1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
4. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru yn sgil ansicrwydd parhaus o ran Horizon Ewrop? OQ58889
Croeso nôl. Mae’n rhwystredig fod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng yr UE a’r DU wedi creu ansicrwydd parhaus ac anallu i barhau â'r cysylltiad â Horizon Ewrop. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £6.8 biliwn ar gyfer rhaglenni’r UE yn y maes hwn i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, heb ddyraniad ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae gennym ystod o gymorth, gan gynnwys cyllid drwy ein huned Horizon Ewrop, sydd wedi’i lleoli yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a Cymru Fyd-eang, yn ogystal â’r strategaeth arloesi sy’n cael ei datblygu.
Diolch am yr ymateb yna, Gweinidog.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn o fesurau i gefnogi ymchwil a datblygu yn y DU yn ystod yr ansicrwydd parhaus ynghylch y cysylltiad â Horizon Ewrop. Yn y pecyn, fel rydych wedi sôn, mae addewid o £100 miliwn o gyllid cysylltiedig ag ansawdd ar gyfer prifysgolion Lloegr, y bydd Cymru yn cael cyllid canlyniadol yn ei sgil. Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod cyllid cysylltiedig ag ansawdd yn unigryw yn yr ystyr mai mewn ychydig iawn o feysydd y mae Cymru’n cystadlu’n uniongyrchol â Lloegr, ond mae prifysgolion yn un o’r meysydd hynny sy’n cystadlu am grantiau a myfyrwyr domestig a rhyngwladol. Mae colli unrhyw gyllid yn lleihau twf posibl yng Nghymru ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddraen dawn. Mae'n rhaid i brifysgolion Cymru gael yr un faint pro rata â phrifysgolion Lloegr os ydym yn mynd i allu cystadlu am gyllid DU gyfan, felly a yw’r Gweinidog yn fodlon rhoi sicrwydd y bydd unrhyw gyllid canlyniadol a ddaw i Lywodraeth Cymru yn cael ei glustnodi fel cyllid cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion Cymru?
Felly, mae’r Gweinidog addysg eisoes wedi cyhoeddi cynnydd mewn cyllid cysylltiedig ag ansawdd. O ran cyllid canlyniadol yn sgil y cyhoeddiad hwn, rydym mewn trafodaeth barhaus â Llywodraeth y DU i benderfynu’n derfynol ar y swm a’r defnydd ohono. Mae her bob amser—a deallaf pam y’i gwnaed—pan fo cyhoeddiad yn cael ei wneud ar gyfer sector penodol yn Lloegr iddo fod ar gyfer yr un defnydd yn union yma yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu beth i’w wneud, pan fyddwn wedi penderfynu’n derfynol ar y swm sydd i ddod, a byddwn yn gwneud y penderfyniad hwnnw’n agored ac yn dryloyw ar gyfer yr Aelodau, ac yn wir, pobl a chanddynt fuddiant yn y sector penodol hwn. Ond rwy'n awyddus iawn ein bod yn gwneud elw ar yr arian hwnnw nad yw'n golygu bod Cymru ar ei cholled o ran yr arian sydd ar gael. Ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd gwneud rhywbeth yn y maes hwn i ddatrys y bwlch sydd wedi’i adael mewn cyllid ymchwil i brifysgolion o ganlyniad i’r methiant i ddatrys mater Horizon Ewrop.
Mae Luke Fletcher yn llygad ei le pan ddywed fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi, os na all gysylltu â Horizon, y bydd yn parhau i gefnogi’r sector ymchwil ac arloesi drwy drefniadau pontio. Mae hyn yn cynnwys cynllun gwarant y DU, sydd wedyn yn darparu cyllid i ymchwilwyr ac arloeswyr nad ydynt yn gallu cael gafael ar eu cyllid Horizon Ewrop tra bo'r DU yn y broses o gysylltu â’r rhaglen. Mae Llywodraeth y DU yn darparu gwerth dros £8 biliwn o gymorth ariannol ar draws pum cynllun gwahanol, gan gynnwys arian ar gyfer strategaeth ddiwydiannol a heriau byd-eang. Ac yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, rydym wedi gweld yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar yn cael ei sefydlu gyda buddsoddiad cychwynnol o £800 miliwn i ddatblygu ymchwil lle mae'r enillion yn fawr. Nawr, mewn cyferbyniad, ynghyd â Horizon, dim ond dwy gronfa ymchwil ac arloesi arall y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig: Sêr Cymru a SCoRE Cymru. Felly, nid yw pwyntio bys at Lywodraeth y DU yn ddigon da o ystyried mai hwy sy'n darparu'r rhan helaethaf o gyllid ymchwil ac arloesi. Felly, Weinidog, gyda hyn mewn golwg, sut y byddwch yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei hymrwymiadau ei hun o ran cyllid gwyddoniaeth? Diolch.
Mae yna un neu ddau o wahanol bwyntiau rwy'n credu y dylem eu gwneud. Oherwydd nad oes arian newydd wedi ei ryddhau, rydym wedi cael £1 biliwn yn llai dros dair blynedd; ffaith yw hynny, nid mater o farn. Mae hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllid ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae hynny, unwaith eto, yn ffaith ddiymwad. Mewn perthynas â gwella'r arian i Gymru o gronfeydd y DU, mae hwnnw'n bwynt rwyf wedi'i drafod gyda'r sector yma yn ogystal â chyda Gweinidogion y DU.
Nawr, ar y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud am ARIA ac agweddau eraill, mae'r rheini mewn gwirionedd i fod i ddarparu arian ar sail y DU gyfan. Cefais sgyrsiau eithaf anodd gyda nifer o wahanol Weinidogion gwyddoniaeth yn Llywodraeth y DU am greu ARIA ei hun a sut y byddai'n gweithredu, a gwneud yn siŵr fod yna strwythur a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â phrif swyddogion gwyddonol o bob cwr o'r DU a sicrhau nad oedd yn cael ei lywio'n ganolog o un pwynt, oherwydd mae'r her yn ymwneud â'r ffordd y mae nifer o gronfeydd wedi'u darparu yn y gorffennol, ynghylch ymchwil gwyddonol o safon uchel a gwerth uchel, ac mae'r triongl euraidd yn Lloegr yn tueddu i wneud yn llawer iawn gwell na gweddill y DU, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr yn ogystal â Chymru. Rwy'n glir iawn am ein hangen yn y strategaeth arloesi newydd i gael mwy o ffynonellau ariannu y DU; mae'n rhan o'r rheswm y cefais gyfarfod ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn rhan o'r rheswm pam y cefais gyfarfod ag Innovate UK eto yn ddiweddar, a phan fydd yna ffordd newydd o wneud penderfyniadau yn ogystal â strategaeth newydd, rwy'n obeithiol y gwelwn well enillion i Gymru.
Rwy'n credu y byddai rhywfaint o sefydlogrwydd ar lefel y DU yn ein helpu ni i gyd hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod George Freeman wedi dychwelyd i fod yn Weinidog gwyddoniaeth; mae'n rhywun sydd, yn fy marn i, wedi bod yn adeiladol ac mae'n rhywun sy'n deall y sector. Rwyf bellach yn cael sgyrsiau gyda fy mhumed neu chweched Gweinidog gwyddoniaeth y DU ac nid wyf yn credu bod hynny'n helpu'r sefyllfa. Byddai'n well i bawb ohonom pe bai yna gyfnod o sefydlogrwydd. Hyd yn oed os ydym yn anghytuno â safbwynt Llywodraeth y DU, byddai cael rhywfaint o sefydlogrwydd yn rhywbeth y byddai pob un ohonom yn ei groesawu.