Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Wel, rydym yn sicr yn cydnabod bod tafarndai yn rhan bwysig o fywyd y gymuned, nid yn unig fel busnesau sy'n cyflogi pobl, maent hefyd yn rhoi ymdeimlad o le i lefydd hefyd. Ac unwaith eto rwyf wedi cydnabod y ffordd y mae tafarndai wedi cael sylw heddiw ac mae'r busnesau bragu wedi codi ar fwy nag un achlysur yn y gyfres hon o gwestiynau: mae heriau'n ymwneud â deunydd crai yn cynyddu, yr heriau'n ymwneud â'r cynnydd yng nghostau ynni hefyd a beth mae hynny'n ei olygu wedyn i dafarndai sy'n wynebu eu heriau eu hunain gyda chael y nifer cywir o staff ac yn wir, eu costau eu hunain yn codi. Felly, rwy'n cydnabod bod yna her. Mae yna anawsterau wedyn, y tu hwnt i'r gymorth rydym wedi'i ddarparu drwy ardrethi busnes, mewn perthynas â pha gefnogaeth arall y gallwn ei darparu'n ymarferol mewn cyllideb sydd heb lawer o le i symud. Fe welwch yn y gyllideb ddrafft nad yw'r Gweinidog cyllid wedi cadw unrhyw arian dros ben yn ôl i wneud hynny. A daw hefyd yn sgil ffigurau chwyddiant heddiw sy'n dangos cwymp bach o 11.1 y cant i 10.7 y cant, ond fel y dywedais, mae'r brif gyfradd ar gyfer bwyd a diod sy'n effeithio'n uniongyrchol ar sut y gall tafarndai wneud busnes wedi cynyddu 16.5 y cant. Felly, rwy'n cydnabod bod ystod eang o heriau, ac mae'n rhan o'r sgwrs y byddwn yn parhau i'w chael, nid yn unig gyda'r sector ond gyda Llywodraeth y DU i ddeall beth y gallwn ei wneud a pha adnoddau fydd ar gael i geisio cefnogi tafarndai fel busnesau a chanolfannau pwysig o fewn cymunedau.