3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:45, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Diolch am hynny, achos rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall, er bod yna rai enghreifftiau o bethau nad ydynt yn wych yn digwydd yn y GIG ar hyn o bryd, mae yna gannoedd ar filoedd o bethau gwych yn digwydd yn ein GIG ni hefyd, ac mae 376,000 o ymgyngoriadau'r mis yn ffigwr eithaf da; 400,000 o gysylltiadau mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn wythnos. Mae'r rhain yn ffigyrau anhygoel, ac yn sicr pan wy'n mynd yma ac acw, yn aml iawn rwy'n clywed pobl yn dweud, 'Wel, yn bersonol, dwi wedi cael gwasanaeth gwych', ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n sôn am y gwasanaeth gwych yna, oherwydd, a dweud y gwir, mae'n rhaid ei bod hi'n dorcalonnus iawn, yn amlwg nid yn unig i mi, ond i'r bobl sy'n gweithio yn y GIG, os mai'r cyfan a glywch yw negyddoldeb.

O ran yr undebau, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth gwrth-streic sy'n cael ei chyflwyno yn gwbl ddiangen, ac rwy'n credu ei fod yn bryfoclyd iawn, y drafodaeth ddoe, pan oedden nhw'n sôn am gynhyrchiant. Rydych chi'n meddwl, 'Mawredd mawr, pa blaned y mae'r bobl yma'n byw arni?' Oes ganddyn nhw unrhyw syniad pa mor flinedig yw'r bobl yma? Yn fy marn i, roedd yn sarhad enfawr, yn arbennig, i ddechrau trafodaethau gyda hynny. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n siarad am gyfuno cyllidebau, wel, byddwch chi'n ymwybodol, rydyn ni eisoes wedi cyfuno £144 miliwn y flwyddyn drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol, na all pobl ei defnyddio oni bai bod iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, hefyd gyda'r sector gwirfoddol. Felly, mae hwnnw wedi'i glustnodi gennym yn barod. Rwy'n credu y gallwn ni ac rwy'n credu y dylen ni fynd ymhellach, ac yn sicr fy mlaenoriaeth gyntaf, o ran fy nghanllawiau i'r GIG am yr hyn y dylai fod yn ei wneud y flwyddyn nesaf, yw y dylai fod yn ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud wrth weithio gyda'n gilydd mewn perthynas â gofal, gydag awdurdodau lleol, a sicrhau ein bod ni'n rhoi mwy o gefnogaeth gan y GIG yn ôl yn ein cymunedau.