Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch. Rydym yn cefnogi cynnwys y cynnig hwn. Wrth siarad yma yn 2019 i gefnogi cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth, cyllideb a chynllun gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, nodais y datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y pryd, sef
'Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir', a
'dylai Llywodraeth Cymru lunio Cynllun Cyflawni ar Dlodi Plant newydd, a chanolbwyntio ar gamau pendant, mesuradwy'.
Dyfynnais hefyd y canfyddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod
'lefelau tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain', a'r datganiad gan Oxfam Cymru,
'Nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi'n gweithio; mae'n ymwneud â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu.'
I fod yn glir, mae tlodi plant yng Nghymru wedi bod ar gynnydd ers 2004, pan godais hyn gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd yn 2008, y flwyddyn y cododd i 32 y cant yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 34 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, tra bod ffigur y DU wedi gostwng i 27 y cant. Y prif reswm am hyn o hyd yw'r ffaith mai Cymru sydd wedi bod â'r twf isaf o ran ffyniant y pen o holl wledydd y DU ers 1999, Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain, a chyflogau yng Nghymru yw'r isaf yng ngwledydd y DU. A hyn oll er inni dderbyn biliynau mewn cyllid a oedd i fod yn gyllid dros dro, a gynlluniwyd i gefnogi datblygu economaidd a lleihau anghydraddoldeb rhwng gwledydd a rhanbarthau.
Mae adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar dlodi plant, a gyhoeddwyd neithiwr, yn gyfleus iawn, yn nodi mai Llywodraeth y DU sy'n dal i fod â'r ysgogiadau allweddol i fynd i'r afael â thlodi, gan ddangos meddylfryd, unwaith eto, sy'n canolbwyntio ar drin y symptomau yn unig yn hytrach na mynd i'r afael â'r achosion, ac osgoi'r realiti mai Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am faterion yn cynnwys datblygu economaidd, addysg, sgiliau, tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ers bron i 24 mlynedd. Mae'n wirion taflu bai drwy honni mai dewis gwleidyddol oedd cyni. Gallai Llywodraeth Cymru, sy'n mynnu rhagor o arian yn ddiddiwedd, ddysgu gwers gan Denis Healey, Alistair Darling ac wrth gwrs Liz Truss, na allwch fynd yn groes i'r farchnad.
Erbyn 2010, y diffyg yng nghyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr Undeb Ewropeaidd. Bu'n rhaid i Ddulyn ofyn am becyn achub gwerth €85 biliwn gan yr UE, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn gyfnewid am fesurau cyni. Ar ôl ceisio mynd yn groes i'r farchnad i ddechrau, bu'n rhaid i Wlad Groeg weithredu mesurau cyni difrifol fel rhan o gytundeb achub yr UE, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Roedd datganiad cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Mawrth 2010 yn cydnabod bod maint y diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, gyda'r Canghellor Alistair Darling yn cyfaddef y byddai toriadau arfaethedig Llafur mewn gwariant cyhoeddus yn ddyfnach ac yn llymach na thoriadau'r 1980au.
Felly, cafodd cyni ei etifeddu gan Lywodraeth y DU yn 2010, ac fe wnaeth methiant i leihau'r diffyg greu risg o fwy o doriadau gorfodol. Fel y gŵyr pob benthyciwr, ni allwch leihau dyled nes bod incwm yn fwy na gwariant, ac roedd Llywodraeth y DU bron â bod wedi dileu'r diffyg pan darodd COVID-19. Heb hyn, ni allai'r DU fod wedi codi'r £300 biliwn a fenthycwyd er mwyn ein cynnal drwy'r pandemig. O ystyried bod cyfraddau chwyddiant presennol yn uwch mewn 23 o wledydd Ewropeaidd ac 16 o 27 aelod-wladwriaeth yr UE nag yn y DU, gyda'r newyddion heddiw, gobeithio, yn dangos ein bod dros y brig yn y DU, fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhagweld bod o leiaf hanner gwledydd yr ewro yn anelu am ddirwasgiad, a bod cyfraddau llog banc canolog y DU yn is nag mewn llawer o economïau mawr, dim ond rhywun gwirion iawn fyddai'n honni bod yr argyfwng costau byw presennol wedi'i greu yn San Steffan. Er gwaethaf angen Canghellor y DU i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng cyllid cyhoeddus a ragwelir a'r gofyniad i leihau dyled fel cyfran o gynnyrch domestig gros, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ystod o gamau ar waith i helpu i liniaru pwysau costau byw. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn unol â hynny.
Rydym angen strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru nawr sy'n canolbwyntio ar gamau pendant a mesuradwy, ac sy'n cynnwys system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig, i ymgorffori'r holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt. Mae angen camau gweithredu go iawn yn seiliedig ar adroddiad 'Left Behind?' Local Trust yn Lloegr, sy'n dangos bod gan ardaloedd tlotach sydd â mwy o gapasiti cymunedol a seilwaith cymdeithasol ganlyniadau iechyd a llesiant gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd tlotach nad oes ganddynt y pethau hynny, ac mae angen cynllun twf gyda'r sector busnes, y trydydd sector a'n cymunedau, i adeiladu economi Gymreig fwy llewyrchus o'r diwedd. Diolch.