Amseroedd Aros Ambiwlansys

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:50, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ddydd Sadwrn, cafodd dros 2,000 o alwadau brys 999 eu gwneud, sy'n gynnydd o 17 y cant ers yr wythnos diwethaf. Ymatebodd yr ymddiriedolaeth i dros 200 o alwadau coch lle mae bywyd yn y fantol, a hefyd gwnaed dros 10,000 o alwadau 111—y diwrnod prysuraf erioed i'r gwasanaeth. Yn wyneb y tswnami o alwadau, ddydd Sul, fe wnaeth yr ymddiriedolaeth ddatgan digwyddiad parhad busnes. Gadawyd rhai yn aros am oriau a gofynnwyd i eraill wneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty. Wrth ystyried bod staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gweithio 31,700 awr o oramser bob mis ar gyfartaledd ers mis Ebrill 2017 ar gyfanswm cost o £61 miliwn, mae'n amlwg fod gweithrediad parhaus y gwasanaeth yn y fantol. Weinidog, rydych chi'n gwybod mai fy safbwynt i yw y dylid lleddfu pwysau mewn ysbytai mawr drwy drosglwyddo cleifion sy'n ddigon iach i'w rhyddhau ond sy'n dal i aros am becyn gofal cymdeithasol i ysbytai cymunedol lle ceir wardiau gwag o hyd. Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich barn ar hynny. A wnewch chi ystyried symud ymlaen eto, fel y gwnaethoch y gaeaf diwethaf, gyda'r ward, dyweder, yn Llandudno, lle roedd pobl yn gallu gadael yr ysbyty a mynd yno fel tŷ hanner ffordd cyn dychwelyd adref? Mae hynny'n lleddfu llawer o'r pwysau sydd ar deuluoedd, cleifion a'r bwrdd iechyd. Hefyd, pa gynlluniau sydd gennych chi, wrth symud ymlaen, i ofyn i wirfoddolwyr ddod i helpu GIG Cymru dros gyfnod y gaeaf? Diolch.