Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:30, 14 Rhagfyr 2022

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddymuno Nadolig llawen i chi, Weinidog, ac i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr? 

Nid oes un hyb llawfeddygol yn bodoli yng Nghymru. Nododd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon fod hybiau llawfeddygol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau mwyaf erioed o driniaethau yn y GIG, sydd bellach yn fwy na thri chwarter miliwn o achosion yng Nghymru. Maent hefyd wedi profi'n ganolog i'r gwaith o leihau'r ôl-groniad yn Lloegr, a dyna pam mae 50 arall ar y ffordd, yn ychwanegol at y 91 sydd eisoes yn weithredol. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pam nad oes yna unrhyw hybiau llawfeddygol yng Nghymru er ein bod wedi bod yn dweud wrthych chi a'ch rhagflaenydd i'w rhoi ar waith ers dros ddwy flynedd?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:31, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, efallai eich bod wedi sylwi, mewn gwirionedd, lle mae'r poblogaethau wedi'u lleoli yng Nghymru, mae'n wahanol iawn i'r hyn sy'n bodoli yn Lloegr—mae ganddynt hwy ddinasoedd mawr; mae ganddynt lefydd sy'n agos at ei gilydd. Mae'n llawer haws iddynt hwy drefnu hybiau llawfeddygol ar wahân. Rydym ni'n neilltuo llawdriniaethau dewisol, sydd i bob pwrpas yn gwneud yr un peth. Felly, sicrhau nad yw llawdriniaethau dewisol yn cael eu bwrw allan gan alwadau gofal brys. Ac yn y ffordd honno, rwy'n meddwl ein bod ni wedi gweld llawer o gynnydd. Yn sicr, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae gennym ddau le modiwlar newydd bellach lle rydym yn disgwyl gweld tua 4,000 o driniaethau ychwanegol yn digwydd bob flwyddyn. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, unwaith eto mae yna hyb i bob pwrpas, yr un peth; mae'n gyfleuster wedi'i neilltuo, ac yno, fe welwch 4,000 o driniaethau cataract ychwanegol y flwyddyn. A hefyd Canolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro, lle mae yna weithgaredd wedi'i ddiogelu unwaith eto. Felly, galwch hwy'n beth bynnag a ddymunwch, dyna i bob pwrpas y maent yn ei wneud—maent yn gwneud yr un peth â hybiau llawfeddygol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:32, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, nid ydynt i bob pwrpas yr un peth, achos rydym yn cael canlyniad gwahanol iawn yng Nghymru. Weinidog, mae gennym ni 50,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth ac mae'r un ffigwr yn Lloegr a'r Alban yn sero—maent wedi cael eu dileu. Felly, rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn. Felly er eich bod wedi nodi safbwynt gwahanol yng Nghymru, byddwn yn awgrymu nad yw'r safbwynt hwnnw'n gweithio. Mae gennym ni un o bob pedwar claf yma yn aros dros flwyddyn am driniaeth ac mae'r ffigur yn Lloegr yn un o bob 20. Mae amseroedd aros cyfartalog yng Nghymru 10 wythnos yn hirach nag yn Lloegr. Felly, byddwn i'n dweud, edrychwch ar yr hyn sy'n gweithio yn Lloegr a gwnewch fel y mae Lloegr yn ei wneud pan fo'n gweithio. Ac nid wyf yn meddwl ei bod hi'n ddiogel i ddweud—. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn i chi gyrraedd eich targedau eleni, Weinidog; mae gennych darged i'w gyrraedd erbyn diwedd mis Mawrth ac rwy'n meddwl ei bod fwy neu lai yn realiti nawr nad ydych yn mynd i gyrraedd y targed hwnnw. Gobeithio y gwnewch chi, ond nid wyf yn meddwl eich bod chi'n mynd i gyrraedd y targed hwnnw. Rwy'n credu y bydd yn darged anodd iawn i'w gyrraedd hyd yn oed erbyn diwedd 2024. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:33, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch. Gwrandewch, rydym wedi rhoi targedau ymestynnol i mewn; rwy'n hyderus ein bod ni'n mynd i gyrraedd y targed mewn sawl maes arbenigol ac yn amlwg, rydym yn mynd i fod yn gwthio pawb i geisio'u cyrraedd. Ond rydym bob amser wedi dweud y byddai orthopaedeg, yn enwedig, yn her arbennig.

Rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddeall, mewn gwirionedd, pan fydd eich cyllideb gyfalaf wedi'i thorri i bob pwrpas, sef yr hyn sydd wedi digwydd, mae'n anodd iawn inni sefydlu canolfannau newydd. Ac felly, yr opsiwn sydd gennych ar gael i chi yw ad-drefnu'r hyn sydd gennych eisoes. Felly, gallem ddweud yn ddamcaniaethol, 'Iawn, rydym yn mynd i roi'r gorau i wneud damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty penodol ac fe wnawn ni neilltuo hwnnw', ond rydych chi'n mynd i fod yn wleidydd dewr os ydych chi'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Ac yn sicr, nid wyf mewn sefyllfa lle rwy'n barod i wneud hynny pan fo'r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys mor fawr. Ond yr hyn y maent wedi'i wneud yn Lloegr yw cau niferoedd enfawr o ysbytai lle roeddent yn darparu ar gyfer damweiniau ac achosion brys cyn hynny, ac nid ydym wedi gwneud hynny yng Nghymru. Nawr, mae cost ynghlwm wrth hynny—mae'n ddrud iawn, ond rwy'n meddwl bod yna benderfyniad gwleidyddol yn cael ei wneud yma. Ac mae'r cyhoedd, rwy'n credu, yn awyddus i weld y rhan fwyaf o'r llefydd damweiniau ac achosion brys hynny'n parhau ar agor. 

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:35, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Weinidog, mae'n rhaid i chi edrych ar yr ystadegau—mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain: yng Nghymru, rydym yn aros 10 wythnos yn hwy am driniaeth nag y mae'n rhaid i gleifion ei wneud yn Lloegr. Felly mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain, ac ni allwch ddianc rhag hynny.

