Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru. Nid yn unig y mae'n bodoli, ond mae'n staen ar ein cymunedau, oherwydd mae tlodi plant yn achosi niwed difrifol a gydol oes i ganlyniadau'r rhai a fydd yn ddyfodol i'n gwlad, a pho hwyaf y bydd plentyn yn byw mewn tlodi, y mwyaf dwys fydd y niwed.
Sawl gwaith y clywsom yr ystadegau brawychus sy'n creu'r niwed hwnnw yn cael eu hailadrodd yn y lle hwn, mewn dadl ar ôl dadl, gan ddyfynnu adroddiad ar ôl adroddiad? Ond mae'n rhaid inni barhau i'w hailadrodd. Mae'n rhaid inni roi ffocws llwyr ar dlodi plant yn y modd y mae'n galw amdano, a chadw'r ffocws hwnnw, a miniogi'r ffocws hwnnw, oherwydd mae'r lefelau tlodi plant a welwn bellach, wedi'u gwaethygu gan yr argyfwng costau byw, yn peri cymaint o bryder. Nid yw cyfradd tlodi plant unrhyw gyngor yn unman yng Nghymru o dan 12 y cant. Mae hynny'n fwy nag un o bob 10 plentyn ym mhob un ward. Meddyliwch am hynny. Meddyliwch am y plant hynny. Ac mae'r lefelau hyd yn oed yn uwch, wrth gwrs—yn llawer uwch—mewn gormod o'n cymunedau.
Ond mae'n rhaid cofio hefyd nad yw hwn yn fater newydd. A'r hyn sy'n cael ei ailadrodd nawr—yn hytrach na'r ystadegau yn unig—gan y rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi, fel y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, sy'n dadlau dros blant a phobl ifanc, fel y comisiynydd plant, sy'n cwestiynu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i fynd i'r afael â thlodi, fel Archwilio Cymru, a ni ym Mhlaid Cymru, yw bod angen strategaeth newydd arnom i lywio'r gwaith hanfodol hwn, strategaeth gyda thargedau, i ddarparu gwell ffocws a chydgysylltiad ac i lywio'r gwaith sydd angen ei wneud i ddileu tlodi plant.
Mae hon wedi bod yn alwad hirsefydlog, fisoedd lawer cyn i'r argyfwng costau byw a'r argyfwng ynni ddyfnhau'r lefelau echrydus hyn o dlodi plant hyd yn oed ymhellach. Mae'n siomedig gweld gwelliant y Llywodraeth, sy'n teimlo fel gwleidyddiaeth amddiffynnol. Mae'n colli pwynt ein cynnig, sy'n ategu'r galwadau hyn am strategaeth gyda thargedau' i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas, gyda'r adnoddau a'r pwerau sydd gennym, i gyflawni'r nod rydym i gyd eisiau ei weld—nad oes yr un plentyn yng Nghymru yn dioddef niwed tlodi.
Do, fe gafwyd buddsoddiad. Ond dyna pam mae angen inni fesur ei effeithiolrwydd yn erbyn targedau strategol, gan sicrhau bod arian yn cael ei wario lle mae ei angen fwyaf, lle gall gael yr effaith fwyaf. Mae angen gwerthuso'n well, cydlynu ymdrechion yn well, ac osgoi dyblygu neu atebion tymor byr. Hebddo, yn anochel fe geir dull sydd â bwriad da ond mae'n dameidiog, gan arwain at enghreifftiau fel cynllun peilot bwndeli babanod 2018, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Barnardo's, a wnaeth sicrhau canlyniadau cadarnhaol a llai o stigma i rieni newydd drwy greu llinell sylfaen a sicrhau y gallai pob rhiant ddarparu'r hanfodion sydd eu hangen ar gyfer babi newydd-anedig. Ond ni chafodd ei gyflwyno'n ehangach. Dywedodd Barnardo's, sydd hefyd yn cefnogi galwadau am strategaeth tlodi plant newydd, y gallai hyn, ar adeg pan fo pwysau ariannol enfawr ar y rhan fwyaf o aelwydydd, fod wedi sicrhau bod pob rhiant newydd yn cael cymorth profedig, effeithiol ar gyfer eu teuluoedd ifanc.
O ran y cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at ei strategaeth tlodi plant bresennol, gadewch inni gofio ein bod yn siarad am yr un a fabwysiadwyd dros 10 mlynedd yn ôl, wedi'i diwygio yn 2015, a'r un y dywedodd Archwilio Cymru ei bod wedi dyddio. Ac wrth gwrs, cafodd ei tharged canolog—i ddileu tlodi plant erbyn 2020—ei dynnu'n ôl. Felly, nid yw adroddiad diweddaru ar strategaeth ddi-darged sydd wedi dyddio yn ddigon da mewn gwirionedd, yn enwedig wrth ymdrin â mater mor ddifrifol ac mor ddinistriol â thlodi plant.
Cyrhaeddodd yr adroddiad cynnydd hwnnw ein mewnflychau ar ôl 6 o'r gloch neithiwr, gyda datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ef. O ddifrif? Dylai hyn fod ar flaen busnes y Llywodraeth, ac eto dyma ni, yn yr wythnos olaf un o waith cyn y toriad, adroddiad munud olaf. Dim datganiad, dim dadl yn ystod amser y Llywodraeth yn y Siambr i ddatgan beth sydd wrth wraidd gwelliant y Llywodraeth.
Gan droi at yr adroddiad hwnnw, roedd yn anodd iawn dod o hyd i unrhyw werthusiad o gamau gweithredu a nodwyd yn y diweddariad—y niferoedd a gynorthwywyd, yr effaith ar fuddiolwyr, y canlyniadau a gyflawnwyd. Nid yw rhestru'r camau gweithredu a faint o arian a wariwyd yn ddigon. Sut y gwyddom pa wahaniaeth a wnaed i lesiant a sicrwydd economaidd teuluoedd incwm is sydd â phlant yng Nghymru? A yw cynnydd yn unrhyw un o'r meysydd hyn wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd i gyfraddau tlodi plant yn gyffredinol?