1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch Llywydd. Mae'n rhyfeddol bod y Prif Weinidog yn dweud bod angen Llywodraeth ar y wlad hon i fuddsoddi yn y GIG pan bleidleisiodd ef a'i gyd-Aelodau i dorri cyllideb y GIG yn 2011 a 2012. Mae'r cofnod yn dangos mai chi yw'r unig wleidyddion yn y Siambr hon sydd erioed wedi pleidleisio o blaid torri cyllideb y GIG, Prif Weinidog.
Y pwynt arall o wahaniaeth rhwng rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd wedi digwydd dros yr wythnos diwethaf yw eich bod wedi cyflwyno cynnig ac wedi cyfarwyddo'r GIG i ryddhau cleifion heb gynlluniau gofal a darpariaeth addas o fewn y gymuned pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau. Mae meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud y gallai cleifion, o bosib, farw neu gael niwed difrifol. Ydych chi'n cytuno gyda'r meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol o ran eu hasesiad o'ch cynlluniau chi?
Llywydd, rwy'n gwrthod yn llwyr y cymeriadu a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, a dylai wybod yn well. Mae'n gwbl anghyfrifol yn camgyfleu'r cyngor, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru. Mae gennyf eu llythyr yma o fy mlaen i ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn cadarnhau'r cyhuddiadau y mae arweinydd yr wrthblaid newydd eu gwneud. Mae'n cyfeirio drwyddo draw at ryddhau diogel. Ond, yr hyn y mae'n ei wneud yw dweud wrth y system bod yn rhaid i'r system ymdrin â'r cydbwysedd risg ar draws yr holl bobl hynny y mae'n ceisio darparu gofal ar eu cyfer. Mae gennym ni bobl, fel mae e'n gwybod yn iawn ac fel mae'n fy atgoffa i ar lawr y Senedd yn aml, sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddrws ffrynt y system hon, yn aml, pobl ag anghenion sylweddol iawn. Ar ben arall y system, cyn y Nadolig, roedd gennym 1,200 o gleifion mewn gwelyau gwasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd yn ddigon iach yn feddygol i gael eu rhyddhau. Nawr, yr hyn y mae llythyr y dirprwy brif swyddog meddygol a phrif swyddog nyrsio Cymru yn ei wneud yw dweud wrth y byrddau iechyd bod yn rhaid iddyn nhw gydbwyso'r risgiau hynny. Os oes cleifion mewn gwelyau ysbyty sy'n aros am brofion, gallent gael eu rhyddhau'n ddiogel a'u galw'n ôl i mewn pan fydd y profion hynny ar gael. Efallai nad yw pob elfen o becyn gofal yn ei le, ond mae'r pecyn gofal sydd yno'n ddigon diogel i ganiatáu rhyddhau cleifion. Yn hytrach na diwylliant o berffeithrwydd ynghylch rhyddhau, a diwylliant o argyfwng wrth ddrws ffrynt ysbyty, mae'r llythyr yn ceisio ailgydbwyso hynny a'i wneud mewn ffordd glinigol gyfrifol.
Roedd hwnnw'n gyngor da i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; fe welwch gyngor cyfochrog yn cael ei baratoi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n cefnogi'r hyn y mae'r prif swyddog nyrsio a'r dirprwy brif swyddog meddygol wedi ei ddweud wrth y gwasanaeth, ac rwy'n credu y bydd yn arwain at well gofal i lawer o gleifion, sydd fel arall—ag anghenion critigol iawn—yn cael eu hunain yn aros yn rhy hir i gael mynediad at ddrws ffrynt ysbyty.
Prif Weinidog, nid wyf yn camgyfleu cyngor unrhyw un. Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ymarferwyr ar y rheng flaen, wythnos ar ôl wythnos, ddydd ar ôl dydd, yr wythnos diwethaf, yn dweud mai cyngor gwael yw'r cyngor hwn, ac yn y pen draw mae'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed. Nid fi sy'n dweud hyn. Byddai chwilio drwy Google yn gyflym ar unrhyw un o'r cyfrifiaduron y mae pawb yma heddiw yn eu defnyddio yn gweld hynny yn y straeon newyddion a oedd yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad penodol hwn. Os ydych chi'n dweud ei fod yn camgyfleu, pam na chawsoch chi'r gweithwyr iechyd proffesiynol i mewn cyn i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, er mwyn rhoi'r sicrwydd y byddai angen arnyn nhw i gefnogi'r cyngor a roddodd eich dirprwy brif swyddog meddygol a'ch prif swyddog nyrsio yr wythnos diwethaf, yn hytrach na rhuthro i roi'r cyngor ac achosi pryder, achosi poendod, ac achosi gofid?
