Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 10 Ionawr 2023.
Nid hwn oedd y datganiad yr oeddwn i'n ei ddisgwyl heddiw; nid hwn oedd y datganiad yr oedd angen i bobl Cymru ei glywed yn fy marn i. Nid cynllun yw hwn; adroddiad ar sefyllfa yw hwn. Adroddiad yw hwn ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud i geisio paratoi'r GIG ar gyfer y gaeaf, i geisio ymdrin â'r pwysau presennol, ond a dweud y gwir rydym ni'n gwybod nad yw'r hyn a wnaeth y Llywodraeth Lafur hon wedi gweithio. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wybod yw beth fyddan nhw'n ei wneud yn wahanol. Mae canlyniadau'r argyfwng i'w gweld yn eglur i gleifion; maen nhw i'w gweld yn eglur i staff. Ond ble mae'r newid cyfeiriad? Mewn gwirionedd, ble mae'r math o weithredu sy'n dangos bod y Llywodraeth yn ceisio ymdrin yn wirioneddol â'r argyfwng hwn? Oherwydd trafodaeth o hanner awr yn unig oedd hon am fod—hanner awr ynglŷn â'r hyn sy'n amlwg o fy ngohebiaethau i, ac, rwy'n siŵr, o rai pawb arall sydd yma, yr argyfwng iechyd mwyaf yn ddiamau, heblaw am COVID ei hun, wrth gwrs, a welsom ni.
Yr hyn yr wyf i'n ei weld yw Gweinidog Llafur yn chwilio am rywun i'w feio am yr argyfwng yn hytrach nag awgrymu datrysiadau newydd. Mae hi'n ddigon digywilydd, a dweud y gwir, i weld bai ar y nyrsys, mae'n ymddangos, wrth ddweud bod eu gweithredu diwydiannol nhw wedi rhoi pwysau ychwanegol ar systemau, er bod y pwysau sydd arnyn nhw, ar y nyrsys a rhai eraill, ynghyd â degawd o wasgfa ar gyflogau, sydd wedi arwain at eu pleidlais nhw i streicio. Ac er fy mod i'n cytuno yn llwyr â'r Gweinidog ar yr anghyfiawnder yn sgil blynyddoedd o gyni'r Ceidwadwyr, mae'n rhaid iddi hi gydnabod mai ar Lywodraeth Cymru y mae'r bai am hyn. A yw'r Gweinidog yn cydnabod mai diffyg Llywodraeth Lafur Cymru o ran cefnogi staff yn arbennig felly sydd ar fai yn hyn o beth?
Mae hi'n cyfeirio at ffigurau oedi wrth drosglwyddo i ofal fel rhywbeth sy'n achosi colli capasiti yn y system, ond ei gwaith hi yw creu'r capasiti hwnnw. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cynllun mwy uchelgeisiol, a dweud y gwir, i gyflymu llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal. Roedd hi'n sôn heddiw am greu 500 o welyau cymunedol ychwanegol. Mae hwnnw'n rhywbeth cadarnhaol, ond rydym ni wedi colli miloedd o welyau. Fe ysgrifennais i ati hi rai wythnosau yn ôl, gan ofyn am waith i'w wneud ynglŷn â'r posibilrwydd o sefydlu cyfleusterau cam-i-lawr cymunedol dros dro ar ddull a welsom ni gyda COVID. Fe ddywedodd y Prif Weinidog ddoe—braidd yn nawddoglyd, yn fy marn i—fod gan y rhai sy'n awgrymu hynny fwriadau da, ond mai diffyg staff yw'r broblem, nid diffyg gwelyau. Wel, (a), mae'r ddau beth yn wir, a (b), Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ddau beth: niferoedd y gwelyau a niferoedd y gweithwyr. Ac, a dweud y gwir, mae'r cynllunio wedi bod yn druenus o ran y gweithlu, ynghyd â'r diffyg o ran ymgysylltu ystyrlon ar hyn o bryd i ddatrys yr anghydfodau diwydiannol, sy'n gwaethygu prinder staff. A yw'r Gweinidog yn cydnabod mai ar y Llywodraeth Lafur y mae'r bai am y methiant i ddatrys yr oedi wrth drosglwyddo i ofal?