Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Yn ôl yn 2010, fe wnaeth strategaeth 'Bwyd i Gymru' Llywodraeth Cymru, y gwn y bydd y Llywydd yn gyfarwydd iawn â hi, gynnydd i'w groesawu drwy sefydlu dull mwy cyfannol o ymdrin â pholisi bwyd. Ond nid oedd ganddi systemau targedu a chasglu data i fesur pa gynnydd a wnaed. Ar ôl hyn, mae strategaethau olynol, megis cynllun gweithredu 2014 a gweledigaeth 2021 ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, wedi symud y ffocws tuag at dwf economaidd a hyrwyddo allforion, yn hytrach na defnyddio'r system fwyd i fynd i'r afael â materion cymdeithasol ehangach. Felly, mae'r nodau bwyd yn adlewyrchu'r hyn y gwnaeth y pwyllgor amgylchedd blaenorol ddadlau drosto yn eu hadroddiad, 'Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru'—hynny yw dros strategaeth sy'n adlewyrchu dull system gyfan. Er mwyn trawsnewid y nodau bwyd yn bolisi, byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth fwyd genedlaethol, tra bydd gofyn i rai cyrff cyhoeddus, fel cynghorau a byrddau iechyd, lunio cynlluniau bwyd lleol. Mae disgwyl y bydd y cynlluniau lleol yn atgyfnerthu amcanion y strategaeth genedlaethol. Bydd y rhain yn cyfuno polisïau sy'n bodoli eisoes ac yn hyrwyddo arloesedd ar lefel genedlaethol a lleol. Byddant hefyd yn sicrhau cysondeb yn y polisi hefyd.
Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi tynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle mae polisi bwyd yng Nghymru wedi bod braidd yn anghyson, megis cyfleoedd a gollwyd i gysylltu cynllun manwerthu bwyd a diod Llywodraeth Cymru gyda strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a'r polisi isafbris alcohol yn erbyn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer diod. Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn rhoi hwb i'r sector bwyd a diod yng Nghymru drwy gryfhau cadernid cadwyni cyflenwi lleol. Bydd yn creu cyfleoedd economaidd newydd o fewn cymunedau, drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol sy'n cael ei gaffael, ac yn gwella'r amgylchedd lleol drwy ganolbwyntio ar gynhyrchu cynnyrch mwy cynaliadwy.
Ddirprwy Lywydd, prif agwedd olaf y Bil yw creu comisiwn bwyd Cymreig, sy'n cynnwys bwrdd a chadeirydd. Y bwriad yw tynnu aelodau o bob rhan o'r system fwyd. Bydd y comisiwn yn ailosod llywodraethiant y system fwyd yng Nghymru, a bydd yn cyd-greu ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol, ochr yn ochr â Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn dwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif, er mwyn sicrhau y gellir cyrraedd targedau nodau bwyd a nodau polisi. Gall y comisiwn ddefnyddio'i rôl hefyd i feithrin gallu ac arbenigedd polisi yng Nghymru.
Cafwyd peth trafodaeth nad oes angen comisiwn mewn gwirionedd, ac yn hytrach, y gall comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol edrych ar fwyd fel rhan o'u cylch gwaith. Rwy'n cofnodi fy niolch am gefnogaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol drwy'r broses hon. Ond mae'r comisiynydd eisoes o dan bwysau amser ac adnoddau sylweddol, sy'n golygu y byddai angen mwy o adnoddau arnynt i wneud hynny, adnoddau y gellid eu cyfeirio'n well at gorff sydd â'r gallu a'r arbenigedd i fabwysiadu agwedd system gyfan at bolisi bwyd. Mae'r Bil hefyd yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru sefydlu ac ariannu'r comisiwn o fewn y fframwaith a nodir o fewn y Bil, sy'n golygu y gall y Llywodraeth gyfeirio cymaint o adnoddau ag y teimla fod eu hangen i ariannu'r comisiwn. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi rhai o'r comisiynwyr presennol a'u cyllidebau i ddarparu'r ystod o gostau cyllidebol posibl.
I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, heddiw nodais rai o brif nodweddion y Bil, a'r rhesymeg sy'n sail iddynt. Mae'r datganiad hwn yn ddechrau ar broses hir o graffu gan y Senedd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at drafod y cynigion yn fanwl, er fy mod yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n garedig wrthyf, wrth imi fynd i'r ystafelloedd pwyllgor hynny gyda rhyw lefel o arswyd. Wrth gwrs, rwyf hefyd yn awyddus iawn i barhau fy ymgysylltiad adeiladol ag Aelodau a'r Gweinidog, a'i swyddogion yn enwedig, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ein trafodaethau hyd yma. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall ac yn cytuno â'r egwyddorion sy'n sail i'r Bil. Er fy mod yn gwybod bod agweddau ar y darpariaethau y mae hi'n teimlo y gellid eu newid, rwy'n meddwl o ddifrif fod cyfle i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ffordd o basio'r Bil hwn. Rwy'n credu'n wirioneddol nad oes angen i unrhyw wleidyddiaeth na dim byd felly rwystro'r gwaith o gyflwyno'r Bil hwn i bobl Cymru. Rwy'n agored i syniadau ac yn fodlon dod o hyd i ffordd ymlaen dros y misoedd nesaf. Rwy'n hapus i adael i'r Bil hwn fod yn Fil y Senedd, ac i ni wneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd, oherwydd mae'r system fwyd yn hanfodol i wead ein cymunedau a phopeth a wnawn. Rydym yn gwybod y gall ac y dylai wneud mwy i gefnogi llesiant a ffyniant. Felly, gadewch inni wireddu hyn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r datganiad a Bil Bwyd (Cymru) i'r Senedd.