Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod yn parhau i gofio faint o bobl sy'n cael cymorth bob mis mewn gwirionedd. Beth sy'n ddiddorol iawn i mi—. Yn amlwg, rwy'n cael llawer o bobl yn dod ataf yn cwyno am eu hamseroedd aros. Ond rwyf hefyd yn cael llawer o bobl yn dod ataf i ddweud pa mor wirioneddol wych yw'r GIG iddynt hwy. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, ychydig cyn y Nadolig, i ddiolch i weithwyr y GIG ledled Cymru am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddidrugaredd. Rydym yn deall ei bod hi'n anodd ac yn amlwg, rydym yn diolch iddynt am yr holl waith y maent wedi ei wneud.
Mae'n bwysig deall bod yna bobl yn gweithio'u gorau glas. Mae yna rai mannau hefyd lle gallwn wella perfformiad, a'r peth cyntaf i mi yw bod yn rhaid inni gael y capasiti mwyaf posibl gan y bobl rydym eisoes yn eu talu ar hyn o bryd. Felly, yn amlwg rydym yn gwneud rhyw ychydig yn y sector preifat yn barod, ond i mi, rwyf am gael gwerth am arian gan bobl rydym eisoes yn eu talu, ac weithiau—mae'n ddiddorol, onid yw—nid oes ganddynt gynllun llawn ar gyfer y diwrnod fel y dylai fod. Efallai fod rhesymau da dros hynny, ond wedyn mater i'r rheolwyr yw gwneud yn siŵr fod y systemau hynny ar waith i sicrhau bod pobl sydd â'r sgiliau anhygoel hyn yn gallu gwneud y gwaith y cawsant eu hyfforddi i'w wneud. Felly, dyna pam y cawn y cyfarfodydd rheolaidd iawn hyn gyda llawfeddygon nawr, gyda swyddogion gweithredol byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod yn deall: dyma'r llwybr gorau posibl, pam nad ydych chi'n gwneud mwy o achosion dydd, pam nad ydych chi'n gwneud y rhai sydd wedi aros hiraf yn gyntaf, fel rydym wedi gofyn i chi ei wneud? Ac mewn gwirionedd mae ffordd bell i fynd ar ychydig o hyn, ac rwy'n meddwl mai fy ngwaith i fel Gweinidog iechyd yw eu gwthio ar yr hyn rydym wedi gofyn iddynt ei wneud ac i gyflawni.