Gwasanaethau Ambiwlans

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:06, 14 Rhagfyr 2022

Dyw’r perfformiad o ran amser ymateb ambiwlansys ddim ble bydden ni, y gwasanaeth iechyd na'r cyhoedd yn hoffi iddo fe fod. Mae gennym ni gynllun gwella cenedlaethol yn ei le i wella gwasanaethau ambiwlans, gyda chefnogaeth £3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn cynnwys camau gweithredu cenedlaethol a lleol i gefnogi gwelliannau, gan gynnwys yn Nwyfor Meirionnydd.