Y Cynllun Iechyd Menywod

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar y cynllun iechyd menywod a'i berthnasedd i fenywod a merched yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58882

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:25, 14 Rhagfyr 2022

Mae cydweithrediad y gwasanaeth iechyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar iechyd menywod, a hwn fydd ymateb y gwasanaeth i'r gofynion yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched. Bydd y cynllun yn sicrhau gwelliannau i'r ddarpariaeth iechyd i fenywod ym mhob rhan o Gymru.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Weinidog, efallai y byddwch yn cofio imi rannu stori fy etholwr Emily rai misoedd yn ôl yn ystod dadl wrthblaid gan Blaid Cymru ar iechyd menywod. Yn drasig, bu'n rhaid iddi ddioddef am bron i 10 mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis, cyflwr sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw ledled Cymru. Bellach yn 24 oed, mae Emily yn byw gydag endometriosis cam 4, adenomyosis a symptomau eraill sydd eto i gael diagnosis. Ni all weithio mwyach, na gyrru, ac mae'n byw gyda phoen cronig bob dydd. Er gwaethaf ei hymdrechion gorau i weithio gyda chlinigwyr a'r bwrdd iechyd i wella'r gofal mae'n ei gael, mae'n dal i aros i gael ei hatgyfeirio am driniaeth a gofal arbenigol. Mae'n dweud wrthyf nad oes ganddi opsiwn nawr ond talu am ofal iechyd preifat. Rydym yn gwybod mai dim ond un stori o blith nifer yw hon. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:26, 14 Rhagfyr 2022

Weinidog, fe ddywedoch chi y byddai'r cam cyntaf—ac rŷn ni wedi eich clywed chi'n cadarnhau hyn—ar gyfer diweddariad y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, a dyma ni ar ein hwythnos olaf cyn y Nadolig. Felly, dwi'n erfyn arnoch chi i ddweud pryd yn union fydd y cynllun yma'n cael ei gyhoeddi, a bod hynny'n cael ei gyhoeddi ar frys er mwyn osgoi'r fath o brofiadau mae rhywun fel Emily wedi'u dioddef dros y blynyddoedd diwethaf.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gyda fi i glywed am hanes Emily; mae hi'n un o'r nifer o fenywod sydd yn dioddef o endometriosis. Rydyn ni wedi cydnabod bod angen inni wneud lot mwy yn y maes yma, a dyna pam nawr mae gyda ni nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd ar draws Cymru. Felly, mae pethau'n gwella, ond rŷn ni'n cydnabod hefyd bod angen mwy o feddygon sydd yn gallu gwneud yr ymyrraeth sydd angen ar gyfer nifer o fenywod.

O ran y cyhoeddiad, beth rŷn ni wedi ei wneud nawr—. Cyhoeddiad yr NHS fydd hi, yn hytrach na chyhoeddiad y Llywodraeth, ond dwi wedi ei weld. Dwi wedi dweud fy mod i'n hapus gyda'r ffordd mae'r trywydd yna'n mynd a dwi'n gobeithio y bydd hwnna'n cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf. Felly, mi fydd e'n dod. Beth sydd yn hwnnw yw—. Rŷn ni wedi gwneud ymgynghoriad, wrth gwrs, gyda menywod ar draws Cymru i ofyn iddyn nhw, 'Beth ŷch chi'n meddwl sydd angen mewn cynllun?' A beth fyddwn ni'n ei gael yw'r ymateb yma, beth mae'r 4,000 o bobl sydd wedi ymateb yn meddwl ddylai fod yn y cynllun, ac wedyn bydd hwnna'n mynd ymlaen, a gobeithio cawn ni rywbeth arall wedyn, cam ymhellach ymlaen, yn yr haf. Achos cynllun 10 mlynedd fydd hi, a dwi'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni ddim jest yn edrych ar faterion sydd yn ymwneud â gynaecoleg a'r agweddau hynny o fenywod, ond dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n edrych ar bethau fel asthma, yr anxiety a'r migraines sy'n effeithio ar fenywod mewn ffordd wahanol. Felly, mae lot o waith eto i'w wneud, ond beth oedd yn bwysig oedd gwneud yn siŵr mai menywod oedd yn teimlo fel mai nhw oedd yn cael dylanwad ar siâp y rhaglen fydd i ddod.

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:28, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fel y gwyddoch yn sicr, fe wnaethom ni fel Ceidwadwyr Cymreig gynnal dadl yn y Siambr hon ar ganser gynaecolegol sy'n effeithio ar fenywod. Roedd gennym alwadau clir yn y ddadl honno y teimlwn y gallent helpu menywod ledled Cymru sy'n dioddef gyda'r clefyd ofnadwy hwn. Yr hyn yr hoffwn ei wybod heddiw gan Lywodraeth Cymru yw beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â chanser gynaecolegol yma yng Nghymru, a pha gamau a gymerwyd gennych, yn dilyn y ddadl honno, i wneud yn siŵr nad oes rhaid i fwy o fenywod yng Nghymru ddioddef gyda'r clefyd erchyll hwn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:29, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi bod ar drywydd y ddadl honno, ac un o'r pethau rwyf wedi'i wneud yw cynnal uwchgynhadledd canser, lle buom yn edrych, yn amlwg, ar ddadansoddiad o lle mae angen inni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â chanser gynaecolegol yn arbennig. Rydym yn rhoi pwysau ar fyrddau iechyd i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybrau gorau posibl i wneud yn siŵr y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd. Un o brif ddibenion yr uwchgynadleddau canser hyn yw sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybr gorau posibl, gan ddilyn y cyngor clinigol gorau. Felly, rwy'n falch o ddweud bod cynnydd wedi'i wneud. Rwy'n credu bod gennym ffordd bell i fynd, a bod yn onest. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â gweithlu, ond yn amlwg, byddwn yn gwneud cyhoeddiadau'n fuan am yr hyn y bwriadwn ei wneud mewn perthynas â'r gweithlu.