Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Croeso nôl. Mae’n rhwystredig fod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng yr UE a’r DU wedi creu ansicrwydd parhaus ac anallu i barhau â'r cysylltiad â Horizon Ewrop. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £6.8 biliwn ar gyfer rhaglenni’r UE yn y maes hwn i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, heb ddyraniad ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae gennym ystod o gymorth, gan gynnwys cyllid drwy ein huned Horizon Ewrop, sydd wedi’i lleoli yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a Cymru Fyd-eang, yn ogystal â’r strategaeth arloesi sy’n cael ei datblygu.