig iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ôl pob golwg i fynd i’r afael ag ef yn effeithiol.
Mae dau beth. O ran diwygio ardrethi annomestig, mae honno’n sgwrs rwy'n parhau i’w chael gyda’r Gweinidog cyllid, sef y Gweinidog arweiniol, fel y gwyddoch, mewn perthynas â mater diwygio trethiant. Ceir rhaglen ddiwygio sylweddol sy'n parhau i symud yn gyflym ar drethiant ehangach. Fe wyddoch am y gwaith rydym yn ei wneud ar ddiwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Felly, rydym yn edrych ar sut olwg a allai fod ar hynny yn y dyfodol. Mae deall sut rydym yn darparu cynllun gwahanol yn bwysig iawn er mwyn deall sut rydych yn cydraddoli enillwyr a chollwyr o'i fewn er mwyn sicrhau system well neu decach. Mae hwnnw'n waith rydym yn parhau i edrych arno.
O ran yr heriau penodol sy’n wynebu lletygarwch, mae’n un o’r pethau rwy'n wirioneddol bryderus yn eu cylch, o ran faint y bydd defnyddwyr yn ei wario yn y cyfnod hwn o amser sy’n wirioneddol bwysig i’r sector lletygarwch, a beth y mae hynny’n ei olygu i'r busnesau hynny a’u gallu i oroesi yn y flwyddyn newydd, pan fydd mis Ionawr fel arfer yn fis arafach, ac a fydd busnesau’n edrych eto, fel y mae nifer ohonynt eisoes yn ei wneud, i weld a ydynt yn mynd i leihau nifer yr oriau neu’r dyddiau y maent ar agor fel ffordd o ymdopi â realiti llai o wariant gan ddefnyddwyr a'r problemau staffio rydych wedi cyfeirio atynt.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â’r diwydiant i geisio gwneud rhywbeth mwy cadarnhaol i'w gydnabod fel sector y gall pobl gael gyrfaoedd ynddo, ac nid gwaith achlysurol yn unig, sef yr unig ffordd o weithio yn y sector yn nhyb rhai pobl. Rwyf wedi ymrwymo i edrych gyda hwy eto yn y flwyddyn newydd ar yr hyn y gallem ei wneud i annog pobl i wneud hyn fel swydd, fel gyrfa, i geisio mynd i'r afael â'r realiti lle nad ydym yn gweld pobl sydd am ddod i weithio yn y sector. Fel rydym wedi trafod o’r blaen yn y Siambr a thu hwnt, rhan o’r her yw’r ffordd y mae defnyddwyr yn ymddwyn mewn rhai rhannau o’r sector lletygarwch, ac mae'n ymwneud â chydnabod, tra bo'r sector yn brin o staff, i ddangos rhywfaint o garedigrwydd a dealltwriaeth i’r bobl hynny sydd yno, yn ogystal â cheisio cael mwy o bobl i fod yn awyddus i ddod i weithio yn y sector ar gyfradd sy’n deg o ran ein huchelgeisiau ynghylch gwaith teg a chyflog teg ac sydd hefyd yn caniatáu i’r busnesau gynllunio ar gyfer eu dyfodol eu hunain.