Llywydd, ni frysiwyd y cyngor mewn unrhyw ffordd; cafodd ei gyhoeddi ar 30 Rhagfyr. 27 Rhagfyr oedd y diwrnod unigol prysuraf yn hanes 75 mlynedd y GIG yng Nghymru. Ar y diwrnod unigol hwnnw, cafodd 550 o gleifion eu derbyn i welyau yn y GIG yng Nghymru. Roedd pump y cant o gapasiti gwelyau'r GIG i gyd yn cael eu defnyddio mewn un diwrnod, gydag ambiwlansys yn dal yn gorfod aros i ryddhau cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys a phobl yn gorfod aros am driniaeth ar ôl cyrraedd. Ymatebodd y llythyr mewn ffordd sobr a chyfrifol i'r gyfres honno o amgylchiadau, gan gynghori clinigwyr ynghylch sut y gallent wneud trefniadau yn ddiogel ar gyfer pobl a oedd yn addas yn feddygol i gael eu rhyddhau—1,200 o bobl mewn gwelyau ysbyty pan oedd y gwasanaeth iechyd eisoes wedi cwblhau popeth yr oedd y gwasanaeth iechyd yn bwriadu ei ddarparu i'r cleifion hynny. Yn syml, nid wyf yn credu y gall fod yn gyfrifol i nodweddu'r cyngor hwnnw yn y ffordd y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ceisio ei wneud y prynhawn yma.
Nid wyf ond wedi cymryd sylwadau a dyfyniadau ac arsylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol, Prif Weinidog. Nid wyf wedi ychwanegu dim o fy ngeiriau fy hun. Fel y dywedais i, mae'r dystiolaeth yno i bobl ei gweld. Rydych chi'n dweud na ruthrwyd y dystiolaeth hon. Y seithfed ar hugain o Ragfyr i'r degfed ar hugain o Ragfyr, dyna 72 awr. Newidiwyd egwyddor sylfaenol yn y broses ryddhau, sef cael cynlluniau gofal ar waith ar gyfer pobl a oedd yn cael eu rhyddhau. Yr hyn y mae pobl eisiau gwybod yw, a allwch chi roi sicrwydd, pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau y bydd y cymorth hwnnw yno, y gefnogaeth honno, a'r arweiniad hwnnw, fel nad yw pobl yn cael eu haildderbyn yn y pen draw oherwydd nad yw'r amgylchiadau y maen nhw wedi'u rhyddhau i mewn iddyn nhw yn ddigon da i sicrhau gofal am y cyflwr yr aethant i'r ysbyty o'i herwydd yn y lle cyntaf? Oherwydd fel arall, byddwch yn bradychu eu hymddiriedaeth yng ngallu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru i'w rhoi yn ôl ar y llwybr i adferiad ac yn y pen draw diogelwch mewn bywyd.
Llywydd, mae'r cyngor yn ymdrin yn uniongyrchol â sicrhau nad yw pobl yn cael eu rhyddhau o dan amgylchiadau a fyddai'n arwain at eu haildderbyn yn gyflym. Mae'n siarad am bobl sydd, er enghraifft, yn aros am asesiad, ac yn awgrymu ei bod hi'n well i rywun aros am asesiad gartref, yn hytrach nag aros mewn gwely ysbyty—gwely ysbyty nad yw ar gael wedyn i rywun nad yw mewn cyflwr meddygol sefydlog yn aros am asesiad, ond sy'n aros i fynd i mewn drwy ddrws yr ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arno. Mae cydbwysedd risg yn rhywbeth y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag ef o ddydd i ddydd, ac wedi gwneud erioed.
Beth wnaeth y llythyr oedd sicrhau bod y clinigwyr yn gwybod bod ganddyn nhw, wrth wneud y penderfyniadau hynny, gefnogaeth eu cydweithwyr uchaf yn y gwasanaeth yng Nghymru wrth wneud y penderfyniadau anodd hynny. Nid oes dim yn y llythyr o gwbl sy'n awgrymu y dylai unrhyw un gael eu rhyddhau'n anniogel, y dylid rhyddhau unrhyw un mewn amgylchiadau lle byddai'n hysbys y byddai angen i'r person hwnnw geisio aildderbyniad. Yn syml, fe geisiodd, mewn ffordd gyfrifol, ymateb i amgylchiadau'r gwasanaeth iechyd drwy ddweud y gellid cyflymu taith y bobl y gellid gofalu amdanyn nhw yn ddiogel gartref er mwyn gwneud yn siŵr, fel un o egwyddorion mwyaf sylfaenol y GIG cyfan, bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gallu mynd i flaen y ciw.
Cwestiynau nawr gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. O ran cyflog y GIG, Prif Weinidog, rydym wedi amcangyfrif, yn seiliedig ar ffigurau yr ydych chi wedi'u rhannu â ni, y gallech fforddio o leiaf 3 y cant o ddyfarniad cyflog ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon. Nawr, rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd wedi dweud nad yw'n cydnabod y ffigurau hynny, felly a allwn ni gymryd yn ganiataol y bydd y dyfarniad cyflog yr ydych chi'n bwriadu ei gynnig yn llai na'r ffigur hwnnw? Fe ddywedoch chi fis yn ôl nad oedd arian ychwanegol ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, a nawr rydych chi wedi dod o hyd iddo. Rydych chi nawr yn dweud na fydd arian ychwanegol y flwyddyn nesaf, felly dim ond taliad untro y gall hwn fod. Ond pam na allwch chi ddefnyddio'r un broses yr ydych chi wedi'i defnyddio ar gyfer y gyllideb eleni ar gyfer y gyllideb y flwyddyn nesaf? A hyd yn oed os nad yw hynny'n ddigonol, ydych chi'n derbyn bod gennych chi bwerau codi trethi a allai gynhyrchu refeniw ychwanegol? Felly, nid yw'n iawn i ddweud bod eich gallu i droi taliad untro yn godiad cyflog rheolaidd yn cael ei benderfynu'n llwyr gan San Steffan; mae'n ddewis gwleidyddol.
Wel, mae yna ddewisiadau gwleidyddol yma, Llywydd, ac mae ffeithiau caled hefyd, ac mae'n ffaith galed na allwch wario arian untro i dalu am filiau rheolaidd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at ein cydweithwyr yn yr undebau llafur yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i siarad â nhw. Rydym wedi rhoi pecyn o fesurau at ei gilydd. Rwy'n falch y byddwn yn cael cyfarfod gyda'n hundebau llafur ddydd Iau yr wythnos hon.
Mae un elfen o'r pecyn hwnnw'n cynnwys cynnig taliad anghyfunol untro yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r swm o arian sydd wedi ei gasglu ar gyfer hwnnw wedi ei ennill drwy fawr ymdrech dros gyfnod y Nadolig, pan oedd cyd-Weinidogion yn y Cabinet i gyd wedi gorfod edrych ar gynlluniau gwario yn chwarter olaf eleni a chytuno ar ffyrdd y gellid aildrefnu hynny i ryddhau arian i gefnogi'r cynnig hwnnw. Ond dim ond yn y flwyddyn ariannol hon y mae'r arian ar gael.
