Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 10 Ionawr 2023.
Ar 19 Rhagfyr, cafodd digwyddiad mewnol difrifol ei ddatgan yn y bwrdd. Roedd hyn oherwydd pwysau cynyddol COVID, cynnydd mewn achosion o ffliw, pryder y cyhoedd am strep A, streic nyrsys ar 20 Rhagfyr a streic ambiwlans ar 21 Rhagfyr. Mae datgan digwyddiad fel hyn yn arwain at gamau i leihau'r pwysau ar y system, fel y gwelwyd mewn mannau eraill yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.