Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Mae'n rhaid i fi bwysleisio pwysigrwydd y ddadl yma gan ein meinciau ni y prynhawn yma. Mi ganolbwyntiaf i ar y cysylltiad amlwg iawn rhwng tlodi a phroblemau iechyd. Rydyn ni'n mynd trwy gyfnod ariannol enbyd o anodd ar hyn o bryd. Mae hynny'n amlwg o'r gyllideb ddrafft y cyhoeddwyd ddoe, cyllideb efo cyfyngiadau mawr arni hi mewn amseroedd gwirioneddol galed, a does yna ddim syndod yn y cyd-destun hwnnw bod yna gymaint o rwystredigaeth yn ei sgil hi. Ond yn fwy nag erioed, mae gennym ni sefyllfa lle mae arian yn brin i'r mwyafrif, a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru yn gorfod ffeindio ffyrdd o arbed arian dros y misoedd nesaf. Ond, wrth gwrs, i'r rhai sy'n byw mewn tlodi gwirioneddol, mae'r misoedd nesaf am fod yn anoddach fyth. Mae'n broblem, wrth gwrs, oedd yn bodoli ymhell cyn yr argyfwng costau byw, ond mae'n gymaint, gymaint gwaeth rŵan.
Fel rydyn ni wedi ei glywed yn barod y prynhawn yma, yng Nghymru mae'r gyfran uchaf o dlodi ymysg ein plant a phobl ifanc drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r effaith mae tlodi plant yn ei gael ar eu hiechyd nhw, nid yn unig heddiw ond am weddill eu hoes mewn llawer o achosion, yn ddifrifol tu hwnt. Mae deiet gytbwys ac iach yn gallu bod yn ddrud, yn anffodus, fwy fyth felly mewn argyfwng costau byw. Erbyn hyn, mae dros un plentyn o bob pedwar dros eu pwysau wrth ddechrau yn yr ysgol gynradd, a bron i hanner y rheini yn ordew. Ac rydyn ni, wrth gwrs, yn llawn ymwybodol am y cyswllt rhwng plant sy'n byw mewn tlodi a gordewdra. Does dim byd yn newydd yn hyn, ond wrth edrych ar y ffigurau, sydd yn wirioneddol frawychus, ac yna astudio cynlluniau'r Llywodraeth, mae rhywun yn gweld bod yna ddim byd amlwg mewn lle yna sy'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Does yna ddim ffocws digonol ar leihau y niferoedd. Yna, mae'n rhaid rhoi llawer, llawer mwy o sylw ar yr ataliol—pregeth rydych chi'n ei chlywed gen i yn ddigon aml yma.
Sgileffaith gordewdra ymysg ein plant a phobl ifanc ydy rhagor o broblemau iechyd wrth iddyn nhw dyfu i fyny, mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni. Mae plant sy'n byw mewn tlodi ddwywaith mwy tebygol o ddioddef o ordewdra na phlentyn sydd yn byw y tu allan i dlodi. Rŵan, mae'r camau cyntaf wedi cael eu cymryd i daclo hyn, buaswn i'n licio meddwl, drwy'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru i sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd o fwyd iach yn yr ysgol, ond mae'n rhaid gweld llawer mwy. Mae'n rhaid gweld strategaeth bellach gan y Llywodraeth a chynllun yn ei le i sicrhau bod bwyd iach a mynediad at ymarfer corff, drwy sicrhau bod yr adnoddau iawn ar gael, ac ati, ar gael i bob plentyn, a hynny tu fewn a thu allan i waliau'r ysgol. Mi fyddai hynny'n gam gwirioneddol tuag at daclo problemau iechyd yn gyffredinol.
Mae gordewdra yn cael effaith gwirioneddol negyddol yn gorfforol ar blant yn yr hirdymor—diabetes math 2, problemau calon a strôc ac ati—ond mae o hefyd yn cael effaith ar ddelwedd, yn cael effaith ar hunanhyder ac iechyd meddwl unigolion yn gyffredinol. Ac wrth gwrs, mae problemau iechyd meddwl yn gallu dechrau am sawl rheswm. Mae'r niferoedd sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn cynyddu. Rydyn ni'n gwybod hynny. Ac mae'r cynnydd yna wedi bod yn fwy amlwg byth ar ôl y pandemig. Mae rhyw 12 y cant o blant blwyddyn 7 yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a'r nifer yna'n cynyddu i 22 y cant erbyn blwyddyn 11. Ac fel mae tystiolaeth yn dangos, y plant sydd o deuluoedd llai cefnog eto sy'n dioddef fwyaf. Dyma ichi blant sydd ddwywaith mwy tebygol o gael eu bwlio yn yr ysgol, plant sy'n llai tebygol o allu gwneud ffrindiau neu gadw cylch o ffrindiau agos yn yr ysgol, plant sy'n gweld eu rhieni nhw yn dioddef eu hunain yn sgil y penderfyniadau anodd y maen nhw'n gorfod eu gwneud bob dydd am fod arian yn brin arnyn nhw. Wrth gwrs bod hynny'n mynd i gael effaith ar iechyd meddwl y plentyn. Efo mwy a mwy o blant yn byw mewn tlodi, does yna ddim syndod, nac oes, bod y ffigurau iechyd meddwl yn dal i gynyddu yma yng Nghymru.
I gloi, tra bod ein sefyllfa economaidd ni yn dal i waethygu, y flaenoriaeth, wrth gwrs, rŵan, ydy sicrhau bod y tlotaf yn ein cymunedau ni yn gynnes y gaeaf yma, yn cael bwyd, yn cadw’n iach, ond mae'n rhaid inni, tra'n delio efo'r sefyllfa acíwt honno, gyflymu’r gwaith, i’w wneud o'n llawer, llawer mwy o flaenoriaeth i gymryd y camau ataliol angenrheidiol fel ein bod ni'n codi y mwyaf anghenus allan o dlodi. Rydyn ni angen strategaeth tlodi plant gyda thargedau clir, targedau uchelgeisiol, ac mae arnom ni hynny i'n plant ni ym mhob cwr o Gymru.