1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 10 Ionawr 2023.
Prynhawn da, Prif Weinidog.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddileu arosiadau aml-flwyddyn am driniaeth yn y GIG? OQ58907
Prynhawn da Dr Hussain. Llywydd, yn y chwe mis ar ôl cyhoeddi'r rhaglen adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd, mae arosiadau hir yn GIG Cymru wedi gostwng 23 y cant. Mae hynny o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol sylweddol, cyfleusterau estynedig, diwygio gwasanaethau ac, yn bennaf oll, ymdrech enfawr staff y GIG eu hunain.
Diolch yn fawr Prif Weinidog. Wrth gwrs, rydym i gyd yn cydnabod y straen aruthrol sydd ar ein GIG ar hyn o bryd, ond mae arosiadau aml-flwyddyn wedi bod o gwmpas ers ymhell cyn y pandemig, yn enwedig mewn orthopedeg. Mae un o fy etholwyr wedi bod yn aros am ben-glin newydd ers 2019. Mae wedi bod yn aros mewn poen dros dair blynedd a hanner, a'r cwbl y mae'r bwrdd iechyd lleol yn ei ddweud wrthyf i yw bod y rhestr aros dros bedair blynedd o hyd ac y dylai'r claf weld ei feddyg teulu er mwyn rheoli'r boen. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn gwbl annerbyniol i gleifion orfod aros mor hir â hynny, neu fod gofal eilaidd yn rhoi'r beichiau ychwanegol hyn ar sector gofal sylfaenol sydd eisoes wedi'i or-ymestyn? Rwy'n cofio codi cwestiynau tebyg yn ystod fy nhymor cyntaf yn y Senedd, ac eto, dyma ni bron i ddegawd yn ddiweddarach yn cael yr un hen drafodaeth am orthopedeg. Prif Weinidog, pryd fydd cleifion Cymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu o'r diwedd?
Llywydd, nid wyf yn derbyn y darlun cyffredinol y mae'r Aelod yn ei bortreadu, sef bod hwn yn gyflwr sydd wastad wedi bod yn broblem yn GIG Cymru. Roedd amseroedd aros yn GIG Cymru wedi bod yn gostwng dros bedair a phum mlynedd yn olynol hyd at fis Mawrth 2019 a thu hwnt. Effaith y pandemig sydd wedi creu'r rhestrau aros hir hynny, ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae'r arosiadau hiraf, sef yr arosiadau hiraf yn y GIG yng Nghymru, wedi gostwng 23 y cant rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Hydref y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys enillion ym maes orthopedeg, sef un o'r arbenigeddau anoddaf o ran gweld ffordd o ddatrys yr ôl-groniad a'r gweithgarwch cynyddol, oherwydd yr effaith mae COVID yn parhau i'w chael, yn y ffordd y caiff theatrau llawdriniaeth a gweithdrefnau eraill eu cynnal yn y GIG yng Nghymru. Wrth gwrs rydym eisiau gweld yr arosiadau hynny'n cael eu lleihau ymhellach, a thra bod pobl yn aros, rwy'n credu y gall clinigwyr gofal sylfaenol chwarae rhan yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau yn y ffordd orau bosibl.
Ym Mae Abertawe yn enwedig, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y bwrdd iechyd yn bwriadu canolbwyntio gofal orthopedig arfaethedig yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gan ryddhau capasiti yn Nhreforys, cadw 10 gwely yn Nhreforys ar gyfer yr achosion mwyaf cymhleth, ac, wrth wneud hynny, cael gwelyau pwrpasol fydd yn caniatáu ailddechrau hyd yn oed mwy o driniaethau mor gyflym â phosib.
Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n cymryd tipyn o wyneb i Geidwadwr feirniadu'r gwasanaeth iechyd gwladol? Un o'r problemau yr ydym ni wedi'u gweld dros y degawd diwethaf yw sut mae cyni wedi rhwygo'r galon allan o'n gwasanaethau cyhoeddus. Fe rwygodd Brexit y galon allan o'n heconomi. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud i ddathlu 75 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol yw rhoi'r math o arian sydd ei angen arno er mwyn cyflawni ar gyfer pobl heddiw ac yn y dyfodol. Mae hynny'n golygu bod angen i chi fod yn gwbl glir yn eich cyfarfod nesaf gyda Phrif Weinidog y DU, bod cyni wedi methu ers degawd, nid yw'n mynd i lwyddo yn ystod y degawd nesaf, ac os ydym eisiau gweld y gwasanaeth iechyd gwladol yn llwyddo fel y mae wedi gwneud, ac fel yr oedd Aneurin Bevan yn dymuno iddo wneud, yna mae angen buddsoddi ynddo ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol.
Diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n ein hatgoffa ni o ba mor ffyrnig yr oedd y Blaid Geidwadol ar y pryd yn gwrthwynebu Aneurin Bevan. Ni fyddai gennym wasanaeth iechyd gwladol petai'r blaid honno wedi cael ei ffordd. Yr hyn sy'n sicr yn wir yn yr hyn a ddywed yw hyn: Llywydd, os edrychwch chi ar lefelau boddhad o ran y gwasanaeth iechyd gwladol, roedd y lefelau ar eu hanterth yn y flwyddyn 2010, ac maen nhw wedi bod ar eu hisaf yn ystod y misoedd diwethaf. Pam felly? Y rheswm am hynny, yn 2010, yw y bu degawd o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Roedd lefel y buddsoddiad yn ein GIG wedi cyrraedd y lefel oedd ar gael ymhlith ein cymdogion Ewropeaidd. Mae degawd o gyni wedi erydu'r holl enillion hynny. Mae hyn wrth wraidd yr anawsterau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd—yr anawsterau yr ydym ni'n eu hwynebu gyda phobl yn teimlo rheidrwydd i fynd ar streic i fynegi eu hanfodlonrwydd ynghylch yr effaith y mae cyflog sydd wedi ei ddal yn ôl dros ddegawd wedi'i gael ar eu bywydau, ac rydym yn ei weld yn y buddsoddiad sydd wedi bod ar gael ar draws y Deyrnas Unedig i gadw'r gwasanaeth hwnnw mewn trefn dda. Byddaf yn sicr yn gwneud y pwynt hwnnw pan fyddaf yn gweld y Prif Weinidog nesaf, ond mae'n bwynt yr ydym ni'n ei wneud yn fwy cyffredinol i bobl ar draws y Deyrnas Unedig: mae angen Llywodraeth ar y wlad hon sy'n barod i fuddsoddi yn y GIG ac i atgyweirio'r difrod a wnaed gan y 12 mlynedd diwethaf.