Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch. Wel, rŷm ni’n deall pam mae pobl yn diflasu wrth aros mor hir. Mae carpal tunnel syndrome yn rhywbeth, wrth gwrs, y mae’n rhaid i orthopaedic surgeons ymwneud ag ef. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n monitro faint o waith y mae’r orthopaedic surgeons yn ei wneud. Mae’n bwysig iawn ein bod ni yn cadw i fynd.
Cawsom ni gyfarfod arall yn ddiweddar gyda’r arbenigwr Prydeinig dros orthopeadic surgery i wneud yn siŵr bod pobl yn deall beth yw’r system—beth yw’r pathway gorau i gael y rhan fwyaf o bobl drwy’r system cyn gyflymed â phosibl. Felly, mae gwaith i’w wneud ar draws Cymru i wella perfformiad yr hyn sydd eisoes mewn lle pan fo'n dod i orthopaedic surgery. Felly, dwi’n siŵr, yn Betsi Cadwaladr, eu bod nhw wedi cael y neges hynny yn glir oddi wrthyf i yn ddiweddar.