Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:30, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddymuno Nadolig llawen i chi, Weinidog, ac i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr? 

Nid oes un hyb llawfeddygol yn bodoli yng Nghymru. Nododd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon fod hybiau llawfeddygol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau mwyaf erioed o driniaethau yn y GIG, sydd bellach yn fwy na thri chwarter miliwn o achosion yng Nghymru. Maent hefyd wedi profi'n ganolog i'r gwaith o leihau'r ôl-groniad yn Lloegr, a dyna pam mae 50 arall ar y ffordd, yn ychwanegol at y 91 sydd eisoes yn weithredol. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pam nad oes yna unrhyw hybiau llawfeddygol yng Nghymru er ein bod wedi bod yn dweud wrthych chi a'ch rhagflaenydd i'w rhoi ar waith ers dros ddwy flynedd?