Byddwn yn trafod gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur; dyna'r lle iawn i ni drafod cwantwm yr arian y gellir dod o hyd iddo, ac yna byddwn yn trafod gyda nhw y ffordd orau y gellid gwasgaru'r arian hwnnw ymhlith ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Felly mae'n ddiddorol bod Plaid Cymru wedi ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig wrth awgrymu mai'r ffordd i ariannu cyflogau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw codi trethi hyd yn oed ymhellach nag y maen nhw ar boblogaeth Cymru eisoes. Mae arweinydd Plaid Cymru'n iawn yn dweud mai dewis gwleidyddol yw hwnnw, a dyna ddewis gwleidyddol wnaeth y Cabinet hwn ei drafod yn fanwl yn y cyfnod cyn y gyllideb ddrafft. Roedd yna eiliad—eiliad fer, fel y gwyddoch, pan oedd Liz Truss yn Brif Weinidog—pryd yr oedd cynlluniau i leihau lefel y dreth incwm ar draws y Deyrnas Unedig, ac fe wnaeth hynny, rwy'n credu, agor posibilrwydd realistig y gallem fod wedi codi cyfraddau treth incwm yng Nghymru heb roi dinasyddion Cymru o dan anfantais y flwyddyn nesaf y tu hwnt i'r sefyllfa y maen nhw ynddi eleni.
Bydd dinasyddion Cymru yn talu trethi uwch y flwyddyn nesaf, Llywydd, nag yr oedden nhw dros y 70 mlynedd diwethaf. Gofynnir iddyn nhw wneud hynny yn nannedd argyfwng costau byw a hwythau eisoes yn ei chael hi'n anodd talu biliau tanwydd, biliau ynni, biliau bwyd a biliau eraill hefyd. Edrychodd y Cabinet hwn i weld a ddylem ni dynnu mwy o arian o'u pocedi drwy godi trethi, a phenderfynu nad oedd hynny'n ffordd synhwyrol o weithredu. Dyna ein barn ni o hyd, ac felly nid yw'n gam gweithredu y byddwn ni yn ei dilyn, i ddod o hyd i arian untro eleni ac i ddod o hyd i arian rheolaidd y flwyddyn nesaf, sef drwy godi lefelau treth hyd yn oed yn uwch yng Nghymru.
Ond mae'r defnydd cynyddol o dreth incwm er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag cyni Torïaidd yn safbwynt sosialaidd hirsefydlog yr ydym yn ei arddel yn y blaid hon, ac mae'n rhywbeth yr oeddech chi'n arfer credu ynddo hefyd.
Fe wnaethoch gydnabod, yn eich sylwadau ddoe, y cwymp mewn ymddiriedaeth ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Sut ydych chi'n bwriadu ailadeiladu'r ymddiriedaeth hon? Ydych chi'n bwriadu newid natur y cylch gwaith drwy ganolbwyntio'n llwyr ar ba lefelau cyflog sy'n angenrheidiol i recriwtio, cadw a chymell staff, a gadael y cwestiwn o fforddiadwyedd i wleidyddion benderfynu arno? Ac a allwch chi hefyd ddweud a ydych chi'n agored i awgrym yr undeb bod unrhyw gynnydd a gytunir ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ionawr eleni? Dyna egwyddor yr ydych chi wedi ei derbyn yn eich trafodaethau cyflog gyda Trafnidiaeth Cymru. Ac ydych chi'n agored i ofyn i'r corff adolygu cyflogau ailedrych ar ei argymhellion ar gyfer eleni, a wnaed cyn y cynnydd enfawr mewn costau byw, ac adlewyrchu unrhyw ddyfarniad uwch mewn codiad cyflog parhaol?
Wel, Llywydd, bydd y Llywodraeth yn cynnal ein trafodaethau gydag undebau llafur, gyda'r undebau llafur. Dyna'r ffordd gywir i ddatrys y materion hyn, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r ffordd rwy'n credu sy'n barchus i'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, sef ein bod yn trafod y materion hyn yn uniongyrchol gyda nhw, yn hytrach na thrwy ddirprwy ar lawr y Senedd. A dyna a wnawn ni.
