Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Wel, 'Nadolig Llawen' i chi hefyd, Russell. [Chwerthin.] Ac rwy'n falch iawn mai dyna oedd eich cwestiwn olaf chi eleni. Edrychwch, rwyf wedi cael blynyddoedd gwell, os ydw i'n onest, ac yn amlwg, mae yna lawer o bethau yr hoffwn pe byddem wedi gweld gwelliannau arnynt a hoffwn pe baem wedi mynd yn gyflymach gyda rhai pethau. Oherwydd i mi, y peth allweddol yw cadw llygad ar beth sydd ei angen ar y cyhoedd, a'r hyn sydd ei angen arnynt yw gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ac rwy'n gresynu nad ydym wedi gallu gwneud mwy o hynny. Ac mae rhesymau dilys am hynny: rydym wedi cael pandemig COVID; rydym wedi cael effeithiau chwyddiant enfawr sydd wedi sugno £200 miliwn allan o gyllideb y GIG; rydym wedi cael cynnydd enfawr yn y galw; ac nid ydym wedi gweld peth o'r cynnydd y byddwn wedi hoffi ei weld mewn perthynas ag amseroedd aros. Ond nid ydym ar y pwynt eto ble rydym wedi cyrraedd y dyddiad terfynol, ac fe fyddaf i, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol, yn parhau i bwyso ar y byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau eu bod yn gweithio tuag at gyrraedd y targedau a wnaethom yn glir iawn ym mis Ebrill ac y disgwyliwn iddynt eu cyrraedd.