Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn. Weinidog, efallai y byddwch yn cofio imi rannu stori fy etholwr Emily rai misoedd yn ôl yn ystod dadl wrthblaid gan Blaid Cymru ar iechyd menywod. Yn drasig, bu'n rhaid iddi ddioddef am bron i 10 mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis, cyflwr sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw ledled Cymru. Bellach yn 24 oed, mae Emily yn byw gydag endometriosis cam 4, adenomyosis a symptomau eraill sydd eto i gael diagnosis. Ni all weithio mwyach, na gyrru, ac mae'n byw gyda phoen cronig bob dydd. Er gwaethaf ei hymdrechion gorau i weithio gyda chlinigwyr a'r bwrdd iechyd i wella'r gofal mae'n ei gael, mae'n dal i aros i gael ei hatgyfeirio am driniaeth a gofal arbenigol. Mae'n dweud wrthyf nad oes ganddi opsiwn nawr ond talu am ofal iechyd preifat. Rydym yn gwybod mai dim ond un stori o blith nifer yw hon.