Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Gadewch inni fod yn glir: mae'r ffaith bod tlodi'n bodoli yn fethiant llwyr ar ran y Llywodraeth—Llywodraethau ar ddwy ochr yr M4. Mae'n fethiant ar ran y ddwy Senedd, ac mae'n fethiant system economaidd, system sy'n annog ac yn elwa o'r elw mwyaf posibl ar draul pobl, oherwydd dyna rydym yn siarad amdano yma—pobl. Dyna sydd y tu ôl i ffigurau tlodi—pobl a'u teuluoedd. Mae'r ffaith bod 31 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn drosedd.
Cyn y pandemig, gwelsom duedd gynyddol yn y lefelau o ddiffyg diogeledd bwyd yn y cartref. Mae'r duedd honno wedi gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw, gan ddyfnhau'r caledi ariannol a wynebir gan lawer o aelwydydd ledled Cymru. Mae tlodi bwyd yn broblem fawr. Mae bodolaeth banciau bwyd ynddo'i hun, heb sôn am y cynnydd yn eu defnydd, yn ogystal â'r cynnydd mewn mentrau i fynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau, yn tystio i system sydd wedi methu. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd sy'n gam i'r cyfeiriad cywir. Ymwelais ag Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ddiwedd mis Tachwedd, fy hen ysgol gynradd, i weld y polisi ar waith, ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd y neuadd a'r meinciau yn llawer llai nag y cofiaf, ond roedd yn foment falch i mi, o wybod bod Plaid Cymru wedi gwthio i wireddu hyn. Ond mae angen mynd ymhellach. Nid yw tlodi'n dod i ben pan fyddwch chi'n mynd i'r ysgol gyfun neu'n mynd i'r coleg. Dylai cael pryd bwyd yn yr ysgol fod yn rhan sylfaenol o'r diwrnod ysgol.
Er bod prydau ysgol am ddim yn un o'r camau pwysig y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant a phlant llwglyd, mae bylchau amlwg mewn diogeledd bwyd a maeth, wrth i lawer o blant ei chael hi'n anodd bwyta digon. Yn y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o bobl yng Nghymru wedi rhedeg allan o fwyd cyn gallu fforddio prynu mwy. Mae adroddiad cynnydd tlodi plant 2022 yn tynnu sylw at hyn. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant bwyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 42 mlynedd a rhagwelir y bydd yn codi ymhellach. Mae prisiau cyfartalog y bwydydd rhataf wedi codi mwy nag eitemau bwyd eraill, sy'n golygu bod aelwydydd a oedd cyn nawr yn prynu'r bwydydd rhataf wedi gweld eu biliau'n codi'n frawychus, ac ychydig iawn o le sydd ganddynt i newid i brynu bwyd rhatach. Mae hyn hefyd wedi ysgogi cynnydd yn y galw am ddarpariaethau bwyd mewn argyfwng.
Mae nifer sylweddol o athrawon a staff ysgol yn sylwi ar blant yn dychwelyd i'r ysgol yn llwglyd ar y diwrnod cyntaf ar ôl y gwyliau. Ym mis Gorffennaf 2017, roedd banc bwyd yn Abertawe wedi rhedeg allan o fwyd oherwydd bod plant yn llwgu yn ystod y gwyliau. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, lle mae dros draean yr holl fwyd yn cael ei ddosbarthu i blant, yn dweud bod y galw am fwyd yn codi hyd yn oed yn uwch yn ystod y gwyliau. Y gwir yw bod yn rhaid i ni ddiddymu llwgu yn ystod y gwyliau, ac mae angen i hynny ddigwydd nawr.
Lywydd, ers fy ethol yn 2021, rwyf wedi ymgyrchu i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ogystal â chynyddu'r trothwy, a nawr yn fwy nag erioed mae angen gweithredu'r newid hwn. Fe wnaeth y gynghrair Dileu Tlodi Plant gynnal arolwg o 476 o bobl ifanc am yr argyfwng costau byw, ac yn frawychus, dywedodd 97 y cant eu bod yn credu bod costau byw cynyddol yn broblem i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed heddiw. Dyma eiriau unigolyn ifanc 17 oed mewn coleg yng Nghymru: 'Ni allaf ddefnyddio'r gwres mwyach am ei fod yn rhy gostus, ac ni allwn ddod o hyd i unrhyw le i fyw, am fod ein contract rhent yn dod i ben ac mae rhent wedi codi'n aruthrol. Rwy'n casáu brwydro fel hyn. Mae'n gwneud imi deimlo nad oes dim sy'n werth byw ar ei gyfer. Rwy'n oer. Yn fuan, bydd fy nheulu mewn sefyllfa fyw ofnadwy, ac nid wyf hyd yn oed yn gallu mwynhau gweithgareddau eraill am na allaf eu fforddio.'
Wrth gwrs, dylem ymfalchïo yn y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, ond dylem hefyd gydnabod nad yw'n ddigon ar hyn o bryd. Nid yw'r cymorth ariannol a ddarperir yn ddigon; nid yw wedi newid ers 2004. Yn ôl y Gweinidog addysg, fe ddylai fod oddeutu £54 yr wythnos heddiw, yn hytrach na £30, sy'n golygu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi torri traean oddi ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg mewn termau real dros y degawd a hanner diwethaf. Mae goblygiadau dwfn i'r toriad hwn, yn enwedig gan fod y trothwyon ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2011. Mae hyn wedi creu gwahaniaeth mawr rhwng dysgwyr, gan fod yn rhaid iddynt fod gryn dipyn yn dlotach nawr na'u cyfoedion yn ôl yn 2011 i gael hawl i gymorth o gwbl.
Gwrandewais gyda diddordeb mawr ddoe ar y cyhoeddiad ynglŷn â'r £28 miliwn ychwanegol i addysg. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog ar ryw bwynt yn gallu rhoi arwydd a fyddai modd defnyddio rhywfaint o'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg ai peidio. Wedi'r cyfan, mae adroddiad cynnydd tlodi plant 2022 yn dweud bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn allweddol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, gan leihau anghydraddoldebau addysgol yn benodol. Os yw Llywodraeth Cymru'n wirioneddol angerddol ynglŷn â chymryd y camau a gwneud y penderfyniadau i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi, gallai ddechrau drwy adolygu a diwygio'r lwfans cynhaliaeth addysg.
I orffen, Lywydd, gall profi tlodi yn gynnar mewn bywyd gael effaith niweidiol ar ragolygon bywyd yn nes ymlaen. Tlodi yw'r her fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'n effeithio ar iechyd, mae'n effeithio ar gyrhaeddiad, mae'n effeithio arnom i gyd. Blaenoriaethau—dyna nod y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn enwedig gyda'r gyllideb sydd ganddi nawr. Yn fy marn i, rhaid rhoi'r flaenoriaeth honno i fynd i'r afael â thlodi plant.