Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Ionawr 2023.
Llywydd, rwy'n gwrthod yn llwyr y cymeriadu a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, a dylai wybod yn well. Mae'n gwbl anghyfrifol yn camgyfleu'r cyngor, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru. Mae gennyf eu llythyr yma o fy mlaen i ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn cadarnhau'r cyhuddiadau y mae arweinydd yr wrthblaid newydd eu gwneud. Mae'n cyfeirio drwyddo draw at ryddhau diogel. Ond, yr hyn y mae'n ei wneud yw dweud wrth y system bod yn rhaid i'r system ymdrin â'r cydbwysedd risg ar draws yr holl bobl hynny y mae'n ceisio darparu gofal ar eu cyfer. Mae gennym ni bobl, fel mae e'n gwybod yn iawn ac fel mae'n fy atgoffa i ar lawr y Senedd yn aml, sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddrws ffrynt y system hon, yn aml, pobl ag anghenion sylweddol iawn. Ar ben arall y system, cyn y Nadolig, roedd gennym 1,200 o gleifion mewn gwelyau gwasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd yn ddigon iach yn feddygol i gael eu rhyddhau. Nawr, yr hyn y mae llythyr y dirprwy brif swyddog meddygol a phrif swyddog nyrsio Cymru yn ei wneud yw dweud wrth y byrddau iechyd bod yn rhaid iddyn nhw gydbwyso'r risgiau hynny. Os oes cleifion mewn gwelyau ysbyty sy'n aros am brofion, gallent gael eu rhyddhau'n ddiogel a'u galw'n ôl i mewn pan fydd y profion hynny ar gael. Efallai nad yw pob elfen o becyn gofal yn ei le, ond mae'r pecyn gofal sydd yno'n ddigon diogel i ganiatáu rhyddhau cleifion. Yn hytrach na diwylliant o berffeithrwydd ynghylch rhyddhau, a diwylliant o argyfwng wrth ddrws ffrynt ysbyty, mae'r llythyr yn ceisio ailgydbwyso hynny a'i wneud mewn ffordd glinigol gyfrifol.
Roedd hwnnw'n gyngor da i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; fe welwch gyngor cyfochrog yn cael ei baratoi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n cefnogi'r hyn y mae'r prif swyddog nyrsio a'r dirprwy brif swyddog meddygol wedi ei ddweud wrth y gwasanaeth, ac rwy'n credu y bydd yn arwain at well gofal i lawer o gleifion, sydd fel arall—ag anghenion critigol iawn—yn cael eu hunain yn aros yn rhy hir i gael mynediad at ddrws ffrynt ysbyty.