Amseroedd Aros

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:11, 14 Rhagfyr 2022

Dwi wedi clywed llu o achosion tebyg i rai Mabon ap Gwynfor yn fy ardal i: un etholwraig arhosodd dros 17 awr tu allan i'r adran frys mewn ambiwlans gyda symptomau o strôc; etholwr arall, anabl, a fu'n aros am 12 awr tu allan i'r adran frys am wely, oherwydd iddo gwympo; a hyd yn oed un dyn yn teithio nôl ac ymlaen i'r adran frys ac argyfwng i roi blancedi a bwyd i'w fam oedrannus oherwydd roedd yn rhaid iddi aros yn yr adran dros nos yn eistedd mewn cadair.

O ran y darlun mawr, mae'r sefyllfa o ran amseroedd ymateb yn Hywel Dda ymhlith y gwaethaf yng Nghymru. Yn ystod mis Hydref, dim ond 39.3 y cant o alwadau coch cafodd eu ateb o fewn yr amser o wyth munud. Chwe mis yn ôl, pan godais i yr un mater gyda chi, roeddech chi'n dweud bryd hwnnw nad oeddech chi'n derbyn bod yna argyfwng. Ydych chi wedi newid eich meddwl nawr? Ac o ran yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd ar 21 Rhagfyr o ran y streic, ydych chi'n disgwyl neu am ofyn i aelodau o'r lluoedd arfog neu'r heddlu i gamu mewn i'r bwlch oherwydd y streic honno?