Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Wel, diolch. Gwrandewch, rydym wedi rhoi targedau ymestynnol i mewn; rwy'n hyderus ein bod ni'n mynd i gyrraedd y targed mewn sawl maes arbenigol ac yn amlwg, rydym yn mynd i fod yn gwthio pawb i geisio'u cyrraedd. Ond rydym bob amser wedi dweud y byddai orthopaedeg, yn enwedig, yn her arbennig.
Rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddeall, mewn gwirionedd, pan fydd eich cyllideb gyfalaf wedi'i thorri i bob pwrpas, sef yr hyn sydd wedi digwydd, mae'n anodd iawn inni sefydlu canolfannau newydd. Ac felly, yr opsiwn sydd gennych ar gael i chi yw ad-drefnu'r hyn sydd gennych eisoes. Felly, gallem ddweud yn ddamcaniaethol, 'Iawn, rydym yn mynd i roi'r gorau i wneud damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty penodol ac fe wnawn ni neilltuo hwnnw', ond rydych chi'n mynd i fod yn wleidydd dewr os ydych chi'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Ac yn sicr, nid wyf mewn sefyllfa lle rwy'n barod i wneud hynny pan fo'r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys mor fawr. Ond yr hyn y maent wedi'i wneud yn Lloegr yw cau niferoedd enfawr o ysbytai lle roeddent yn darparu ar gyfer damweiniau ac achosion brys cyn hynny, ac nid ydym wedi gwneud hynny yng Nghymru. Nawr, mae cost ynghlwm wrth hynny—mae'n ddrud iawn, ond rwy'n meddwl bod yna benderfyniad gwleidyddol yn cael ei wneud yma. Ac mae'r cyhoedd, rwy'n credu, yn awyddus i weld y rhan fwyaf o'r llefydd damweiniau ac achosion brys hynny'n parhau ar agor.