– Senedd Cymru am 5:58 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais. Iawn. Fe wnawn ni bleidleisio nawr ar y pleidleisiau ar eitem 7, sef y ddadl rŷn ni newydd ei chlywed—y ddadl gan Blaid Cymru ar dlodi plant. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais—na, sori. Mae yna un Aelod yn dal i bleidleisio.
Mae un Aelod eto i bleidleisio. Rwy'n credu ei fod newydd sylwi.
Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, ac mae gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1.
Cynnig NDM8165 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i strategaeth tlodi plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, wyth yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Mae'r pleidleisio drosodd. Cyn imi alw'r ddadl fer—
—a gaf fi ddymuno Nadolig hapus i chi i gyd, Nadolig llawen, pan ddaw?
Dwi'n dymuno Nadolig llawen, llonydd a heddychlon i chi i gyd. Nadolig llawen.