Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Fel llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae tlodi'n effeithio ar unigolyn ifanc mewn sawl ffordd, o'u iechyd a'u datblygiad gwybyddol i ganlyniadau cymdeithasol ac addysgol. Gall canlyniadau hyn aros gydag unigolyn ar hyd ei oes. Dyna pam ei bod mor anfaddeuol fod y rhan fwyaf o deuluoedd agored i niwed wedi gorfod ysgwyddo baich mesurau cyni Torïaidd dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae cyflwyno credyd cynhwysol wedi gadael miliynau o bobl yn waeth eu byd, ac rydym hefyd wedi gweld effeithiau dinistriol y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn, a'r penderfyniad i rewi'r lwfans tai lleol. Ni ellir diystyru'r rhain bellach fel penderfyniadau anodd ond angenrheidiol. Mae'r blaid Dorïaidd yn parhau i wneud dewisiadau gwleidyddol i ddiogelu'r rhai cyfoethog iawn, tra bod un o bob tri phlentyn ar draws y DU yn byw mewn tlodi.
Rydym hefyd wedi gweld ras i'r gwaelod gyda safonau cyflogaeth o dan eu goruchwyliaeth hwy. Mae cynnydd mewn cyflogau sy'n llawer is na chwyddiant a chontractau dim oriau wedi achosi i gyfraddau tlodi mewn gwaith gynyddu. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud yr hyn a all i liniaru effaith y polisïau hyn. Mae ein plaid yn credu mewn cyffredinolrwydd, na ddylai neb gael eu gadael ar ôl, a dyna pam mae Cymru'n arwain y ffordd gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, gofal plant am ddim o ddwy flwydd oed ymlaen, brecwast ysgol am ddim, presgripsiynau am ddim, y cynllun grant amddifadedd disgyblion, a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae'r polisïau hyn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, a chredwch fi, mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed. Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac addysg yn parhau i fod yn un o'r ysgogiadau mwyaf pwerus i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ymgorffori atal, a buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol.
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n cynnwys £320 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i barhau â'i rhaglen hirdymor o ddiwygio addysgol a sicrhau bod anghydraddoldeb addysgol yn lleihau a safonau'n codi. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar, £40 miliwn i elusen Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, £90 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, £64.5 miliwn ar gyfer diwygio ysgolion a'r cwricwlwm yn ehangach, a buddsoddiad o £63.5 miliwn mewn darpariaeth ôl-16. Rwy'n croesawu'r ymroddiad hwn i fuddsoddi mewn addysg a'n pobl iau, ond rhaid i ni dderbyn bod Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu o ran yr hyn y gall ei wneud tra bo Llywodraeth y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae gan Gymru boblogaeth fwy oedrannus, mwy o wledigrwydd, cysylltedd trafnidiaeth gwael, a mwy o ddibyniaeth ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus, gyda thraean o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o'r rhain, fel nyrsio a gofal cymdeithasol, yn effeithio mwy ar fenywod, sy'n dal i fod yn brif ofalwyr plant hyd heddiw. Mae angen ariannu Cymru'n well. Roedd hyn yn hysbys pan oeddem yn rhan o Ewrop, gan ein bod yn fuddiolwyr net. Fe dderbyniodd Cymru £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na'r hyn roedd yn ei dalu i mewn, ac roedd y budd cyffredinol i Gymru tua £79 y pen yn 2014. Ers hynny, ni chafwyd arian yn lle'r arian hwn. Mae arnom angen system les addas i'r diben, o'r crud i'r bedd sy'n sicrhau nad oes neb yn syrthio i grafangau tlodi, a hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud tro pedol ar ei llwybr tuag at gyni, ni ellir cyflawni hyn. Diolch.