Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Mae mwy nag un o bob tri o blant ledled Cymru yn byw o dan y llinell dlodi—o leiaf 10 plentyn mewn dosbarth o 30—ac mewn rhai ardaloedd, mae’r gyfradd hyd yn oed yn uwch, ac yn anffodus, dim ond gwaethygu mae pethau wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar fwyfwy o bobl. Mae gan Gymru gyfradd tlodi plant uwch na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud yn yr adroddiad cynnydd tlodi plant fod nifer o’r ysgogiadau o fynd i’r afael â thlodi, megis pwerau dros y systemau treth a lles, dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, nid yw hyn yn golygu bod modd pwyntio bys yn llwyr at y Deyrnas Unedig ynghylch y diffyg cynnydd yma yng Nghymru. Hyd yn oed mewn awdurdodau lleol mwy cefnog, mae o leiaf chwarter y plant yn byw o dan y llinell dlodi ar hyn o bryd. Mae'n broblem enbyd ym mhob rhan o Gymru.
Roedd ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos, rhwng 2016 a 2019, fod gan plentyn yng Nghymru 13 y cant o debygrwydd o fod mewn tlodi parhaus. Ymhellach, roedd 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol o 2017 i 2020. Roedd y ffigur hwn wedi cynyddu o'r 28 y cant a adroddwyd arno’n flaenorol, ac mae'n cynrychioli'r ffigur canrannol uchaf ar gyfer holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Mae tlodi yn effeithio ar bob agwedd o fywyd plentyn. Yn yr ysgol, gall gau plant allan o gyfleoedd i gymryd rhan, dysgu a ffynnu. Ym mhob ysgol yng Nghymru, mae nifer cynyddol o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd fforddio hanfodion bywyd. Mae cyfraddau tlodi wedi’u gwaethygu gan bandemig COVID-19 a rŵan, gyda’r argyfwng costau byw, yn golygu bod cymaint yn rhagor o deuluoedd angen cymorth. Dywed 88 y cant o aelodau NEU Cymru fod y tlodi plant a brofir gan eu dysgwyr wedi gwaethygu ers dechrau 2020, a dangosodd arolwg a gynhaliwyd ganddynt effeithiau enbyd tlodi ar ddysgwyr: dangosodd 92 y cant o ddysgwyr arwyddion o flinder; 86 y cant yn ei chael yn anodd canolbwyntio; 71 y cant yn dangos arwyddion o newyn yn ystod y diwrnod ysgol; 31 y cant yn dangos arwyddion o afiechyd; a 23 y cant yn profi bwlio oherwydd bod eu teulu mewn tlodi. Hynny yng Nghymru yn 2022. Mae pob plentyn yn haeddu mynediad teg i addysg, ond ar eu pennau eu hunain, ni all ysgolion roi’r holl gymorth sydd ei angen ar y dysgwyr hyn.
Fel rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon, mae cost y diwrnod ysgol yn achosi llawer o broblemau i ddysgwyr o deuluoedd incwm isel. Gofynnir yn gyson i deuluoedd gyfrannu tuag at gost gwisg ysgol, tripiau, codi arian at elusen, prydau ysgol a byrbrydau, a darparu offer ac adnoddau ar gyfer prosiectau. Ac er bod cymorth ar gael, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, gan olygu bod ysgolion un ai methu gwneud rhai pethau sydd yn cyfoethogi bywydau plant, gan fod eu cyllidebau hwythau wedi eu gwasgu, neu fod y dysgwyr hynny sydd yn methu fforddio yn colli allan.
Mae yna straeon torcalonnus ledled Cymru ynglŷn â phlant yn peidio â dangos llythyrau i rieni, gan nad ydynt eisiau creu straen iddynt—ddim hyd yn oed yn sôn am drip. Ar ymweliad ag ysgol yn fy rhanbarth yn ddiweddar, mi ddywedodd senedd yr ysgol wrthyf eu bod nhw wedi dewis na fyddan nhw'n gwneud nifer o'r gweithgareddau y byddan nhw fel arfer yn eu gwneud oherwydd eu bod nhw'n gwybod y byddai hynny yn creu straen ar rieni. Dyma blant ysgol gynradd yn penderfynu nad ydyn nhw'n mynd i roi straen feddyliol ar eu rhieni oherwydd yr argyfwng costau byw.
Dengys ymchwil fod plant a phobl ifanc o gartrefi llai cefnog yn fwy tebygol o arddangos lefelau uwch o unigrwydd, bod eu boddhad o fywyd yn is, ac nad ydynt yn mwynhau mynd i’r ysgol. Mae’n destun pryder bod yr allgáu cymdeithasol a deimlir gan ddysgwyr incwm isel yn aml yn cael ei waethygu gan fathau eraill o anghydraddoldeb, gyda phlant incwm isel o grwpiau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a du yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig ac yn anhapus yn yr ysgol, o gymharu â plant gwyn Cymreig a Phrydeinig o statws cymdeithasol economaidd tebyg.
Mae tlodi plant hefyd yn gadael bylchau amlwg mewn cyrhaeddiad addysgol—rhywbeth y bûm yn trafod â disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanishen yn ystod eu hymweliad â’r Senedd ddoe. Clywais ganddynt hwy, a’u hathro, fod cost trafnidiaeth yn rhwystr i rai disgyblion ddod i’r ysgol a bod hyn yn effeithio ar gyrhaeddiad y disgyblion mwyaf bregus. Rwyf wedi codi hyn droeon dros y misoedd diwethaf, ond parhau mae’r broblem a gwaethygu.
Mae’n amlwg iawn bod yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y funud ddim yn gweithio a ddim yn mynd yn ddigon pell. Mae angen nid yn unig strategaeth, ond targedau pendant a monitro cyson ohonynt os ydym am fynd i’r afael â’r broblem. Cafwyd ymrwymiad yn y gorffennol i ddiddymu tlodi plant erbyn 2020. Yn 2022, mae’r sefyllfa yn waeth nag y bu erioed. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu gwell.