Ond fy nghwestiwn olaf i chi eleni, Weinidog, yw: beth y credwch eich bod yn gresynu fwyaf yn ei gylch yn 2022? Ac mae'n rhestr faith. Ai cadw'r pasbortau brechlynnau aneffeithiol ar waith ydoedd; yr amseroedd aros hiraf am ambiwlans ers dechrau cadw cofnodion; yr amseroedd aros gwaethaf ym Mhrydain am wasanaethau damweiniau ac achosion brys; gadael un rhan o bump o'r boblogaeth ar restr aros GIG; nyrsys ar streic, gweithwyr ambiwlans ar streic, bydwragedd ar streic; 1,200 pellach o swyddi nyrsys yn wag a £130 miliwn wedi ei wario ar nyrsys asiantaethau; deintyddiaeth y GIG yn dod yn foethusrwydd; methu cefnogi meddygon teulu i fod yn fwy hygyrch a moderneiddio technoleg y GIG; neu osgoi atebolrwydd drwy ymchwiliad COVID penodol i Gymru? Ai dyma beth y mae Keir Starmer yn ei olygu pan fo'n dweud, 'Edrychwch ar Gymru i weld y daioni y gall Llywodraeth Lafur ei wneud'?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:36, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, 'Nadolig Llawen' i chi hefyd, Russell. [Chwerthin.] Ac rwy'n falch iawn mai dyna oedd eich cwestiwn olaf chi eleni. Edrychwch, rwyf wedi cael blynyddoedd gwell, os ydw i'n onest, ac yn amlwg, mae yna lawer o bethau yr hoffwn pe byddem wedi gweld gwelliannau arnynt a hoffwn pe baem wedi mynd yn gyflymach gyda rhai pethau. Oherwydd i mi, y peth allweddol yw cadw llygad ar beth sydd ei angen ar y cyhoedd, a'r hyn sydd ei angen arnynt yw gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ac rwy'n gresynu nad ydym wedi gallu gwneud mwy o hynny. Ac mae rhesymau dilys am hynny: rydym wedi cael pandemig COVID; rydym wedi cael effeithiau chwyddiant enfawr sydd wedi sugno £200 miliwn allan o gyllideb y GIG; rydym wedi cael cynnydd enfawr yn y galw; ac nid ydym wedi gweld peth o'r cynnydd y byddwn wedi hoffi ei weld mewn perthynas ag amseroedd aros. Ond nid ydym ar y pwynt eto ble rydym wedi cyrraedd y dyddiad terfynol, ac fe fyddaf i, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol, yn parhau i bwyso ar y byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau eu bod yn gweithio tuag at gyrraedd y targedau a wnaethom yn glir iawn ym mis Ebrill ac y disgwyliwn iddynt eu cyrraedd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn. A gaf innau, yng nghwestiynau iechyd olaf y flwyddyn, ddefnyddio'r cyfle yma i ddymuno 'Nadolig Llawen' i'r Gweinidog, i'r Senedd, ac i bawb sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal? Ac mae'n teimlo'n gyfarchiad gwag, braidd, pan ydyn ni'n edrych ar yr heriau y mae'r gwasanaethau hynny'n eu hwynebu. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w ofyn heddiw. Mi allwn i fynd ar ôl heriau'r gaeaf; yr argyfwng recriwtio a chadw staff; amseroedd aros am driniaeth mewn adrannau brys, neu am ambiwlans; dyfodol yr ambiwlans awyr; diffyg gwlâu cymunedol; streics; mi fuaswn i fod wedi gallu cynnwys prinder antibiotigs—mae yna gwestiwn amserol wedi ei dderbyn ar hwnnw. Lle mae rhywun yn dechrau? Ond gadewch i fi ofyn hyn: pa gyflwr y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r NHS fod ynddo fo erbyn fy mod i'n gallu gofyn y cwestiynau nesaf yma yn y Senedd? Mae gen i ofn bod cleifion a staff wedi colli ffydd yng ngallu'r Llywodraeth i reoli'r NHS. Gaf i ofyn i'r Gweinidog roi rhywbeth i ni—unrhyw beth—y byddwn ni'n gallu ei weld yn gwella, cornel yn cael ei throi, i brofi y dylem ni ymddiried yn y Gweinidog?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:39, 14 Rhagfyr 2022

Wel, mae'n amlwg ein bod ni'n treulio lot o amser yn paratoi ar gyfer y gaeaf—rŷn ni'n gwybod y bydd pwysau dros y gaeaf. Maen nhw eisoes wedi dechrau—rŷn ni wedi gweld faint o bwysau oedd ar y gwasanaethau dros y penwythnos diwethaf. Dyw hi ddim yn helpu pan ŷn ni'n gweld pethau fel scarlet fever yn codi—doeddem ni ddim yn disgwyl gweld hynny. Felly, mae pethau'n codi nag ydym ni'n disgwyl eu gweld. Ond, wrth gwrs, mae arian ychwanegol nawr ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Yn amlwg, mae hwnna'n mynd i fod yn anodd, pan fo chwyddiant yn effeithio. Mae yna gwpwl o bethau lle dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweld gwahaniaeth dros y gaeaf. Un ohonynt fydd y ffaith ein bod ni'n mynd i weld 100 o weithwyr ambiwlans ychwanegol yn dechrau dros gyfnod y Nadolig. Maen nhw wedi bod mewn hyfforddiant; gobeithio y bydd hynny'n cymryd rhywfaint o bwysau oddi ar y gwasanaeth ambiwlans. A hefyd, bydd yna gyhoeddiad ar ddydd Gwener gan y Dirprwy Weinidog, ar ofal, sydd hefyd, gobeithio—. Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar hwnna am fisoedd lawer, gyda'n gilydd, gyda llywodraeth leol, ar roi mwy o help yn ein cymunedau, ond mi wnawn ni gyhoeddiad mwy manwl ar hynny ar ddiwedd yr wythnos. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:40, 14 Rhagfyr 2022

