Yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:09, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, cefais fraw wrth ddarllen bod ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pris cyfartalog peint o gwrw wedi codi 9 y cant o'i gymharu â'r llynedd, a bellach mae dros 50 o dafarndai yn cau ledled y DU bob mis, o'i gymharu â thua 30 o dafarndai y mis y llynedd. Tafarndai yw curiad calon nifer o gymunedau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, ac maent yn chwarae rôl gymdeithasol bwysig i lawer o bobl. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi ein tafarndai drwy aeaf anodd a thu hwnt?