Amseroedd Aros

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

8. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer pobl sy'n byw yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ58876

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:11, 14 Rhagfyr 2022

Mae’r camau sy'n cael eu cymryd i leihau’r amser aros mewn adrannau brys, a lleihau amser ymateb ambiwlansys, yn cynnwys creu mwy o gapasiti ambiwlans, gweithredu gwasanaethau ffrydio clinigol, defnyddio modelau ward rhithiol a gwella gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Dwi wedi clywed llu o achosion tebyg i rai Mabon ap Gwynfor yn fy ardal i: un etholwraig arhosodd dros 17 awr tu allan i'r adran frys mewn ambiwlans gyda symptomau o strôc; etholwr arall, anabl, a fu'n aros am 12 awr tu allan i'r adran frys am wely, oherwydd iddo gwympo; a hyd yn oed un dyn yn teithio nôl ac ymlaen i'r adran frys ac argyfwng i roi blancedi a bwyd i'w fam oedrannus oherwydd roedd yn rhaid iddi aros yn yr adran dros nos yn eistedd mewn cadair.

O ran y darlun mawr, mae'r sefyllfa o ran amseroedd ymateb yn Hywel Dda ymhlith y gwaethaf yng Nghymru. Yn ystod mis Hydref, dim ond 39.3 y cant o alwadau coch cafodd eu ateb o fewn yr amser o wyth munud. Chwe mis yn ôl, pan godais i yr un mater gyda chi, roeddech chi'n dweud bryd hwnnw nad oeddech chi'n derbyn bod yna argyfwng. Ydych chi wedi newid eich meddwl nawr? Ac o ran yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd ar 21 Rhagfyr o ran y streic, ydych chi'n disgwyl neu am ofyn i aelodau o'r lluoedd arfog neu'r heddlu i gamu mewn i'r bwlch oherwydd y streic honno?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:12, 14 Rhagfyr 2022

Diolch. Dwi'n siŵr bod Adam Price wedi deall erbyn hyn mai rhan o'r broblem ynglŷn â chael pobl i mewn i'r ysbytai yw'r ffaith ein bod ni'n ffaelu â'u cael nhw mas o'r ysbytai. Felly, mae dros 1,000 o bobl yn ein hysbytai na ddylai fod yna. Rhan o'r broblem yw achos bod pobl yn methu â recriwtio, o ran llywodraeth leol, i weithio yn yr adrannau gofal. Felly, mae'r cyd-gysylltiad yna yn rhywbeth dwi'n meddwl bod yn rhaid i bob un ei ddeall, a dyna pam ein blaenoriaeth ni, yn ein tîm iechyd a gofal ni, y No. 1 priority, oedd i wneud yn siŵr ein bod ni'n talu y real living wage, ac felly mae hynny, i fi, yn fwy pwysig na dim i helpu gyda recriwtio. A fel dwi wedi dweud eisoes, fe fydd yna gyhoeddiad arall ynglŷn â beth rŷn ni wedi bod yn ei wneud yn y maes yma i weithio gyda llywodraeth leol, dros fisoedd lawer, i helpu gyda'r flow yma o ran cael pobl i mewn i'n hysbytai, achos mae pob gwely wedi'i gymryd, ac mae hwnna, wrth gwrs, yn broblem.

O ran y streic fydd yn digwydd ar 21 Rhagfyr, wrth gwrs dŷn ni'n dal i baratoi am hynny; dŷn ni ddim wedi—. Byddwn ni'n edrych i weld sut mae pethau'n gweithio yfory; mae yna lot o baratoi wedi cael ei wneud eisoes. Dŷn ni ddim ar hyn o bryd yn bwriadu defnyddio'r lluoedd arfog os nad oes yna wirioneddol angen, os nad oes yna real sefyllfa fydd yn golygu bod yna broblem wirioneddol o ran cadw pobl yn saff. Ond rŷn ni wedi bod yn siarad, er enghraifft, gyda'r heddlu, ynglŷn â nhw yn cario pethau i helpu pobl i gael eu calonnau nhw i ddechrau eto yn eu ceir nhw. Felly, mae yna lot o baratoi wedi cael ei wneud, yn sicr, gyda'r heddlu hefyd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:15, 14 Rhagfyr 2022

Diolch i'r Gweinidog am yr atebion i'r sesiwn gwestiynau yna.