Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Bydd strategaeth wedi'i diweddaru'n cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ond nid oes unrhyw sôn am dargedau, ac o ystyried yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths ddoe ynghylch yr angen am strategaeth tlodi plant, rhaid imi ddweud fy mod i'n poeni braidd am hynny hefyd, ac ymrwymiad y Llywodraeth iddo. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau
'i'n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a'r rhai rydym ni'n gweithio â nhw ganolbwyntio ar...[y] camau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Nid yw ysgrifennu strategaethau yn rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd neb na helpu neb i dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn.'
Na, rwy'n cytuno nad yw ysgrifennu strategaethau'n bwydo plant llwglyd na'n golchi eu dillad nac yn eu cadw'n gynnes, ond fel y dywedais yn gynharach, mae'n hanfodol gallu rhoi ffocws, targedu, gwerthuso ac ysgogi gwaith ar draws y Llywodraeth.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, i ddweud ei bod wedi dod ar draws adroddiad Achub y Plant a gyhoeddwyd 15 mlynedd yn ôl, tua'r adeg yr ymunodd hi â'r elusen. 'Gwrandewch!' oedd teitl yr adroddiad, ac roedd yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd gyda 100 o blant a phobl ifanc rhwng pump ac 16 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ledled Cymru yn 2007. Dywed,
'Dagrau pethau yw bod yr hyn sydd yn yr adroddiad yn adleisio cymaint o’r hyn rydym yn ei glywed heddiw gan blant a theuluoedd'.
Fe siaradodd y plant a gymerodd ran, meddai,
'am golli allan ar nifer o agweddau o blentyndod gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd nifer yn teimlo fel eu bod yn cael eu trin yn wahanol ac yn cael eu bwlio oherwydd y dillad roeddent yn eu gwisgo. Ceir disgrifiadau o sut mae tlodi yn gallu effeithio ar ddiet plant ac arwain at broblemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac roeddynt yn myfyrio ar sut y gwyddent pan oedd eu rhieni yn teimlo’n drist oherwydd na allent brynu’r pethau roedd eu hangen ar eu plant.'
Yna dywedodd:
'A dyma ni yn y flwyddyn 2022 ac yn parhau i glywed straeon am blant mor ifanc â saith mlwydd oed yn dweud wrth ei hathrawes ei bod yn poeni am ei mam, gan iddi ei gweld yn crio am fod yna ddim ond tun o ffa pob yn y cwpwrdd bwyd. Mam arall yn dweud wrthym mai dim ond £50 sydd ganddi yn weddill i fwydo teulu o bedwar wedi iddi dalu ei biliau i gyd ac nad yw’n gwybod ble arall i droi.'
'Rydym hefyd yn clywed am rieni oedd wedi gorfod anfon eu plant i fyw gydag aelodau o’r teulu dros y gwyliau haf oherwydd na allent fforddio eu bwydo, ac am blant yn colli allan ar dripiau i lefydd fel Ynys y Barri oherwydd na allai eu rhieni fforddio y costau trafnidiaeth.'
Mae plant, meddai, yn talu'r pris am yr argyfwng costau byw, sy'n annerbyniol, ac mae angen gweithredu ar frys. Mae'n mynd rhagddi i ofyn beth y gellir ei wneud. Mae'n nodi'n briodol ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gynyddu budd-daliadau, cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, sicrhau bod cyflogau'n cadw i fyny â chostau. Ond mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r hyn y mae'n ei alw'n
'targedau penodol a cherrig milltir i fynd i’r afael â thlodi plant ar frys mewn modd cydgysylltiedig, ar lefel leol a chenedlaethol, gan ganiatáu i’r sector gyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio law yn llaw.'
Yn ei adroddiad diweddar, mae Archwilo Cymru hefyd yn nodi
'nad oes targed penodol ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd' gan argymell bod Llywodraeth Cymru
'yn pennu camau gweithredu cenedlaethol CAMPUS;
'yn sefydlu cyfres o fesurau perfformiad i farnu’r modd y’i cyflawnir a’i heffaith;
'yn gosod targed ar gyfer mynd i’r afael â thlodi a’i leddfu'.
Mae'r comisiynydd plant hefyd yn ddiamwys. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi plant. Dywed:
'Heb dargedau mae'n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a gweld pa mor dda maent yn gwneud neu pa mor wael maent yn gwneud.'
Felly, sut y byddai targedau'n helpu? Wrth ysgrifennu am y ddadl dros osod targedau, mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn dweud y byddent yn
'rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddatblygu gweledigaeth glir a chydlynol', yn mesur cynnydd ac yn gwella craffu hefyd. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhybuddio'n briodol fod Llywodraethau Cymru olynol,
'wedi datblygu amryw o strategaethau tlodi plant ac wedi gosod targed i'w hun i ddileu tlodi plant erbyn 2020', ond ni wnaed cynnydd sylweddol. Ond mae'n rhaid dysgu gwersi, meddai Dr Evans, a fyddai'n arwain at osod targedau newydd a allai gael effaith go iawn ar lefelau tlodi—targedau a allai adlewyrchu'r hyn sy'n gyraeddadwy gyda chymhwysedd datganoledig, gan y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am ba mor effeithiol y mae'n gweithredu ei pholisïau ei hun, a byddem yn cytuno'n llwyr â hynny.
Yn bwysicaf oll, meddai
'Yn rhy aml yng Nghymru rydym wedi syrthio i'r fagl o osod targedau uchelgeisiol neu ddatblygu strategaethau a dogfennau sy'n gosod nodau a gwerthoedd ag iddynt fwriadau da ond heb lawer o fanylion ynglŷn â sut y gwireddir y rhain. Felly, dylid gosod unrhyw dargedau tlodi ochr yn ochr ag ymrwymiadau clir a phenodol gan Lywodraeth Cymru ar y mesurau ymarferol y mae'n bwriadu eu mabwysiadu i gyrraedd y targedau hynny.'
Mae hwn yn gyngor hollbwysig. Dyma yw hanfod ein cynnig. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau.