Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 10 Ionawr 2023.
Mae gen i ambell i bwynt arall dwi angen gofyn amdanyn nhw'n sydyn. Mae hi'n amlwg bod y cyfuniad o COVID a'r ffliw yn achosi problemau. Mae yna darged o frechu 75 y cant o bawb sy'n cael cynnig y brechiad. Dim ond rhyw 41 y cant, dwi'n deall, o staff gofal iechyd sydd wedi derbyn y brechiad—41 y cant o'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y Llywodraeth yn methu o bell ffordd â chyrraedd eu targedau ar faint o bobl sydd angen cael eu brechu ar gyfer COVID a'r ffliw?
Mae'n rhaid i fi droi at yr ataliol eto. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio eto at waith sy'n cael ei wneud ar hyn: £145 miliwn, rhaglen pum mlynedd er mwyn ceisio osgoi pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty. Ond, y ffordd o osgoi hynny yn yr hir dymor, wrth gwrs, ydy ein gwneud ni'n genedl fwy iach. Ble mae'r buddsoddiad? A thra rydw i, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi bod arian yn dynn heddiw, ble mae'r cynlluniau i wneud y buddsoddiad mawr yna er mwyn trawsnewid ein hagwedd ni tuag at yr ataliol a thynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd yn y ffordd honno?
Ac yn olaf, Llywydd, er mai pwysau gaeaf ydy testun y datganiad yma heddiw, rydym ni'n gwybod bellach, onid ydym, mai pwysau cydol y flwyddyn ydy hyn bellach. Mae'n rhaid sicrhau bod yna le o fewn y gwasanaeth iechyd i 'flex-io', os liciwch chi. Mi ddylai'r gwasanaeth iechyd fod yn rhedeg ar rywbeth fel 85 y cant o gapasiti. Mae o fel petai'n rhedeg ar 100 y cant, 110 y cant, 120 y cant o'i gapasiti drwy'r amser. A all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa bryd oedd yr NHS yng Nghymru yn rhedeg ar tua 85 y cant o'i gapasiti ddiwethaf? Ac ydy hi yn derbyn mai bai Llywodraeth Lafur Cymru ydy'r methiant i greu y capasiti yna o fewn y system?