Gwasanaethau Ambiwlans

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:07, 14 Rhagfyr 2022

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn yn gynharach, gyda llaw, yn dweud diolch i weithwyr y sector iechyd, ond dydy geiriau, fel clapio, ddim yn talu biliau; mae angen i chi fynd a thrafod efo'r undebau o lan lefel eu cyflog. Ond ta waeth am hynny am y tro, mae'r straeon am gleifion yn aros oriau am ambiwlansys yn llawer rhy gyffredin, mae gen i ofn. Mae gennyf i achos o ddynes 78 oed yn aros 18 awr am ambiwlans efo'i chlun wedi'i ddadleoli; un arall yn ddynes 88 oed yn dioddef o ddementia wedi gorfod aros 11 awr efo clun wedi'i dorri.

Ond yn fwy pryderus fyth ydy fy mod i ar ddeall fod y gwasanaeth ambiwlans, mewn ymateb i'r argyfwng yma, am weddnewid eu darpariaeth nhw o'r gwasanaeth, ac yn hytrach nag anelu i drin y cleifion 80 y cant o'r amser, y bydden nhw yn lle yn anelu i drin a chludo 20 y cant o'r amser. Felly, mae hynny yn codi pryder o ran beth mewn gwirionedd ydy blaenoriaeth y gwasanaeth ambiwlans efo'r aildrefnu yma—ai bod ar y ffôn ynteu drin cleifion? 

Ond yn fwy pryderus fyth ydy fod ambiwlansys ym Meirionnydd yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser bellach yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar alwadau, oherwydd y diffygion yno. Beth ydych chi am wneud er mwyn sicrhau bod ambiwlansys Meirionnydd yn aros i drin pobl ym Meirionnydd, yn hytrach na gorfod teithio ymhell i ffwrdd a thrin pobl mewn ardaloedd eraill, gan adael ardaloedd mawr yn ne Gwynedd yn wag, heb cyfr?