1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu sgiliau sero net arfaethedig y Llywodraeth? OQ58886
Gwnaf. Rwy'n disgwyl lansio ein cynllun gweithredu sgiliau sero net yn gynnar yn 2023, a dim hwyrach na diwedd mis Chwefror 2023.
Wel, diolch am y cadarnhad hynny oherwydd rydyn ni gyd yn cydnabod ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen gyda'r agenda yma heb gael gweithlu sydd wedi'i ymbweru â'r sgiliau i wireddu nifer o'r interventions sydd eu hangen ar gyfer cyrraedd sero net. Mi wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd bwysleisio i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ddiweddar ei bod hi'n methu tanlinellu'n ddigon cryf pa mor allweddol oedd hi i symud ymlaen â'r agenda yma ar fyrder. Nawr, mi oedd y cynllun i fod yn cael ei gyhoeddi, wrth gwrs, yn y gwanwyn. Mi ohiriwyd hynny tan yr haf. Mi ohiriwyd hynny'n bellach wedyn tan y Nadolig, a nawr wrth gwrs rydych chi'n cadarnhau y bydd hynny yn y flwyddyn newydd. Gaf i ofyn pam bod yr oedi wedi digwydd, ac a gaf i ofyn i chi ategu efallai yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb cyntaf na fydd yna slippage pellach?
Ie, rwy'n hapus i gadarnhau ynghylch rhai o'r heriau roedd angen inni fynd i'r afael â hwy. Fel rydych wedi'i weld, yn ystod y flwyddyn, mae nifer o ddigwyddiadau gwahanol wedi bod. Ein disgwyliad ni oedd y byddem yn ei gyflawni o fewn y flwyddyn ariannol hon, ond bu'n rhaid inni wedyn fynd i'r afael â'r ergydion sydd wedi ein taro ar wahanol adegau yn y flwyddyn, nid yn unig yr hydref, ond wrth inni gyrraedd yr hydref ac wrth i heriau'r darlun economaidd newydd gymryd drosodd yn radical, roeddem hefyd eisiau cynnwys y dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf a oedd ar gael gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd a nifer o gyhoeddiadau eraill. Byddai wedi bod yn od, rwy'n credu, pe byddem wedi cyhoeddi ein cynllun ar sgiliau sero net ac yna wedi derbyn tystiolaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd y diwrnod wedyn. Felly, rydym yn bwriadu ystyried y rheini. Rwy'n disgwyl gallu gwneud datganiad ar lafar ar y cynllun sgiliau sero net, felly byddwch yn clywed yn uniongyrchol gennyf fi ar y pryd am yr hyn rydym wedi'i wneud a pham, a'r cydbwysedd rydym yn ceisio ei daro, gyda'r holl wybodaeth honno ar gael, a sut rydym yn dod â sgiliau sero net at ei gilydd mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, beth fydd hynny'n ei olygu i fusnesau, beth fydd yn ei olygu i sectorau, beth fydd yn ei olygu i ddarparwyr, ac yn allweddol beth fydd yn ei olygu i bobl sydd eisiau arfogi eu hunain â'r sgiliau hyn yn y dyfodol wrth inni geisio datgarboneiddio ein heconomi a gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau pontio teg.
Ddoe, cefais gyfle i gyfarfod â Floventis Energy, un o'r nifer o gwmnïau gwynt ar y môr arnofiol sydd wedi dewis buddsoddi yn y môr Celtaidd. Mae Floventis wedi datblygu'r gallu i gynhyrchu 200 MW o ynni gwynt ar y môr arnofiol, 35 km oddi ar arfordir sir Benfro—chwaraewr allweddol arall sy'n ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net. Mae'r cyfleoedd yn y môr Celtaidd yn enfawr, Weinidog: fe allai ac fe ddylai cais llwyddiannus am borthladd rhydd Celtaidd, ynghyd â'r cyfleoedd ynni adnewyddadwy, atgyfnerthu sir Benfro i fod yn benrhyn ynni gwyrdd. Felly, byddwn yn falch o wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol, gan roi'r sgiliau i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol allu llwyddo yn y sector gwyrdd nawr ac yn y dyfodol. Diolch.
Wel, dylwn wneud y pwynt na fyddaf, wrth ymateb, yn gwneud unrhyw fath o arwydd am y porthladdoedd rhydd a'r ceisiadau sy'n cystadlu. Soniwyd amdano yn y cwestiwn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n hollol glir. Fodd bynnag, mae fy swyddogion yn adolygu'r ceisiadau, ynghyd â swyddogion Llywodraeth y DU, gan fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi gorffen. Ond rwy'n credu eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes lle rydym yn disgwyl twf economaidd sylweddol, yn ogystal â chyfleoedd cynhyrchu ynni gwyrdd. Bydd hefyd yn rhywbeth lle rwy'n credu y bydd yr Aelod a'r busnesau yn y sector yn ehangach yn gweld cydnabyddiaeth yn y cynllun sgiliau sero net o'r hyn y gallwn ei wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd economaidd sy'n bodoli. Mae hwn yn un o'r meysydd lle mae gennyf lawer iawn mwy o optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod nag yn rhai o'r sectorau a fydd yn wynebu mwy o heriau. Rwy'n credu bod yna bobl sydd ag adnoddau y maent eisiau eu buddsoddi, cyfleoedd y maent eisiau manteisio arnynt, ac rwy'n edrych ymlaen at weld amryw o ardaloedd, gan gynnwys sir Benfro, yn manteisio ar y cyfleoedd yn y môr Celtaidd a'r hyn y byddant yn ei olygu i ddyfodol economi Cymru.