Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa'r Aelodau o fy natganiad o fuddiant fel ffermwr? Pleser o'r mwyaf yw cyflwyno Bil Bwyd (Cymru) i'r Siambr y prynhawn yma—Bil Aelod cyntaf y chweched Senedd. Tua 13 mis yn ôl, cefais gyfle gan bob un ohonoch i gyflwyno amlinelliad o'r Bil, yn seiliedig ar yr egwyddor fod angen inni gael mwy o fwyd wedi'i gynhyrchu'n lleol i'n cartrefi, ein cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond wrth drafod fy syniadau gyda rhanddeiliaid, daeth yn amlwg fod angen llawer mwy o waith i sicrhau bod y system fwyd yn gweithio, nid yn unig i'n cynhyrchwyr, ond i'n cymunedau hefyd. Ac felly, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd heddiw wedi'i ehangu ymhell y tu hwnt i'r hyn a ragwelais yn wreiddiol. Teimlwn ei bod yn bwysig inni fachu ar y cyfle hwn i gryfhau system fwyd Cymru yn ei chyfanrwydd, i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, cryfhau diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella'r dewis a roddir i ddefnyddwyr.
Dyma'r egwyddorion cyffredinol sydd wedi bod yn sail i ddarpariaeth ac amcanion polisi'r Bil bwyd. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Bil yn darparu fframwaith sy'n galluogi dull trawslywodraethol cydlynol, cyson a strategol, o weithredu polisi ac ymarfer ar bob agwedd o'r system fwyd. I lywio'r broses hon, rwyf wedi cynnal ystod eang o ymgynghoriadau—o gyfarfodydd bwrdd crwn ar bolisi i gwmpasu dull cychwynnol y Bil, rwyf wedi cael cyswllt rheolaidd ag arbenigwyr polisi i drafod agweddau technegol, yn ogystal ag ymgynghoriad cyhoeddus, a lansiwyd gennyf yn y Sioe Frenhinol. Cynhaliwyd hwnnw dros yr haf, ac rydym wedi derbyn dros 50 o ymatebion o ansawdd uchel i'r ymgynghoriad. Datgelodd hyn gefnogaeth gref i egwyddorion cyffredinol y Bil a'i ddarpariaethau. Roedd dros 75 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno bod angen inni weld y Bil hwn ar y llyfr statud.
Ddirprwy Lywydd, mae'r gwaith sydd wedi'i wneud i gynhyrchu'r Bil, a'r memorandwm esboniadol, wedi bod yn enfawr, ac ni allwn fod wedi ei wneud heb gefnogaeth arbenigol a chyfeillgarwch tîm y Bil Comisiwn, sydd wedi dod o bob rhan o Gomisiwn y Senedd, a hoffwn ddiolch i'r cwnsleriaid allanol yn ogystal. Maent wedi gwneud ymdrech aruthrol o'r diwrnod cyntaf i wireddu fy syniadau ac i fy arwain drwy'r broses hon. Rwyf mor ddiolchgar, ac mae'n rhaid imi ganmol ansawdd y staff yn y Comisiwn—maent wedi bod yn rhagorol. Roeddwn eisiau dweud diolch arbennig hefyd i fy staff cymorth fy hun, yn enwedig Tyler Walsh, sydd wedi bod yn gwbl allweddol wrth fy helpu i gyflawni hyn hyd yma, a hefyd Tom Povey, sydd wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol y broses hon. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch hefyd i bob sefydliad, arbenigwr polisi, ac aelodau'r cyhoedd, o bob rhan o'r DU, sydd wedi ein helpu i lunio'r Bil. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus yn fawr iawn.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi at y Bil ei hun nawr, ac fe wnaf nodi'n fras beth mae pob adran yn ei wneud a pham. Dechreuwn gyda nodau bwyd. Maent yn darparu mecanwaith i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ei amcan polisi allweddol, neu'r nod bwyd sylfaenol—hynny yw, darparu bwyd fforddiadwy ac iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Caiff hyn ei gefnogi gan ystod o nodau bwyd eilaidd sy'n ymdrin â phethau fel iechyd, llesiant cymdeithasol ac economaidd, yr amgylchedd a bioamrywiaeth, ac wrth gwrs, gwastraff bwyd. Mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gymryd camau rhesymol i ddatblygu'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, megis drwy'r strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol. Hefyd, mae gofyniad i Weinidogion Cymru atgyfnerthu targedau presennol, yn ogystal â sefydlu targedau ychwanegol ar sut i gyrraedd y nodau bwyd. Diben y ddarpariaeth hon yw sefydlu cyfeiriad teithio cyson i system fwyd Cymru, yn ogystal â chynyddu atebolrwydd o'i mewn. Yn ystod yr ymgynghoriad, fe ddywedwyd yn glir fod diffyg dull cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd Cymru, yn ogystal ag o fewn y system fwyd ehangach. Roedd 63% o'r rhai a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil drafft yn credu nad yw strategaethau bwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cydgysylltiedig. Ac er bod nifer o gynlluniau ar waith, nid oes digon o graffu a mecanweithiau atebolrwydd yn gysylltiedig â hwy.