Roedd 'gobaith' yn air a gafodd ei ddefnyddio yn fanna. Mae gen i ofn mai'r Gweinidog yn gobeithio am y gorau ydy hynny; dydy'r NHS ddim yn mynd i ddod dros ei broblemau os ydy'r Gweinidog jest yn gobeithio am y gorau. Ac efo mwy o staff ambiwlans, wrth gwrs, methu cael cleifion i mewn i'r ysbytai mae'r ambiwlans; dydy mwy o staff ambiwlans ddim yn mynd i ddatrys pethau. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Yn fy ail gwestiwn, serch hynny, rwy'n troi at y gwahanol anghydfodau cyflog—nyrsys yng Nghymru yn streicio am y tro cyntaf yr wythnos hon, staff ambiwlans a bydwragedd i streicio hefyd. Rwy'n awyddus i ddod o hyd i ffordd drwy hyn, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i ymatal rhag cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon. Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod ei dwylo wedi'u clymu. Gadewch imi ofyn hyn iddi: a yw hi hyd yn oed eisiau i'r dwylo hynny gael eu datod, oherwydd mae nyrsys yn dweud wrthyf mai'r hyn a welant hwy yw Gweinidog sy'n ymddangos yn hapus i guddio tu ôl i ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU? Ac nid wyf yn sôn am gyfyngiadau ariannol; mawredd, rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ac mae angen i'r Ceidwadwyr ar lefel y DU gywilyddio am y rôl ragweithiol y maent hwy wedi'i chwarae yn helpu i greu'r llanast economaidd rydym ynddo. Ond ar hyn o bryd, mae'r Gweinidog yn gallu osgoi'r ail-flaenoriaethu, y meddwl arloesol, y posibilrwydd o ddefnyddio pwerau datganoledig sydd ar gael i'r Llywodraeth drwy ddweud nad oes unrhyw beth y gall hi ei wneud. Wel, os nad yw hi wir yn gallu trafod, fel y mae hi'n awgrymu, beth mae'n ei wneud i geisio cael pwerau i wneud hynny, er mwyn inni allu cefnogi ein gweithwyr ac osgoi'r streiciau hyn?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:42, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, edrychwch, yn gyntaf oll, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i mi gofnodi unwaith eto ein bod yn deall cryfder teimladau'r bobl sy'n teimlo fel pe nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall heblaw gweithredu'n ddiwydiannol. Rydym yn credu y dylai ein holl weithwyr sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo'n deg, ac rydym yn credu bod yr anhrefn sydd wedi'i greu gan y Llywodraeth Dorïaidd, a'r cynnydd a welsom yn y chwyddiant, wedi erydu llawer o'r arian a fyddai wedi mynd i bocedi'r nyrsys hynny mewn gwirionedd.

Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n deall nad arian sy'n mynd i bocedi'r nyrsys yn unig sydd wedi ei erydu, ond y ffaith amdani yw, eleni, cefais fil nad oeddem yn ei ddisgwyl o £207 miliwn am ynni. Nawr, byddai £200 miliwn yn cyfateb i roi cynnydd o 4 y cant i weithwyr y GIG. Nawr, nid wyf yn credu y gallwn ni ddiffodd y goleuadau yn ein hysbytai. Nid wyf yn credu y gallwn ddiffodd y gwres yn ein hysbytai, ond efallai fod hynny'n opsiwn y gallai Plaid Cymru fod eisiau ei ddewis. Ond nid yw'n opsiwn y teimlaf y gallwn ni ei ddewis. A dyna'r gwahaniaeth rhwng taflu grenadau o ochr arall y Siambr a bod mewn grym mewn gwirionedd, oherwydd mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniadau anodd hynny. Ac a dweud y gwir rwy'n meddwl bod rhaid inni gadw'r goleuadau ymlaen, a chadw cleifion yn gynnes pan ddônt i'r ysbyty. Mae hwnnw'n benderfyniad rydym ni wedi ei wneud.