Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Mae dau beth. O ran diwygio ardrethi annomestig, mae honno’n sgwrs rwy'n parhau i’w chael gyda’r Gweinidog cyllid, sef y Gweinidog arweiniol, fel y gwyddoch, mewn perthynas â mater diwygio trethiant. Ceir rhaglen ddiwygio sylweddol sy'n parhau i symud yn gyflym ar drethiant ehangach. Fe wyddoch am y gwaith rydym yn ei wneud ar ddiwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Felly, rydym yn edrych ar sut olwg a allai fod ar hynny yn y dyfodol. Mae deall sut rydym yn darparu cynllun gwahanol yn bwysig iawn er mwyn deall sut rydych yn cydraddoli enillwyr a chollwyr o'i fewn er mwyn sicrhau system well neu decach. Mae hwnnw'n waith rydym yn parhau i edrych arno.
O ran yr heriau penodol sy’n wynebu lletygarwch, mae’n un o’r pethau rwy'n wirioneddol bryderus yn eu cylch, o ran faint y bydd defnyddwyr yn ei wario yn y cyfnod hwn o amser sy’n wirioneddol bwysig i’r sector lletygarwch, a beth y mae hynny’n ei olygu i'r busnesau hynny a’u gallu i oroesi yn y flwyddyn newydd, pan fydd mis Ionawr fel arfer yn fis arafach, ac a fydd busnesau’n edrych eto, fel y mae nifer ohonynt eisoes yn ei wneud, i weld a ydynt yn mynd i leihau nifer yr oriau neu’r dyddiau y maent ar agor fel ffordd o ymdopi â realiti llai o wariant gan ddefnyddwyr a'r problemau staffio rydych wedi cyfeirio atynt.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â’r diwydiant i geisio gwneud rhywbeth mwy cadarnhaol i'w gydnabod fel sector y gall pobl gael gyrfaoedd ynddo, ac nid gwaith achlysurol yn unig, sef yr unig ffordd o weithio yn y sector yn nhyb rhai pobl. Rwyf wedi ymrwymo i edrych gyda hwy eto yn y flwyddyn newydd ar yr hyn y gallem ei wneud i annog pobl i wneud hyn fel swydd, fel gyrfa, i geisio mynd i'r afael â'r realiti lle nad ydym yn gweld pobl sydd am ddod i weithio yn y sector. Fel rydym wedi trafod o’r blaen yn y Siambr a thu hwnt, rhan o’r her yw’r ffordd y mae defnyddwyr yn ymddwyn mewn rhai rhannau o’r sector lletygarwch, ac mae'n ymwneud â chydnabod, tra bo'r sector yn brin o staff, i ddangos rhywfaint o garedigrwydd a dealltwriaeth i’r bobl hynny sydd yno, yn ogystal â cheisio cael mwy o bobl i fod yn awyddus i ddod i weithio yn y sector ar gyfradd sy’n deg o ran ein huchelgeisiau ynghylch gwaith teg a chyflog teg ac sydd hefyd yn caniatáu i’r busnesau gynllunio ar gyfer eu dyfodol eu hunain.