Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:58, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ond mae'r broses adolygu cyflogau wedi arwain at doriad degawd o hyd, mewn termau real yng nghyflogau staff ein GIG. Felly, mae'r system wedi torri, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddal y Llywodraeth i gyfrif a gofyn iddi ddatgan beth yw eich egwyddorion democrataidd eang. A ni yma yw llais staff y GIG. Rydym ni wedi bod ar y llinellau piced yn siarad â nhw. Rydym ni'n gwneud y pwyntiau maen nhw wedi gofyn i ni eu rhannu â chi.

Mae'n dda gweld eich bod yn barod i ymdrin o'r diwedd, â'r cynnydd enfawr yn y defnydd o staff asiantaeth y sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau'r GIG. Ydy hyn yn golygu eich bod chi'n ymbellhau o sefyllfa'r Blaid Lafur yn Lloegr, sy'n galw am fwy o ddefnydd o'r sector preifat yn y GIG—preifateiddio trwy ddirprwy, yn y bôn? Ydych chi, fel Llywodraeth, yn barod i ailymrwymo i'r egwyddor a arddeloch chi 16 mlynedd yn ôl, sef dileu'r defnydd o'r sector preifat yn y GIG yn llwyr? Neu a yw'r addewid hwnnw am fynd yr un ffordd ag addewid arweinyddiaeth Keir Starmer yn 2020, sef rhoi diwedd ar allanoli yn y GIG?