Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch i Llyr Gruffydd am godi'r pwynt pwysig hwn, sydd, wrth gwrs, yn fater ehangach nad yw'n ymwneud yn unig â syndrom twnnel y carpws, ond â'r ffaith nad yw llawer o bobl sydd wedi talu eu trethi neu yswiriant gwladol dros ddegawdau lawer yn gallu cael triniaeth mewn modd rhesymol, amserol, fel rhywbeth y maent wedi talu amdano dros lawer iawn o flynyddoedd. Felly, tybed yn gyntaf oll, Weinidog, a ydych chi'n credu bod honno'n sefyllfa deg i lawer o fy etholwyr fod ynddi, pobl sydd wedi talu i mewn i'r system ers cymaint o amser ond sy'n methu cael triniaeth gan y system pan fydd ei hangen arnynt. A hefyd, mewn perthynas â gofal iechyd preifat, tybed a wnewch chi amlinellu sut rydych chi'n gweithio gyda'r sector iechyd preifat i ddefnyddio unrhyw gapasiti neu allu ac ariannu cleifion y GIG i allu cael mynediad at y gofal hwnnw mewn modd mwy amserol. Diolch yn fawr iawn.