Byddwn ni, wrth wneud hynny, yn siarad â nhw, fel yr wyf i'n ei ddweud, ynghylch sut y gellir gwasgaru unrhyw swm o arian y gallwn ei sefydlu yn y flwyddyn ariannol hon ymhlith aelodau'r undebau llafur. Yn sicr, byddwn eisiau siarad â nhw am ffyrdd y gellid ailsefydlu ymddiriedaeth yn y broses adolygu cyflogau. Bydd syniadau y byddwn eisiau eu rhoi ar y bwrdd o ran sut y gellid gwneud hynny, ac rwy'n awyddus iawn yn wir i glywed gan ein cydweithwyr undebau llafur ynglŷn â sut maen nhw'n credu y gellir adfer ffydd yn y broses honno.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, o safbwynt gweithiwr yng Nghymru, ein bod ni'n gallu gwneud hynny, Llywydd. Dros 20 mlynedd, ac yn enwedig yn y 12 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod wrthi yn ceisio ymladd yn erbyn cyfres o ymdrechion gan Gangellorion Ceidwadol i symud tuag at gyflogau rhanbarthol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Does dim y bydden nhw'n hoffi mwy na gweld gweithwyr Cymru yn cael llai o gyflog na gweithwyr mewn mannau eraill. Mae'r broses adolygu cyflogau yn diogelu gweithwyr Cymru rhag rhanbartholi cyflogau, a dyna pam yr wyf yn credu bod ymdrech wirioneddol i ailsefydlu ymddiriedaeth yn y broses honno'n werth ei gwneud.
Ond mae'r broses adolygu cyflogau wedi arwain at doriad degawd o hyd, mewn termau real yng nghyflogau staff ein GIG. Felly, mae'r system wedi torri, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddal y Llywodraeth i gyfrif a gofyn iddi ddatgan beth yw eich egwyddorion democrataidd eang. A ni yma yw llais staff y GIG. Rydym ni wedi bod ar y llinellau piced yn siarad â nhw. Rydym ni'n gwneud y pwyntiau maen nhw wedi gofyn i ni eu rhannu â chi.
Mae'n dda gweld eich bod yn barod i ymdrin o'r diwedd, â'r cynnydd enfawr yn y defnydd o staff asiantaeth y sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau'r GIG. Ydy hyn yn golygu eich bod chi'n ymbellhau o sefyllfa'r Blaid Lafur yn Lloegr, sy'n galw am fwy o ddefnydd o'r sector preifat yn y GIG—preifateiddio trwy ddirprwy, yn y bôn? Ydych chi, fel Llywodraeth, yn barod i ailymrwymo i'r egwyddor a arddeloch chi 16 mlynedd yn ôl, sef dileu'r defnydd o'r sector preifat yn y GIG yn llwyr? Neu a yw'r addewid hwnnw am fynd yr un ffordd ag addewid arweinyddiaeth Keir Starmer yn 2020, sef rhoi diwedd ar allanoli yn y GIG?
Wel, Llywydd, rwy'n credu mai'r BMA a ddisgrifiodd GIG Cymru fel y GIG agosaf at egwyddorion gwasanaeth iechyd sefydlol mudiad Bevan o unrhyw un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n safbwynt y byddwn yn dymuno ei weld yn cael ei gynnal. Roedd effaith y pandemig yn golygu ein bod wedi gwneud mwy o ddefnydd o gyfleusterau yn y sector preifat nag a byddem cyn hynny, a doedd dim beirniadaeth ar hynny, fel rwy'n cofio, yn ystod cyfnod y pandemig, oherwydd roedd angen i ni ddefnyddio'r holl gyfleusterau y gallem ni roi ein dwylo arnyn nhw i wneud yn siŵr bod pobl a oedd yn dioddef o coronafeirws yn cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnyn nhw. Yn dilyn COVID, byddwn yn gwneud defnydd o rai cyfleusterau yn y sector preifat i leihau'r ôl-groniad o bobl sy'n aros am ofal y buom yn siarad amdano yn gynharach y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, nid wyf i'n ymddiheuro am wneud hynny. Rwy'n ei ystyried yn fesur tymor byr i ymdrin ag ôl-groniad. Ond pan fydd gennym ôl-groniad o'r math yr ydym wedi'i weld—ac rydym ni wedi clywed y prynhawn yma am bobl sy'n aros mewn poen i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw—nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith y byddwn yn defnyddio cyfleusterau yn y sector preifat yma yng Nghymru yn y ffordd tymor byr i leihau'r ôl-groniadau hynny. Ar yr un pryd, rydym ni eisiau meithrin gallu'r gwasanaeth iechyd ei hun, fel ei fod yn y tymor hir yn gallu darparu ar gyfer yr holl anghenion sydd yna yng Nghymru o fewn y gwasanaeth cyhoeddus.