Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch Prif Weinidog. Mae pryderon amlwg, cyfiawn yn dilyn rhuthro'r ddeddfwriaeth yn yr Alban drwodd ac, oherwydd natur y Deyrnas Unedig, sut y bydd yn effeithio ar fenywod yma yng Nghymru, yn enwedig o ran pobl ifanc 16 ac 17 oed a throseddwyr rhyw sydd bellach yn cael hunan-ddiffinio heb ddiagnosis meddygol, a'r risgiau clir ac amlwg a ddaw gyda hynny. Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraethau'r Alban a'r DU ynghylch sut bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnom ni, ac a fyddwch felly yn diystyru deddfwriaeth o'r fath yng Nghymru?